Canllawiau

Gofyn i Swyddfa’r Dyfarnwr adolygu penderfyniad ynghylch y Cynllun Iawndal Windrush

Pryd a sut i gysylltu â ni ynghylch penderfyniad a wnaed o dan Gynllun Iawndal Windrush y Swyddfa Gartref neu gwyno am sut y deliodd y Swyddfa Gartref â hawliad am iawndal.

Gwasanaethau Swyddfa’r Dyfarnwr

Bydd Swyddfa’r Dyfarnwr yn cynnal adolygiad annibynnol o benderfyniadau’r Swyddfa Gartref a wnaed o dan y Cynllun Iawndal Windrush ar:

  • hawl i iawndal

Ar ben hynny, bydd Swyddfa’r Dyfarnwr yn:

  • ymchwilio i gŵynion ynghylch sut y gwnaeth y Swyddfa Gartref ddelio â hawliad am iawndal

Adolygiad Swyddfa’r Dyfarnwr

Dim ond os mai chi yw’r hawliwr, cynrychiolydd awdurdodedig neu gynrychiolydd cyfreithiol ystâd person ymadawedig y gall Swyddfa’r Dyfarnwr ystyried eich cais.

Mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau pob cam o broses adolygu mewnol y Swyddfa Gartref ei hun cyn y gall Swyddfa’r Dyfarnwr edrych ar eich cais.

Gallwn edrych ar eich cais os:

  • ydych wedi cael adolygiad mewnol gan y Swyddfa Gartref o’i phenderfyniad ynghylch eich hawl i iawndal

  • yw eich cwyn wedi cwblhau pob cam o broses gwyno’r Swyddfa Gartref

Fel arfer, dim ond hyd at 2 fis ar ôl i’r Swyddfa Gartref anfon atoch ei phenderfyniad ar sail adolygiad neu gŵyn y gall Swyddfa’r Dyfarnwr dderbyn eich cais.

Os yw’ch cwyn ar ôl y cyfnod o 2 fis, rhowch wybod i ni pam ac efallai y byddwn yn ei derbyn o dan amgylchiadau eithriadol.

Yr hyn y gall Swyddfa’r Dyfarnwr edrych arno

Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth Swyddfa’r Dyfarnwr â’r Swyddfa Gartref yn esbonio beth y gallwn edrych arno. Gallwn edrych ar geisiadau am adolygiad neu gŵynion am:

  • Camgymeriadau
  • Oedi afresymol
  • Cyngor gwael neu gamarweiniol
  • Prosesau
  • P’un a ddilynwyd canllawiau perthnasol
  • Ymddygiad amhriodol gan staff
  • Defnyddio disgresiwn

Yr hyn na all Swyddfa’r Dyfarnwr edrych arno

Ni all Swyddfa’r Dyfarnwr edrych ar y canlynol:

  • Penderfyniadau ar gymhwystra i hawlio iawndal o dan y Cynllun Iawndal Windrush
  • Penderfyniadau yn ymwneud â’r Cynllun Iawndal Windrush a wnaed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, CThEM, unrhyw gorff perthnasol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
  • Polisi’r llywodraeth, polisi adrannol neu bolisi cynllun iawndal
  • Materion yn deillio o gontract masnachol neu gyflogaeth rhwng cwsmer a’r Swyddfa Gartref
  • Materion yn deillio o gontract masnachol rhwng darparwr gwasanaethau a’r Swyddfa Gartref
  • Rôl a gweithgarwch y Darparwr Cymorth Hawliadau
  • Materion sydd wedi cael eu hystyried gan lys neu dribiwnlys annibynnol neu faterion y gallent fod wedi’u hystyried neu y gallent eu hystyried
  • Materion y mae Ombwdsmon y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd wedi ymchwilio iddynt, wrthi’n ymchwilio iddynt neu y dylai ymchwilio iddynt
  • Gweithrediad arferion a gweithdrefnau disgyblu staff y Swyddfa Gartref, neu benderfyniadau a wnaed oddi tanynt
  • Y ffordd y deliwyd â cheisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018
  • Materion sy’n dod o dan gylch gwaith Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu neu Gomisiwn Cwynion yr Heddlu dros yr Alban. Ni all Swyddfa’r Dyfarnwr edrych ar unrhyw daliad a wnaed, neu achosion o wrthod gwneud taliad, gan yr Heddlu.

Sut i ofyn am adolygiad neu wneud cwyn

I ofyn am adolygiad neu i wneud cwyn, cysylltwch â ni.

Os oes angen unrhyw help neu addasiad rhesymol arnoch wrth ddelio â ni, rhowch wybod i ni.

Cwyno am wasanaeth neu benderfyniad Swyddfa’r Dyfarnwr

Mae gwybodaeth am sut i gwyno am wasanaeth neu benderfyniad Swyddfa’r Dyfarnwr ar gael.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Awst 2021 + show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. First published.

Print this page