Canllawiau

Gwneud cais am brofant ar bapur fel ymarferydd

Sut i wneud ceisiadau profiant na ellir eu gwneud drwy MyHMCTS.

Pryd i wneud cais ar bapur

Grantiau profiant

Ni all MyHCMTS dderbyn ceisiadau am grant profiant ym mhob achos. Yn yr achosion hyn, rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen bapur:

  • cais am ail grant ar gyfer yr un ystad
  • pan fo’r un sydd â hawl wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth neu ddynladdiad yr ymadawedig neu fel arall wedi fforffedu’r hawl i wneud cais
  • yn achos ewyllys dramor
  • pan wneir y cais ynghyd â chais i brofi copi o’r ewyllys
  • cais ynghyd â chais am gywiriad neu gopi fiat o’r ewyllys
  • cais i gyplysu gweinyddwr, o dan reol 25
  • pan fo gan ddau neu fwy o bobl hawl i’r un graddau, o dan reol 27 (3) to (8)
  • pan fu farw’r ymadawedig a’i ddomisil y tu allan i Gymru a Lloegr, o dan reol 30, ac eithrio grant o dan reol 30 (3)(b)
  • i atwrneiod, o dan reol 31
  • yn ymwneud ag ailselio o dan Ddeddfau Profiant Trefedigaethol 1892 a 1927, o dan reol 39
  • i’w weinyddu o dan bwerau dewisol y llys adran 116, o dan reol 52

Os nad oes unrhyw un o’r amodau uchod yn berthnasol, yna mae’n rhaid i chi ddefnyddio MyHMCTS.

Gallwch wneud cais ar-lein am gorfforaethau ymddiriedolaethau a chyrff corfforaethol eraill, o dan reol 36. Fodd bynnag, gallwch hefyd wneud cais gyda’r ffurflen bapur.

Llythyrau gweinyddu

Gallwch wneud cais ar lein gyda MyHMCTS os yw’r holl amodau canlynol yn eu cael eu bodloni:

  • nid oes ond un ceisydd ac ef yw’r unig un sydd â hawli i’r ystad (y ceisydd yw’r unigolyn a fydd yn cael ei enwi yn y grant)
  • os yw’r ceisydd yn briod / partner sifil neu’n unig blentyn / plentyn mabwysiedig yr ymadawedig
  • lle’r oedd domisil yr ymadawedig y tu allan i Gymru a Lloegr, pan fo’r ystad yng Nghymru a Lloegr yn eiddo na ellir ei symud yn unig
  • pan nad oes hawliad arall ar yr ystad
  • nid oes budd i blentyn
  • pan fo’r ceisydd yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun
  • bu farw’r ymadawedig ar ôl mis 1 Hydref 2014

Ni allwch wneud cais ar-lein a bydd rhaid ichi wneud cais ar bapur os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae atwrnai yn cynrychioli’r ceisydd, o dan Reol 31
  • pan fo pob un sydd â hawl wedi marw ac mae eu cynrychiolwyr personol cyfreithiol yn gwneud y cais
  • yn ymwneud ag ailselio o dan Ddeddfau Profiant Trefedigaethol 1892 a 1927, o dan reol 39
  • i’w weinyddu o dan bwerau dewisol y llys adran 116, o dan reol 52
  • pan fo’r un sydd â hawl wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth neu ddynladdiad yr ymadawedig neu fel arall wedi fforffedu’r hawl i wneud cais

Llythyrau gweinyddu gydag ewyllys atodedig

Gallwch wneud cais ar-lein gyda MyHMCTS os bodlonir yr holl amodau hyn:

  • dim ond un ymgeisydd sydd ar gael a hwy yw’r unig unigolyn sydd â hawl i’r ystad (yr ymgeisydd yw’r unigolyn a enwir ar y grant)
  • mae’r holl fuddiolwyr yn yr ewyllys a/neu’r codisiliau (y sawl fydd yn derbyn rhodd a’r sawl fydd yn cael y gweddill) dros 18 oed
  • mae’r ceisydd wedi’i enwi yn yr ewyllys a/neu’r codisiliau fel yr unig dderbyniwr cymynrodd neu gymynnwr neu’r unig dderbyniwr cymynrodd a chymynnwr
  • mae pob ysgutor, derbynwyr cymynrodd a chymynwyr sy’n dal yr ystad mewn ymddiriedolaeth wedi marw neu wedi dewis peidio â gwneud cais

