Gwneud cais i’r llys am orchymyn cyfraith deulu gyhoeddus
Gwasanaeth ar-lein i alluogi awdurdodau lleol i wneud cais am rai gorchmynion gwarchod plant.
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais am:
- gorchmynion gofal a gorchmynion gofal interim
- gorchmynion goruchwylio a gorchmynion goruchwylio interim
- orchmynion gwarchod brys
- orchmynion eraill o dan ran 4 Deddf Plant 1989
Gwneud cais am orchymyn
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn raddol drwy Gymru a Lloegr o’r 14eg o Fedi.
Pan fydd ar gael yn eich ardal, bydd angen ichi greu cyfrif ar gyfer eich awdurdod lleol, os nad oes gan yr awdurdod gyfrif eisoes.
I greu cyfrif bydd arnoch angen rhif cyfrif ffioedd GLlTEM yr awdurdod lleol i dalu am y cais.
Os oes gennych gyfrif
Os oes gan eich awdurdod lleol gyfrif, gofynnwch i reolwr y cyfrif roi mynediad ichi.
Yna byddwch yn gallu mewngofnodi i wneud cais am orchymyn.
Ffyrdd eraill o gyflwyno cais
Gellir defnyddio’r ffurflen bapur C110A i wneud cais.
Postiwch y ffurflen a 4 copi i’r llys, ynghyd â’r canlynol:
- unrhyw ddogfennau cefnogol
- y ffi
Ni ellir trosglwyddo ceisiadau a gyflwynir ar y ffurflen bapur C110A i’r system ar-lein.
Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol
Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol sy’n cymryd rhan mewn achos diogelu plant a’ch bod, er enghraifft, yn cynrychioli’r rhieni neu barti arall, eglurir sut i weld y dogfennau yn yr achos a gweithredu arnynt yma.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Medi 2020 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation
-
Added translation