Gwneud cais am Ddyfarniad Tariffau Uwch
Dysgwch sut i gael penderfyniad sy’n gyfreithiol rwymol ar y cod nwyddau i’w ddefnyddio wrth fewnforio i Brydain Fawr neu allforio ohoni
Cyn i chi ddechrau
I ddynodi’ch nwyddau â Dyfarniad Tariffau Uwch, mae’n rhaid i chi wneud cais cyn bod yr holl weithdrefnau tollau wedi’u cwblhau — nid oes modd gwneud penderfyniadau yn ôl-weithredol. Gallai rhannau o’ch cais fod ar gael yn gyhoeddus os na fydd eich atodiadau wedi’u nodi’n gyfrinachol.
Gall CThEF wrthod cais os yw’r canlynol yn wir:
- nid ydych yn bwriadu mewnforio’r nwyddau
- nid ydych yn gallu rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol am eich nwyddau
- rydych eisoes wedi clirio’ch nwyddau drwy Weithdrefnau Mewnforio’r Tollau
Yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais
I wneud cais, bydd angen y canlynol arnoch:
- Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth — gallwch greu ID wrth i chi wneud cais
- gwybodaeth fanwl am eich nwyddau, sy’n gallu amrywio yn dibynnu ar beth yn union yw’ch nwyddau
- rhoi llyfrynnau, llawlyfrau, ffotograffau a samplau lle y bo’n briodol (mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni os ydych am i’r wybodaeth hon aros yn gyfrinachol)
Gallwch hefyd roi gwybod i ni beth ddylai’r cod nwyddau fod, yn eich barn chi.
Os oes angen sawl penderfyniad arnoch
Dylech osgoi gwneud ceisiadau am lawer o benderfyniadau lle bo hynny’n bosibl, oherwydd gallai hyn achosi oedi. Os byddwch yn gwneud cais am 10 penderfyniad neu ragor mewn wythnos, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Dynodi Tariffau yn gyntaf drwy e-bostio: [email protected] neu [email protected].
Gwneud cais am Ddyfarniad Tariffau Uwch
Mae’n rhaid i chi gwblhau cais ar wahân ar gyfer pob math o nwyddau sydd angen penderfyniad.
Os oes gennych gyfrif treth busnes
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes i wneud cais am Ddyfarniad Tariffau Uwch.
Mae’n rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio’r ID a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a grëwyd gennych i sefydlu’ch cyfrif treth busnes.
Dewiswch ‘cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun’ ar frig hafan eich cyfrif treth busnes i wneud cais.
Os nad oes gennych gyfrif treth busnes
Gallwch wneud cais am Ddyfarniad Tariffau Uwch gan ddefnyddio’ch ID ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn mewnforio i Ogledd Iwerddon neu’r UE, neu’n allforio oddi yno, bydd angen i chi wneud cais am benderfyniad ynghylch Gwybodaeth am Dariff sy’n Rhwymo (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael dyfarniad cyfreithiol.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Bydd CThEF yn ymateb i’ch cais rhwng 30 a 120 diwrnod gwaith. Byddwch yn cael:
- dyfarniad
- y cod nwyddau cywir ar gyfer eich nwyddau
- y dyddiad dechrau ar gyfer cyfnod dilysrwydd yr wybodaeth
- cyfeirnod sy’n dynodi’ch nwyddau yn unigryw
- enw a chyfeiriad y person sy’n dal yr wybodaeth — dyma’r person sydd â’r hawl gyfreithiol i’w defnyddio (ni ellir trosglwyddo penderfyniadau)
- disgrifiad clir o’ch nwyddau (gan gynnwys unrhyw nodau a rhifau penodol) y gellir ei ddefnyddio i ddynodi’ch nwyddau’n hawdd wrth y ffin
- eglurhad o sut y gellir cyfiawnhau’r penderfyniad yn gyfreithiol
Dod o hyd i enghreifftiau o ddyfarniadau
Bydd eich dyfarniad yn cael ei arddangos ar y wefan ‘Chwilio am Ddyfarniadau Tarriffau Ymlaen Llaw’ (yn agor tudalen Saesneg). Ni chaiff eich gwybodaeth bersonol na manylion cyfrinachol eich nwyddau eu postio.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i ddod o hyd i enghreifftiau o’r cod nwyddau cywir i helpu i ddynodi’ch nwyddau.
Sut i ddefnyddio’r dyfarniad
Pan fyddwch yn cael dyfarniad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- datgan cyfeirnod y Dyfarniad Tariffau Uwch ym Mlwch 44
- rhoi gwybod i’r person sy’n llenwi’ch dogfennau tollau:
- bod eich nwyddau wedi cael Dyfarniad Tariffau Uwch
- beth yw’r cod nwyddau cywir i’w ddefnyddio
Apelio yn erbyn penderfyniad dyfarnu
Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad, gallwch wneud cais am adolygiad drwy e-bost: [email protected] neu [email protected]. Bydd yr hysbysiad o benderfyniad a gewch yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am sut i wneud cais am adolygiad.
Fel arall, gallwch apelio’n uniongyrchol ar y gwasanaeth tribiwnlysoedd, sy’n annibynnol ar CThEF. Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad adolygiad gan CThEF, gallwch ddal i apelio ar y tribiwnlys.
Cysylltu â’r Gwasanaeth Dynodi Tariffau
E-bostio’r Gwasanaeth Dynodi Tariffau: [email protected] neu [email protected]
Cysylltu â’r Gwasanaeth Dynodi Tariffau drwy’r post:
Gwasanaeth Dynodi Tariffau Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX9 1ST
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 31 Rhagfyr 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Information about how to request a review of a ruling decision has been updated.
-
Information about what you need to apply for an Advance Tariff Ruling has been updated.
-
The address to contact the Tariff Classification Service by post has been updated.
-
Information has been added about how to apply if you have a business tax account and if you do not have a business tax account. HMRC will reply to your application within 30 to 120 days.
-
Guidance on what you will need to apply has been updated.
-
Added translation
-
First published.