Gwneud cais i wneud taliad ar gyfer datganiadau gohiriedig gorddyledus
Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn rhoi gwybodaeth i ni am unrhyw ddatganiadau mewnforio gohiriedig gorddyledus er mwyn i chi allu talu taliadau tollau dyledus.
Cyn i chi wneud cais
-
Bydd angen i chi wirio a ydych yn gymwys i wneud cais i wneud taliad am ddatganiadau gohiriedig gorddyledus.
-
Dylech ond cysylltu â ni dros y ffôn er mwyn cadarnhau cymhwystra.
-
Dylech ond gwneud cais os ydym yn cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny.
Os nad ydych wedi cysylltu â CThEM hyd yn hyn, dylech wneud hynny.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn cwblhau’r ffurflen, bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif EORI
- y manylion mewnforio – dylech fod wedi cadw’r rhain yn eich cofnodion eich hun
Os nad oes gennych EORI, gallwch wirio arweiniad ar sut i gofrestru ar gyfer rhif EORI.
Bydd angen i chi gwblhau ffurflen ar wahân ar gyfer pob math o nwyddau rydych yn eu datgan dros gyfnod o 10 diwrnod.
Os ydych wedi rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar y nwyddau rydych yn eu datgan, dylech wirio arweiniad i gael rhagor o wybodaeth.
Sut i wneud cais
-
Argraffwch a llenwch y ffurflen.
-
Sganiwch neu tynnwch lun o’r ffurflen a’i e-bostio i: [email protected] – rhowch ‘C18 – datganiad gohiriedig’ yn y llinell pwnc.
Cael gwybod pa mor hygyrch yw ein ffurflenni.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Pan fydd eich ffurflen yn dod i law, byddwn yn adolygu unrhyw daliadau sy’n orddyledus ac yn cadarnhau unrhyw falans sy’n weddill ac sy’n ddyledus.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Tachwedd 2021 + show all updates
-
Information has been added at the end of the notes section in the 'Apply to pay outstanding charges for delayed declarations' form, explaining what to do if you feel you are digitally excluded.
-
A Welsh translation of this page has been added.
-
First published.