Gwnewch gais am daliad arbennig os gwnaethoch gais am Gymhorthdal Incwm oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd
Sut i wneud cais am daliad arbennig os gwnaethoch gais am Gymhorthdal Incwm oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd yn hytrach na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Os wnaethoch gais am Gymhorthdal Incwm ar neu ar ôl 31 Ionawr 2011 oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i daliad arbennig. Mae hyn oherwydd y dylech fod wedi cael gwybod i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm (ESA) yn lle hynny ac efallai y byddech wedi cael mwy o arian.
Os ydych ar Gymhorthdal Incwm o hyd, byddwch yn cael eich asesu i ddarganfod a ddylech symud i ESA sy’n gysylltiedig ag incwm .
Cymhwyster
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm o hyd
Efallai y bydd gennych hawl i daliad arbennig os yw’r ddau canlynol yn berthnasol:
- gwnaethoch gais am Gymhorthdal Incwm ar neu ar ôl 31 Ionawr 2011 oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd
- nid oeddech yn cael Budd-dal Analluogrwydd na Lwfans Anabledd Difrifol pan wnaethoch y cais am Gymhorthdal Incwm Bydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio i ddarganfod sut mae eich anabledd neu gyflwr iechyd yn effeithio ar faint y gallwch weithio. Ni fyddwch yn gymwys am daliad arbennig oni bai eich bod yn cael eich asesu fel un sydd â ‘gallu cyfyngedig i weithio’ neu ‘gallu cyfyngedig i weithio a gwneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’.
Os ydych wedi symud o Gymhorthdal Incwm i ESA sy’n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Cynhwysol
Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i daliad arbennig os bydd y canlynol i gyd yn berthnasol:
-
gwnaethoch gais am Gymhorthdal Incwm ar neu ar ôl 31 Ionawr 2011 oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd
- nid oeddech yn cael Budd-dal Analluogrwydd na Lwfans Anabledd Difrifol pan wnaethoch y cais am Gymhorthdal Incwm
- cawsoch Asesiad Gallu i Weithio pan symudoch o Gymorth Incwm i ESA sy’n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Cynhwysol a chanfuwyd bod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’ neu ‘gallu cyfyngedig i weithio a gwneud gwaith a gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith’
Sut i wneud cais
Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith a dywedwch eich bod yn holi am yr ‘Adolygiad Ymarfer Ceisiadau Cymhorthdal Incwm’.
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn Testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Iaith Arywddion Prydain (BSL) gwasanaeth cyfnewid fideo os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Mwy o wybodaeth am daliadau galwadau
Beth sy’n digwydd nesaf
Byddwch yn cael gwybod a oes angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth i gefnogi eich cais.
Bydd y DWP yn cymharu’r hyn a dalwyd i chi ar Gymhorthdal Incwm gyda’r hyn y dylai fod wedi cael ei dalu i chi ar ESA sy’n gysylltiedig ag incwm. Os byddech wedi cael mwy o dâl ar ESA sy’n gysylltiedig ag incwm, byddwch yn cael yr arian y dylech fod wedi’i gael.
Os cawsoch fwy ar Gymhorthdal Incwm nag y byddech wedi’i gael ar ESA sy’n gysylltiedig ag incwm, ni fydd rhaid i chi dalu’r arian ychwanegol yn ôl.