Rhaid i chi wneud cais ar bapur os yw’r cais:

  • am ail grant ar gyfer yr un ystad
  • am ewyllys tramor
  • ynghyd â chais i brofi copi o’r ewyllys
  • ynghyd â chais am gywiro ewyllys neu gael copi ‘fiat’ o’r ewyllys
  • ar gyfer cyplysiad gweinyddol, o dan reol 25
  • gyfer 2 unigolyn neu fwy sydd â’r un hawl, o dan reol 27 (3) i (8)
  • lle mae budd am oes

Sut i wneud cais

Os oes ewyllys dylid llenwi ffurflen gais PA1P ar gyfer ymarferwyr profiant proffesiynol.

Os nad oes ewyllys dylid llenwi ffurflen gais PA1A ar gyfer ymarferwyr profiant proffesiynol.

Gellir gwneud cais i atal cyhoeddi grant profiant hefyd.

Rhaid talu wrth wneud y cais.

£300 yw’r ffi gwneud cais os yw gwerth yr ystad dros £5,000.

Nid oes ffi os yw gwerth yr ystad yn £5,000 neu’n llai.

Ar gyfer ail grant mewn ystad lle mae grant blaenorol wedi’i roi, y ffi yw £20, hyd yn oed os yw gwerth yr ystad yn £5,000 neu’n llai. Ar gyfer achosion gyda chyfyngiad tir a setlwyd, os yw gwerth yr ystad yn £5,000 neu’n llai, nid oes ffi, ac os yw werth dros £5,000, y ffi yw £300.

Gellir talu:

  • drwy anfon siec yn daladwy i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM gyda’ch dogfennau
  • drwy nodi rhif eich Cyfrif Talu yn eich cais

Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi at wasanaeth profiant GLlTEM gyda’r dogfennau a restrir yn y rhestr wirio ar y ffurflen.

Defnyddio ffurflen IHT400 i wneud cais

Anfonwch y ffurflen yn syth i Wasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC):

Treth Etifeddu
Cyllid a Thollau EM
BX9 1HT

Arhoswch 15 diwrnod gwaith cyn cyflwyno’ch cais i GLlTEM. Bydd cyflwyno’r IHT400 i Gyllid a Thollau EM ar yr un pryd â’ch cais i GLlTEM yn achosi oedi.

Mae Cyllid a Thollau EM yn cymryd 15 diwrnod gwaith i brosesu’r IHT400 a chyhoeddi dogfen Treth Etifeddu 421 (IHT421). Ni fyddant yn dychwelyd yr IHT421 atoch - fe’i hanfonir yn uniongyrchol at GLlTEM.

Anfon eich cais

Dylech anfon eich dogfennau drwy wasanaeth post lle gofynnir am lofnod neu sydd â threfn dracio ac sy’n danfon i flychau PO.

Ni allwn ddychwelyd yr ewyllys nac unrhyw ddiweddariadau iddi.

Ceisiadau yn Gymraeg

Cofrestrfa Brofiant Cymru
Y 3ydd Llawr, Llys Ynadon Caerdydd
Plas Fitzalan
Cardiff
CF24 0RZ

E-bost: [email protected]

Ceisiadau yn Saesneg

Newcastle District Probate Registry
2nd Floor
Kings Court
Earl Grey Way
North Shields
NE29 6AR

E-bost: [email protected]

Cymorth gyda’ch cais

Gallwn ddarparu addasiadau rhesymol os oes gennych anableddau. Cysylltwch â ni i ofyn am addasiad rhesymol neu am gymorth gyda’ch cais.

Ffôn

Llinell Gymraeg: 0300 303 0654 Dydd Llun i ddydd Iau, 9am tan 5pm Dydd Gwener, 9am tan 4.30pm

Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost

[email protected]

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2024 + show all updates
  1. Updated application fee if value of estate is over £5000.

  2. Added updated information on applying using the IHT400 form.

  3. Updated the phone line opening times

  4. Improved accessibility

  5. Updated April's bank holiday week opening times

  6. Updated probate helpline opening hours

  7. Edited the contact us section - The Probate helpline is closed on Saturdays.

  8. Updated probate fees

  9. Added translation

Print this page