Canllawiau

Gofyn i'r DWP adolygu eu penderfyniad bod yn rhaid i chi ad-dalu taliad caledi

Sut i ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) adolygu cais blaenorol i atal (hepgor) ad-daliadau Taliad Caledi Adenilladwy a wnaed rhwng 1 Ionawr 2014 ac 11 Ionawr 2021.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Mae’r cynllun hwn ar gyfer pobl sydd wedi derbyn Taliad Caledi Adenilladwy gan Gredyd Cynhwysol. Dim ond pe bai eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau oherwydd sancsiwn neu dwyll y byddech wedi derbyn taliad caledi.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad os yw’r DWP wedi gwrthod cais gennych i ystyried naill ai:

  • stopio (‘hepgor’) eich ad-daliadau, neu
  • adolygu’r gyfradd ad-dalu

Cymhwysedd

Gallwch ofyn i’r DWP adolygu eu penderfyniad i beidio ag atal ad-dalu eich taliad caledi os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rhwng 1 Ionawr 2014 ac 11 Ionawr 2021 gofynnoch i Gredyd Cynhwysol neu Reoli Dyled y DWP i hepgor ad-dalu taliad caledi, neu ailystyried cyfradd yr adferiad, a

  • gwrthododd DWP eich cais neu gwrthododd ystyried y cais

Bydd angen i chi hefyd ddangos nail ai:

  • ni allech fforddio ad-dalu’r taliad caledi bryd hynny, neu

  • cafodd effaith sylweddol ar y pryd ar eich iechyd neu les chi neu eich teulu - mae hyn yn golygu ei fod wedi achosi cyflwr iechyd neu wneud cyflwr iechyd yn waeth

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais (ODT, 15.2 KB).

Rhaid  i chi wneud cais erbyn 4 Mai 2025.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r amser y gwnaethoch y cais cychwynnol. Bydd angen dangos:

  • ni allech fforddio ad-dalu eich taliad caledi, neu

  • effeithiodd y taliad caledi ar eich iechyd neu les chi neu eich teulu

Gallai hyn gynnwys:

  • gwybodaeth ariannol o’r amser, megis datganiadau banc, gwybodaeth am fenthyciadau, neu lythyrau gan gredydwyr

  • gwybodaeth gan feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall yn dweud bod ad-dalu’r arian wedi achosi cyflwr iechyd neu ei wneud yn waeth

Bydd angen i chi hefyd ddarparu gwybodaeth am eich incwm a’ch costau byw ar y pryd. Os nad oes gennych yr holl wybodaeth hon, gallwch barhau i wneud cais. Fodd bynnag, bydd yn helpu eich cais os gallwch roi cymaint o wybodaeth â phosibl.

Gallwch hefyd ysgrifennu llythyr sy’n ateb y cwestiynau ar y ffurflen. 

Anfonwch y ffurflen a dogfennau eraill at:

Freepost DWP UNIVERSAL CREDIT FULL SERVICE.

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n cael trafferth neu os hoffech gael cymorth i gwblhau’r cais, ffoniwch linell gymorth y cynllun: 

Llinell gymorth cynllun Taliad Caledi Adenilladwy Credyd Cynhwysol (RHP)

Ffôn: 0800 158 5557

Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 328 5644

Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth ‘video relay’ if you’re on a computer - find out how to use the service on mobile or tablet.

Llinell Gymraeg: 0800 158 5557 

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 10ami  3pm 

Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd DWP yn cysylltu â chi o fewn 6 wythnos i dderbyn eich cais i roi gwybod i chi ei fod wedi’i dderbyn.

Byddant yn penderfynu a ddylech dderbyn ad-daliad o’ch ad-daliadau. Efallai y byddant yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth.

Byddant yn anfon penderfyniad atoch am eich cais o fewn 13 wythnos i’w dderbyn.

Pam mae hyn yn digwydd

Mae’r DWP wedi adolygu ei pholisi ynghylch pryd y mae’n gofyn i daliad caledi Credyd Cynhwysol gael ei ad-dalu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Tachwedd 2024 + show all updates
  1. Added link to new Recoverable Hardship Payments page.

  2. First published.

Print this page