Canllawiau

Awdurdodi asiant i ymdrin â’ch materion treth

Gwiriwch be all asiant sy’n cael ei dalu yn gallu gwneud ar eich rhan. Mae sut yr ydych yn awdurdodi’r asiant yn dibynnu ar y dreth, ac efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 neu wasanaeth ar-lein.

Mae’r canllaw yn delio ag awdurdodi asiant sy’n cael ei dalu, megis cyfrifydd proffesiynol neu ymgynghorydd treth. Mae ffordd wahanol i benodi ffrind neu berthynas (yn agor tudalen Saesneg) delio â CThEF ar eich rhan.

Sut i awdurdodi asiant

Bydd eich asiant yn rhoi gwybod i chi sut y mae o eisiau i chi ei awdurdodi.

Yn dibynnu ar ba wasanaethau treth rydych chi a’ch asiant yn eu defnyddio, mae yna wahanol ffyrdd i roi awdurdod i’ch asiant, gan gynnwys:

  • ysgwyd llaw’n ddigidol — mae’ch asiant yn anfon e-bost atoch gyda chysylltiad
  • awdurdodi asiant ar-lein — mae’ch asiant yn cyflwyno cais i CThEF, byddwn wedyn yn anfon llythyr atoch gyda chod awdurdodi ac rydych yn rhoi’r cod i’ch asiant
  • drwy’ch cyfrif treth busnes ar gyfer treth penodol — ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y dreth a’i hychwanegu i’ch cyfrif treth busnes
  • ffurflenni papur ­— ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’

Gwiriwch yr holl ffyrdd sydd eu hangen arnoch i awdurdodi asiant ar gyfer y gwasanaethau treth (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am eich treth eich hunan

Os yw’ch asiant yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi wirio’r wybodaeth a rhoi gwybod iddo ei fod yn gywir cyn iddo’i chyflwyno hi i ni.

Os ydych yn asiant

Gofynnir i chi roi’ch cod asiant 6 digid ar gyfer Hunanasesiad, TWE neu Dreth Gorfforaeth.

Os nad oes un gennych, cewch gyfeirnod neu god asiant (yn agor tudalen Saesneg) pan ydych yn cofrestru ac yn cael eich awdurdodi fel asiant treth i ddelio â CThEF.

Yr hyn all asiant awdurdodedig ei wneud ar eich rhan

Hunanasesiad

Os ydych yn awdurdodi’ch asiant at ddibenion Hunanasesiad, bydd eich asiant yn gallu gwneud y canlynol:

  • cyflwyno Ffurflenni Treth ar eich rhan
  • gwneud hawliadau am ryddhad treth yr eich Ffurflenni Treth
  • trafod eich Ffurflenni Treth cyfredol a blaenorol â ni
  • bwrw golwg dros eich manylion, megis ffynonellau incwm, a’u newid
  • rhoi manylion banc i ni, pan fo ad-daliad yn ddyledus
  • bwrw golwg dros eich diweddariadau (incwm a threuliau), a’u cyflwyno
  • cwblhau’ch sefyllfa dreth gyffredinol
  • bwrw golwg dros eich cyfrifiadau a’r symiau dyledus a’r symiau sydd wedi’u talu
  • canslo’ch cofrestriad Hunanasesiad

Bydd eich asiant hefyd â mynediad at eich manylion Hunanasesiad, megis eich:

  • enw
  • cyfeiriad
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr

Cyn i chi awdurdodi asiant rhaid i chi’n gyntaf cofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Os oes gennych gyfrif Hunanasesiad eisoes gallwch ddefnyddio’r ffurflen 64-8 i awdurdodi asiant.

Ymddiriedolaethau

Darllenwch rheoli manylion eich ymddiriedolaeth i gael gwybod sut i wneud y canlynol:

  • cofrestru ymddiriedolaeth a’i chynnal ar-lein
  • awdurdodi’ch asiant i gael mynediad at yr ymddiriedolaeth

Trwy awdurdodi’ch asiant yn y gwasanaeth ar-lein bydd yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth bersonol ac ariannol ar gyfer eich ymddiriedolaeth. 

Ni fydd yr awdurdod ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’ yn rhoi i’ch asiant fynediad at y gwasanaeth ar-lein.

