Gwneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant os nad ydych wedi’ch lleoli yn y DU
Dyma wybodaeth am sut i wneud cais am gymeradwyaeth i gael cyfrif gwasanaethau asiant, os yw eich busnes asiant wedi’i leoli y tu allan i’r DU.
Mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF cyn i chi allu creu cyfrif gwasanaethau asiant:
- os yw’ch busnes asiant wedi’i leoli y tu allan i’r DU
- os ydych yn dymuno:
- defnyddio gwasanaethau ar-lein newydd CThEF
- defnyddio meddalwedd i gyfathrebu â CThEF ar ran eich cleientiaid
Bydd ceisiadau i gael mynediad at ein gwasanaeth yn cael eu mesur yn erbyn Safon CThEF ar gyfer asiantau.
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae’ch busnes asiant yn cydymffurfio â chofrestriad Goruchwyliaeth Gwrth-wyngalchu Arian neu reoliadau tebyg yn eich gwlad
- mae’r sawl sy’n gwneud cais yn gyfarwyddwr neu’n uwch swyddog y busnes
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw llawn
- teitl swydd
- enw masnachu’r busnes
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
- prif gyfeiriad masnachu, nid Blwch Post na chyfeiriad trydydd parti
- manylion goruchwylio gwrth-wyngalchu arian, os yw’ch gwlad yn gofyn am hyn, gan gynnwys enw’r corff goruchwylio, eich rhif aelodaeth, a’r dyddiad y bydd angen i’ch aelodaeth gael ei hadnewyddu
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd hefyd angen llun neu sgan o’r canlynol arnoch:
- tystiolaeth o’ch cyfeiriad masnachu, er enghraifft, cyfriflen banc neu fil cyfleustodau sydd wedi’i ddyddio yn ystod y 3 mis diwethaf
- tystiolaeth bod eich busnes wedi cofrestru gyda chorff goruchwylio gwrth-wyngalchu arian, megis llythyr oddi wrth eich corff goruchwylio sydd wedi’i ddyddio yn ystod y 12 mis diwethaf, os yw’ch gwlad yn gofyn am hyn
- tystiolaeth eich bod wedi cofrestru ar gyfer treth, er enghraifft, llythyr oddi wrth awdurdod treth sydd wedi’i ddyddio yn ystod y 12 mis diwethaf
Efallai y bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- unrhyw godau asiant CThEF sydd gennych
- eich rhif Yswiriant Gwladol yn y DU neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad, os oes gennych un
- rhif cofrestru eich cwmni neu rif cyfatebol, os oes gennych un
- unrhyw gyfeirnodau treth busnes sydd gennych yn eich gwlad eich hun
O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i asiantau sy’n cael eu talu, sy’n cyflwyno enwebiadau ar gyfer ad-daliadau Treth Incwm gan ddefnyddio ffurflenni argraffu ac anfon P87, R40 a Ffurflen Hawlio Trosglwyddiad o Lwfans Priodasol (MATCF), ddarparu tystiolaeth o fod wedi cofrestru ar gyfer darparwr gwasanaeth llofnodion electronig uwch. Dylai’r dystiolaeth fod ar ffurf anfoneb drwy lythyr neu e-bost sy’n rhoi manylion am bryniant eich cwmni neu e-bost sy’n cadarnhau bod eich cwmni wedi prynu datrysiad llofnodion electronig uwch.
Sut i wneud cais
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Ni fydd modd i chi gadw’r hyn a wnewch yn ystod y broses felly gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth gennych cyn i chi ddechrau’ch cais.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Hefyd, gallwch weld beth yw hynt eich cais.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi cyn pen 28 diwrnod os yw eich cais wedi’i gymeradwyo, a beth fydd angen i chi ei wneud i greu’ch cyfrif gwasanaethau asiant.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd angen i chi orffen creu eich cyfrif gwasanaethau asiant cyn i chi allu ei ddefnyddio i weithredu ar ran eich cleientiaid.
Os caiff eich cais ei wrthod, byddwn yn rhoi’r rheswm dros hynny i chi.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 12 Chwefror 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Clarified that it's from 6 April 2025 paid agents will need to provide evidence of sign up to an advanced electronic signature service provider.
-
Information added about providing evidence for using an advanced electronic signature process.
-
Your application to access our services will be measured against HMRC Standard for Agents.
-
Added translation
-
More information on what you will need when you apply for an agent services account has been added to the guidance.
-
If HMRC approve your application for an agent services account, you’ll need to finish setting it up before you can use it to act on behalf of your clients.
-
First published.