Osgoi ymholiadau gan Gofrestrfa Tir EF: cyflawni gweithredoedd ac atwrneiaethau
Awgrymiadau a fideo ar sut i osgoi ymholiadau ynghylch cyflawni gweithredoedd ac atwrneiaethau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Awgrymiadau
Gallwch osgoi problemau cyffredin wrth gyflawni gweithredoedd trwy wneud yn siwr:
- y tystiwyd llofnod pob parti, a bod manylion y tyst wedi eu cynnwys
- eich bod yn defnyddio’r ffurf gyflawni gywir ar gyfer yr unigolyn neu’r sefydliad o dan sylw
Gallwch osgoi’r ddau brif fath o wall yn ymwneud ag atwrneiaethau trwy amgáu:
- copi o atwrneiaeth – mae hyn ar gyfer atwrneiod corfforaethol fel rheol. Peidiwch ag anghofio, yn lle amgáu copi o atwrneiaeth, gallwch amgáu tystysgrif ar Ffurf 1 yn Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003
- cadarnhad o hunaniaeth ar gyfer atwrnai, yn ogystal â rhoddwr yr atwrneiaeth pan fydd angen hyn. Bydd hyn yn ofynnol bob tro ac eithrio lle cyflawnwyd rhyddhad.
Gweler adran 6.1 o gyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth
Gwyliwch y fideo
How to avoid HM Land Registry requisitions: Execution of deeds and powers of attorney
Video playlist: How to avoid HM Land Registry requisitions
Gwybodaeth bellach
Darllenwch ragor o wybodaeth yn y canlynol: