Lwfansau Personol: incwm net wedi’i addasu
Sut i gyfrifo’ch incwm net wedi’i addasu a chael gwybod o dan ba amgylchiadau y gall yr incwm hwn effeithio ar eich rhwymedigaeth treth.
Beth yw incwm net wedi’i addasu
Incwm net wedi’i addasu yw cyfanswm yr incwm trethadwy cyn unrhyw Lwfansau Personol a llai rhyddhadau treth penodol, er enghraifft:
- colledion masnachu
- cyfraniadau a wnaed i elusennau drwy Rodd Cymorth — gan ddidynnu’r swm ‘wedi’i grosio i fyny’
- cyfraniadau pensiwn a dalwyd yn gros (cyn rhyddhad treth)
- cyfraniadau pensiwn lle y mae’ch darparwr pensiwn eisoes wedi rhoi rhyddhad treth i chi ar y gyfradd sylfaenol — gan ddidynnu’r swm ‘wedi’i grosio i fyny’
Adegau pan y gall eich rhwymedigaeth treth gael ei heffeithio gan incwm net wedi’i addasu
Bydd eich incwm net wedi’i addasu yn cael effaith ar eich treth os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol. Rydych yn agored i’r canlynol:
- gostyngiad Lwfans Personol ar sail incwm — lle bo gennych incwm net wedi’i addasu dros £100,000 (ni waeth beth yw’ch dyddiad geni)
- Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel — lle bo gennych incwm net wedi’i addasu dros £60,000
Sut i gyfrifo’ch incwm net wedi’i addasu
Dilynwch gamau 1 i 4 er mwyn cyfrifo’ch incwm net wedi’i addasu.
Cam 1 — cyfrifwch eich ‘incwm net’
Adiwch eich incwm trethadwy at ei gilydd.
Dylech gynnwys pethau fel y canlynol:
- yr arian rydych yn ei ennill drwy’ch cyflogaeth (gan gynnwys unrhyw fuddiannau a gewch o’ch swydd)
- elw rydych yn ei wneud os ydych yn hunangyflogedig (gan gynnwys elw o wasanaethau rydych yn eu gwerthu drwy wefannau neu apiau)
- rhai budd-daliadau’r Wladwriaeth
- y rhan fwyaf o bensiynau (gan gynnwys pensiynau’r Wladwriaeth, pensiynau cwmni, pensiynau personol a blwydd-daliadau ymddeol)
- llog ar gynilion a bondiau pensiynwyr
- difidendau o gyfranddaliadau cwmni
- rhai mathau o incwm rhent
- incwm o ymddiriedolaeth
Tynnwch unrhyw ryddhadau treth sy’n berthnasol, megis:
- taliadau a wnaed yn gros i gynlluniau pensiwn (yn agor tudalen Saesneg) — hynny yw, taliadau a wnaed heb unrhyw ryddhad treth
- colledion masnachu, er enghraifft, rhyddhad ar gyfer colledion masnachu neu ryddhad ar gyfer colledion eiddo
Dyma’ch ‘incwm net’.
Wedyn, caiff eich incwm net ei addasu — dilynwch gamau 2 i 4 isod.
Cam 2 — tynnwch gyfraniadau Rhodd Cymorth
Os gwnaethoch gyfraniad Rhodd Cymorth, tynnwch y swm ‘wedi’i grosio i fyny’ — hynny yw, yr hyn a dalwyd gennych plws y gyfradd dreth sylfaenol.
Felly, ar gyfer pob £1 o gyfraniadau Rhodd Cymorth a wnaethoch, tynnwch £1.25 o’ch incwm net.
Cam 3 — tynnwch gyfraniadau pensiwn
Os gwnaethoch gyfraniad at gynllun pensiwn lle bo’ch darparwr pensiwn eisoes wedi rhoi rhyddhad treth i chi (yn agor tudalen Saesneg) ar y gyfradd sylfaenol, tynnwch y swm ‘wedi’i grosio i fyny’ — hynny yw, yr hyn a dalwyd gennych plws y gyfradd dreth sylfaenol.
Felly, ar gyfer pob £1 o gyfraniadau pensiwn a wnaethoch, tynnwch £1.25 o’ch incwm net.
Cam 4 — adiwch ryddhad treth yn ôl ar gyfer taliadau a wnaed i undebau llafar neu sefydliadau’r heddlu
Mae rhyddhad treth o hyd at £100 ar gael os ydych yn gwneud taliadau i undeb llafur neu sefydliad yr heddlu ar gyfer blwydd-dal, yswiriant bywyd neu fuddiannau angladd.
Os gwnaethoch dynnu swm ar gyfer y math hwn o daliad yng ngham 1, adiwch y swm hynny yn ôl.
Enghreifftiau o incwm net wedi’i addasu
Gostyngiad Lwfans Personol ar sail incwm, incwm dros £100,000
Incwm trethadwy Dewi yw £115,000. Mae hyn yn cynnwys:
- incwm o hunangyflogaeth, £85,000
- incwm o eiddo, £20,000
- llog banc, £10,000
Mae Dewi yn gwneud cyfraniadau pensiwn preifat, heb ryddhad treth, o £10,000.
Incwm net Dewi yw £105,000 (£115,000 llai £10,000).
Nid oes unrhyw addasiadau pellach i incwm net Dewi, felly dyma’i incwm net wedi’i addasu.
Defnyddir incwm net wedi’i addasu Dewi i gyfrifo ei Lwfans Personol.
Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Incwm trethadwy Ffion yw £70,000. Mae hyn yn cynnwys:
- incwm o gyflogaeth, £65,000
- llog banc, £5,000
Mae Ffion yn gwneud cyfraniadau pensiwn preifat, heb ryddhad treth, o £4,750.
Incwm net Ffion yw £65,250 (£70,000 llai £4,750).
Mae Ffion yn gwneud cyfraniadau Rhodd Cymorth o £1,000. Gall Ffion dynnu £1,250 o’i hincwm net, sef £1,000 plws £250, gwerth y gyfradd dreth sylfaenol.
Incwm net wedi’i addasu Ffion yw £64,000 (£65,250 llai £1,250).
Defnyddir incwm net wedi’i addasu Ffion i gyfrifo ei Thâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 13 Awst 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
The example of High Income Child Benefit Charge has been updated.
-
Guidance under heading 'What adjusted net income is' has been updated.
-
Reference to the Personal Savings Allowance, which comes into effect from 6 April 2016, added.
-
First published.