TWE Unigolyn

Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion TWE Unigolyn, bydd eich asiant yn gallu cael mynediad at y canlynol:

  • i bwy rydych wedi gweithio yn y gorffennol
  • gwybodaeth am fuddiannau trethadwy, megis yswiriant meddygol a char cwmni
  • pensiynau
  • dyddiadau dechrau a dod i ben eich rhan yn y broses TWE

Treth Gorfforaeth

Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ hon at ddibenion Treth Gorfforaeth, bydd eich asiant yn:

  • cael mynediad at wybodaeth am eich cwmni a’ch gwybodaeth ariannol
  • gallu diweddaru manylion cyfathrebu a chyswllt y cwmni

Dysgwch ragor ynghylch Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Credydau treth

Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion credydau treth, bydd eich asiant yn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol ac ariannol sy’n ymwneud â’ch hawliad am gredyd treth. Gall weithredu ar eich rhan ond ni all gael taliadau. Bydd gohebiaeth yn dal i gael ei hanfon atoch.

Ar gyfer hawliadau ar y cyd am gredydau treth, mae angen i’r ddau hawliwr lofnodi’r ffurflen hon er mwyn awdurdodi’ch asiant.

TAW 

Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion TAW, bydd eich asiant yn gallu gwneud y canlynol (ar bapur neu dros y ffôn yn unig):

  • trafod eich TAW â ni
  • llofnodi dogfennau papur ar eich rhan
  • bwrw golwg dros eich manylion TAW, eu newid a’u cyflwyno 
  • bwrw golwg dros eich taliadau a’ch rhwymedigaethau TAW
  • canslo’ch cofrestriad TAW 
  • apelio yn erbyn cosb am gyflwyno neu am dalu’n hwyr

Gall eich asiant hefyd cael mynediad at y canlynol: 

  • manylion eich cofrestriad TAW, megis manylion eich busnes a’ch manylion cyswllt 
  • eich Ffurflenni TAW sydd wedi’u cyflwyno 
  • eich cyfrifiadau Ffurflenni TAW 
  • eich symiau sy’n ddyledus neu sydd wedi’u talu 

Cynllun y Diwydiant Adeiladu

Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion Cynllun y Diwydiant Adeiladu, bydd eich asiant yn gallu cael mynediad at eich datganiadau, ac at incwm a didyniadau’ch isgontractwyr.

Dysgwch ragor ynghylch Cynllun y Diwydiant Adeiladu (yn agor tudalen Saesneg).

TWE Cyflogwyr

Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion TWE y Cyflogwyr, bydd eich asiant yn cael mynediad at wybodaeth bersonol ac ariannol eich cyflogeion.

Dysgwch ragor ynghylch TWE y Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).

Llenwch ffurflen 64-8, Awdurdodi eich asiant

Oni bai eich bod yn gallu awdurdodi asiant ar gyfer treth benodol drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein neu’r cyfrif treth busnes, defnyddiwch ffurflen 64-8.

Defnyddiwch y cyfarwyddiadau canlynol wrth lenwi ac anfon eich ffurflen. Bydd hyn yn ein helpu i brosesu’ch cais yn gyflym ac osgoi oedi diangen oherwydd camgymeriadau. Wrth lenwi’ch ffurflen:

  • gwnewch yn siŵr bod y ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’ yn cael ei ddefnyddio
  • peidiwch â chynnwys llythyr eglurhaol oni bai ei fod yn cynnwys gwybodaeth hanfodol sy’n angenrheidiol i brosesu’r ffurflen — mae’n rhaid cynnwys yr wybodaeth hon mewn llythyr gan na ddylech ysgrifennu unrhyw beth ar y ffurflen y tu allan i’r blychau
  • gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth yn cael ei theipio neu ei hysgrifennu’n glir ar y ffurflen
  • peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol yn y meysydd ffurflen ac eithrio’r wybodaeth y gofynnwyd amdani — er enghraifft, yn y maes ‘Cod asiant (SA)’, dim ond cynnwys y cod asiant cywir ar gyfer Hunanasesiad, sy’n cynnwys 6 nod 1111XX
  • peidiwch â rhoi llinell drwy unrhyw flychau sydd heb eu defnyddio na gwneud unrhyw sgriblau ar ymyl y ffurflen
  • rhowch y codau asiant cywir ar gyfer y cyfundrefnau treth perthnasol, er enghraifft PAYE XX1111

Lawrlwytho’r ffurflen

Awdurdodi eich asiant (64-8) (PDF, 1.45 MB, 3 pages)

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin yna ei hargraffu, neu argraffwch y ffurflen a’i llenwi.

  4. Llofnodwch y ffurflen.

  5. Anfonwch y ffurflen drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Newid neu ddileu awdurdodiad

Newid neu ddileu awdurdodiad eich asiant treth (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych bellach am iddo reoli’ch materion.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. Information about completing form 64-8 to authorise your agent has been updated.

  2. First published.

Print this page