Canllawiau

Dysgwch a allwch wneud cais am eithriad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Gwiriwch a allwch wneud cais am eithriad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol.

Byddwch yn gallu gwneud cais ar gyfer eithriad rhag defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm pan mae’r broses i wneud cais yn agor.

Os ydych o’r farn eich bod yn un o’r rheiny sydd wedi’u cau allan o’r byd digidol, gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nad yw hi’n ymarferol i chi ddefnyddio meddalwedd er mwyn cadw cofnodion digidol na’u cyflwyno — gallai hyn fod oherwydd eich oedran, anabledd, lleoliad neu reswm arall
  • eich bod yn aelod gweithredol o gymdeithas (neu urdd) grefyddol y mae ei chredoau’n anghydnaws â defnyddio cyfathrebiadau electronig neu gadw cofnodion electronig

Bydd angen i chi esbonio sut mae’r rhesymau hyn yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Os yw CThEF eisoes wedi cadarnhau eich bod wedi eich eithrio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW am un o’r rhesymau hyn, yna ni fydd angen i chi wneud cais am eithriad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Byddwn yn ystyried yr wybodaeth rydych yn ei hanfon atom a rhown wybod i chi am y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • eich bod wedi eich eithrio (rhown wybod i chi’r hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf)
  • pam nad ydych wedi’ch eithrio a sut y gallwch apelio

Os nad ydych wedi’ch eithrio bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os yw’r rheswm dros eich eithriad ddim yn gymwys mwyach mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 3 mis.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cais ar gyfer eithriad yn hwyrach ymlaen pan mae’r broses i wneud cais yn agor.

Pwy sydd wedi’i eithrio’n awtomatig

Rydych wedi’ch eithrio’n awtomatig, ac ni allwch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol os yw’r canlynol yn wir: 

  • rydych yn ymddiriedolwr, gan gynnwys ymddiriedolwr elusennol neu ymddiriedolwr cynlluniau pensiwn anghofrestredig 
  • nid oes gennych rif Yswiriant Gwladol — mae hyn ond yn berthnasol i flwyddyn dreth lle nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol ar 31 Ionawr cyn dechrau’r flwyddyn dreth 
  • rydych yn gynrychiolydd personol i rywun sydd wedi marw 
  • rydych yn aelod o Lloyd’s, mewn perthynas â’ch busnes tanysgrifennu 
  • cwmni dibreswyl 

Os ydych wedi’ch eithrio’n awtomatig, ni fydd angen i chi wneud cais am eithriad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Hydref 2024 + show all updates
  1. Information about who is automatically exempt has been added.

  2. The reasons for when to apply for an exemption from using Making Tax Digital for Income Tax have been clarified.

  3. Added translation

  4. First published.

Print this page