Canllawiau

Gwirio sut mae'r llywodraeth yn gwario’ch trethi — Crynodeb Treth Blynyddol

Gwiriwch sut mae’r llywodraeth yn cyfrifo ac yn gwario’ch Treth Incwm a'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn eich Crynodeb Treth Blynyddol.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn bwrw golwg dros eich Crynodeb Treth Blynyddol. Mae’r crynodeb yn dangos:

  • eich incwm trethadwy o bob ffynhonnell roedd CThEF yn gwybod amdanynt ar yr adeg y cafodd ei baratoi
  • y cyfraddau a ddefnyddir i gyfrifo’ch Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • dadansoddiad o sut mae llywodraeth y DU yn gwario’ch trethi — mae hyn yn gwneud gwariant y llywodraeth yn fwy tryloyw

Gall y crynodeb fod yn wahanol i gyfrifiadau treth eraill gan CThEF. Gallai hyn fod oherwydd y canlynol:

  • bod newid yn eich amgylchiadau
  • bod rhai ffynonellau incwm heb eu cynnwys

Mae’r crynodeb er gwybodaeth yn unig. Nid oes yn rhaid i chi gysylltu â CThEF na’ch cyflogwr.

Nid yw’r crynodeb yn dystiolaeth o incwm. Fel tystiolaeth o incwm, bydd angen y canlynol arnoch:

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu.

Os nad oes gennych grynodeb

Ni fydd gan bawb Grynodeb Treth Blynyddol.

Rhagor o wybodaeth

Dysgwch sut y cyfrifwyd gwariant cyhoeddus yn y crynodebau treth blynyddol (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfrifwch eich Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol (yn agor tudalen Saesneg) i ddysgu faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol y gallech ei dalu’r flwyddyn dreth hon

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Chwefror 2024 + show all updates
  1. Guidance has been updated to show that the Annual Tax Summary is not evidence of income you have received.

  2. Information has been updated on how to find a breakdown of how public spending has been calculated.

  3. The page has been updated and a link to HM Treasury’s Public Spending Statistics page has been added.

  4. The 'How you'll get your tax summary' section has been updated to include information about PAYE notice of coding, and how to opt out of receiving a PAYE annual tax summary.

  5. This guide has been updated to advise you of the introduction of the Scottish Rate of Income Tax from April 2016.

  6. First published.

Print this page