Canllawiau

Gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch

Gwnewch gais am Ddyfarniad Prisio Uwch er mwyn rhoi cadarnhad cyfreithiol i chi o’r dull cywir i’w ddefnyddio wrth brisio’ch nwyddau a gwneud datganiad mewnforio.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r dull cywir wrth gyfrifo gwerth y nwyddau rydych yn eu mewnforio i mewn i’r DU (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch wneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch cyn i chi wneud datganiad mewnforio, a hynny er mwyn:

  • gwirio eich bod wedi defnyddio’r dull prisio cywir
  • cael penderfyniad a gefnogir gan y gyfraith, sy’n cadarnhau y gallwch ddefnyddio dull prisio penodol

Gallwch fewnforio nwyddau heb fod â Dyfarniad Prisio Uwch, ond bydd bod ag un yn eich helpu i dalu’r doll gywir ar eich nwyddau.

Gall prisio nwyddau fod yn gymhleth, felly mae’n bosibl yr hoffech ofyn i rywun ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn fasnachwr ac yn defnyddio’ch rhif EORI eich hun sy’n dechrau gyda ‘GB’
  • rydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran masnachwr

Os hoffech i asiant weithredu ar eich rhan, bydd angen i chi ychwanegu asiant i’ch cyfrif treth busnes CThEF. Os na allwch ychwanegu asiant drwy’r dull hwn, bydd angen i chi rhoi llythyr o awdurdod i’r asiant.

Cyn i chi ddechrau

Mae angen i chi wneud cais am ddyfarniad cyn i holl weithdrefnau’r tollau gael eu cwblhau — ni ellir gwneud penderfyniadau yn ôl-weithredol.

Gall CThEF wrthod cais os yw’r canlynol yn wir: 

  • nid ydych yn bwriadu mewnforio’r nwyddau
  • nid ydych yn gallu darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol am eich nwyddau
  • rydych eisoes wedi clirio’ch nwyddau drwy Weithdrefnau Mewnforio’r Tollau

Bydd angen:

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi roi dogfennau ategol i ni, sy’n berthnasol i’r nwyddau sy’n cael eu mewnforio, megis:

  • anfonebau masnachol oddi wrth gyflenwyr tramor
  • archebion prynu
  • copïau o gofnodion mewnforio blaenorol
  • dadansoddiad o gostau gweithgynhyrchwyr
  • cytundebau masnachol â chyflenwyr
  • unrhyw ddogfennau perthnasol eraill

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o ddogfennau ategol arnom.

Os bydd angen i chi gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n fasnachol sensitif fel rhan o’ch cais bydd yn rhaid i chi ei marcio’n gyfrinachol pan fyddwch yn gwneud cais. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddogfennau y gallech eu huwchlwytho fel rhan o’ch cais.

Gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch

Mae’n rhaid i chi gwblhau cais ar wahân ar gyfer pob math o nwyddau sydd angen penderfyniad.

Os oes gennych gyfrif treth busnes

Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes er mwyn gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch, gan ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddiwyd gennych wrth greu’r cyfrif.

I wneud cais am ddyfarniad, ewch i hafan y cyfrif treth busnes, a dewis ‘Cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun’.

Os nad oes gennych gyfrif treth busnes

Gallwch wneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Gwneud cais nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn ateb i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law cyn pen 30 diwrnod.

Pan fydd eich cais wedi’i dderbyn byddwch yn cael penderfyniad cyn pen 90 diwrnod.

Bydd eich penderfyniad hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • dyddiad dechrau’r dyfarniad (mae’n ddilys am hyd at 3 blynedd, sy’n golygu y gallwch ddefnyddio’r dyfarniad ar gyfer unrhyw fewnforio pellach o’r nwyddau hyn yn ystod y cyfnod hwn)
  • cyfeirnod unigryw sy’n dynodi’ch dyfarniad
  • enw a chyfeiriad y busnes neu’r person sy’n dal y dyfarniad — dyma bwy sydd â’r hawl gyfreithiol i’w ddefnyddio (ni ellir trosglwyddo penderfyniadau)
  • disgrifiad manwl o’ch nwyddau (gan gynnwys unrhyw nodau a rhifau penodol) y gellir ei ddefnyddio i ddynodi’ch nwyddau’n hawdd wrth y ffin
  • esboniad o sut y cyrhaeddom ein penderfyniad

Sut i ddefnyddio’r dyfarniad

  1. Rhowch wybod i’r person sy’n cwblhau’ch datganiad mewnforio fod eich nwyddau wedi cael Dyfarniad Prisio Uwch.

  2. Rhowch i’r person y dull prisio tollau cywir, ynghyd â’r cyfeirnod Dyfarniad Prisio Uwch i’w ddefnyddio wrth gwblhau’r datganiad.

  3. Ewch ati i ddatgan bod gennych Ddyfarniad Prisio Uwch yn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, fel y manylir yn y Cyfarwyddiadau i wneud Cais am Glirio Tollau a Datganiad CDS (yn agor tudalen Saesneg).

Apelio yn erbyn penderfyniad dyfarnu

Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad, gallwch wneud cais am adolygiad drwy e-bost: [email protected] neu [email protected]. Bydd yr hysbysiad o benderfyniad a gewch yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am sut i wneud cais am adolygiad.

Fel arall, gallwch apelio’n uniongyrchol ar Y Gwasanaeth Tribiwnlys, sy’n annibynnol ar CThEF. Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad adolygiad gan CThEF, gallwch ddal i apelio ar y tribiwnlys.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. The email address for appealing a ruling decision has been added.

  2. Information about what you need before you start to apply has been updated.

  3. You can now arrange for an agent to apply on your behalf without having a Business Tax Account.

  4. Added translation

Print this page