Gofyn i’ch cyflogwr am Dâl Salwch Statudol
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen SC2 er mwyn gofyn i’ch cyflogwr am Dâl Salwch Statudol (SSP).
Pryd i ddefnyddio’r ffurflen SC2
Dylech wirio’ch contract cyflogaeth er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw weithdrefnau salwch a gytunwyd arnynt.
Gellir defnyddio’r ffurflen i hunanardystio absenoldeb oherwydd salwch neu ochr yn ochr â nodyn ffitrwydd.
Mae’n rhaid eich bod wedi bod i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i salwch am fwy na 3 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad ydych yn gweithio) i fod yn gymwys i gael SSP.
Sut i lenwi’r ffurflen SC2
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
Bydd y ffurflen yn gofyn i chi am wybodaeth, yn cynnwys:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich rhif ffôn
- manylion o’ch salwch, yn cynnwys y dyddiadau yr oeddech yn sâl
- dyddiad eich diwrnod gwaith olaf cyn i’ch salwch ddechrau
- eich rhif cloc neu’ch rhif gyflogres
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, rhowch hi i’ch cyflogwr. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon i wirio’ch cymhwystra. Cadwch gopi er eich gwybodaeth.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r arweiniad Tâl Salwch Statudol (SSP) yn rhoi gwybodaeth am faint y gallwch ei gael, cymhwystra, sut i hawlio, nodiadau ffitrwydd ac anghydfodau.