Canllawiau

Penodi asiant ar gyfer ardrethi busnes

Gallwch reoli’ch ardrethi busnes eich hun. Does dim rhaid i chi ddefnyddio asiant na gofyn i rywun eich helpu.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Penodi asiant ar gyfer ardrethi busnes

Gallwch reoli’ch ardrethi busnes eich hun. Does dim rhaid i chi ddefnyddio asiant na gofyn i rywun eich helpu.

Yr hyn y gall asiant ei wneud ar eich rhan

Efallai y byddwch eisiau penodi rhywun i ddelio â’ch ardrethi busnes ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar eich rhan. Y person hwn yw’ch asiant.

Gallai asiant fod:

  • yn asiant ardrethu
  • yn ffrind
  • yn berthynas
  • cynorthwyydd dibynadwy

Os byddwch yn dewis penodi asiant, gall ychwanegu eiddo at eich cyfrif prisio ardrethi busnes.

Gall hefyd wneud y canlynol:

  • trafod prisiad eich eiddo gyda’r VOA
  • rhoi gwybod i’r VOA fod angen newid manylion eich eiddo
  • rhoi gwybod i’r VOA eich bod o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
  • herio’r gwerth ardrethol os oes angen
  • rhoi manylion i’r VOA am y rhent rydych yn ei dalu

Mae’r rhain i gyd yn bethau y gallwch eu gwneud drosoch chi’ch hun. Does dim rhaid i chi gael asiant i’ch helpu.

Os bydd asiant yn herio’ch gwerth ardrethol ar eich rhan, ond bod anghydfod ynghylch y canlyniad o hyd, efallai y byddwch am apelio yn erbyn y prisiad.

Gwneir apeliadau drwy gorff ar wahân o’r enw’r Tribiwnlys Prisio. Bydd angen i chi roi awdurdodiad ychwanegol i’r asiant weithredu ar eich rhan gyda’r Tribiwnlys Prisio.

Dewis asiant ardrethu

Os byddwch yn penderfynu penodi asiant ardrethu, mae’n bwysig eich bod yn dewis un ag enw da.

Mae cyfres o safonau wedi’u cyhoeddi ar y cyd gan dri chorff proffesiynol:

  • Cymdeithas y Syrfewyr Ardrethu (RSA)
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
  • Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw

Mae’r safonau hyn yn disgrifio’r hyn y gall asiantau ardrethu ei wneud a’r hyn na allant ei wneud. Mae’n rhaid i asiantau ardrethu ddilyn y safonau hyn os ydynt yn aelodau o un o’r sefydliadau uchod.

Darllenwch y safonau asiantau ardrethu.

Gall cwmni neu unigolyn gyfeirio ato’i hun fel ‘syrfëwr’, ‘cynghorydd ardrethu’, ‘ymgynghorydd ardrethu’ neu debyg. Nid yw hyn yn golygu eu bod yn aelod o gorff proffesiynol neu fod yn rhaid iddynt ddilyn y safonau asiantau ardrethu.

Dylech bob amser wirio cefndir a statws proffesiynol cwmni neu unigolyn cyn llofnodi cytundeb. Dylech wirio eich cytundeb yn ofalus, gan gynnwys hyd y cytundeb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y gwasanaethau rydych yn talu amdanynt, yn ogystal â’r costau ac unrhyw ffioedd ychwanegol dan sylw.

Eich cyfrifoldebau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr wybodaeth y mae’ch asiant yn ei rhoi i’r VOA yn gywir. Os nad yw’r wybodaeth a roddir gan asiant yn gywir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb a thalu unrhyw ardrethi ychwanegol sydd arnoch.

Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â’n proses ‘gwirio’. Dyma le y gallwch roi gwybod i ni am newidiadau i’ch eiddo neu eich bod o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir.

Penodi asiant

Gallwch benodi asiant ardrethu, ffrind neu berthynas fel eich asiant. Bydd asiant yn:

  • cofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes a chael cod asiant
  • delio ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar eich rhan.

Cofrestrwch ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes gan ddefnyddio eich ID ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd eisoes yn bodoli. Os nad oes gennych ID ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru cyfrif.

Gofynnwch i’ch asiant am ei god asiant.

Penodwch yr asiant o’ch cyfrif prisio ardrethi busnes, gan ddefnyddio ei god.

Dewiswch yr eiddo rydych chi am i’r asiant eu rheoli.

Gallwch gael mwy nag un asiant yn gweithredu ar eich rhan ar eiddo. Gall yr holl asiantau weithredu ar eich rhan ar yr un pryd.

Cofrestrwch ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes.

Penodi ‘cynorthwyydd dibynadwy’

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes os hoffech wirio neu herio gwerth ardrethol eich eiddo.

Efallai na fyddwch yn gallu cofrestru os:

  • rydych yn sâl, bod anabledd gennych, neu ni allwch siarad Cymraeg na Saesneg
  • nad oes gennych basbort Prydeinig na rhif Yswiriant Gwladol
  • rydych wedi ceisio cofrestru ond wedi methu’r cam ar gyfer cadarnhau pwy ydych.

Os na allwch gofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes, gallwch benodi cynorthwyydd dibynadwy i greu cyfrif ar eich cyfer. Nid yw hyn yr un peth â phenodi asiant.

Gallai cynorthwyydd dibynadwy fod yn asiant, yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n sefydliad gwirfoddol.

Penodwch gynorthwyydd dibynadwy.

Os dewiswch benodi cynorthwyydd dibynadwy, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw wybodaeth a gyflwynir ar eich rhan yn gywir. Os nad yw’n gywir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb a thalu unrhyw ardrethi ychwanegol sydd arnoch.

Gweld yr hyn mae’ch asiant yn ei wneud

Os oes gennych asiant, gallwch ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes i weld yr hyn mae’n ei wneud ar eich rhan.

Bydd y VOA hefyd yn anfon neges atoch pan fydd unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau yn cael eu gwneud, neu pan fydd y VOA yn gwneud penderfyniad. Does dim rhaid i chi ateb y negeseuon.

Diogelu’ch gwybodaeth bersonol

Ni ddylech fyth rannu manylion mewngofnodi eich cyfrif prisio ardrethi busnes ag unrhyw un. Mae hyn yn cynnwys eich asiant, hyd yn oed os yw’r person hwnnw yn ffrind neu’n aelod o’r teulu.

Dylai’ch asiant greu ei gyfrif ei hun. Yna dylech ei benodi drwy’ch cyfrif, gan ddefnyddio ei god asiant. Bydd ffrind neu aelod o’r teulu yn cael cod asiant pan fydd yn cofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes ei hun.

Dileu asiant

Gallwch atal asiant rhag gweithredu ar eich rhan ar unrhyw un o’ch eiddo.

Gallwch ddileu asiant yn gyfan gwbl o’ch cyfrif fel na all wneud unrhyw beth i chi mwyach.

Gallwch hefyd benodi asiant gwahanol neu sefydliadau gwahanol ar gyfer eiddo gwahanol.

Cofiwch wirio’ch cytundeb bob amser cyn tynnu asiant. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu ei ffioedd o hyd ac am unrhyw wybodaeth y mae wedi’i rhoi i’r VOA.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Mai 2024 + show all updates
  1. 'Choosing a rating agent' section has been updated.

  2. A Welsh translation has been added.

  3. Guidance now includes Wales

  4. First published.

Print this page