Bwydo ar y fron yn adeiladau’r llysoedd a’r thribiwnlysoedd
Cyfarwyddyd ynglŷn â sut y bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn eich cefnogi os bydd arnoch eisiau bwydo ar y fron yn adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.
Ymrwymiad i’r rhai sy’n bwydo ar y fron
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sicrhau y gall y rhai sy’n bwydo ar y fron fynd ynglŷn â’u gwaith o ddydd i ddydd yn hyderus.
Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn eich cefnogi os bydd arnoch eisiau bwydo ar y fron neu dynnu llaeth yn adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.
Rydym yn ymrwymo i’r canlynol:
- Gallwch fwydo ar y fron neu dynnu llaeth tra byddwch yn defnyddio ein hadeiladau.
- Mae croeso ichi fwydo o’r fron neu dynnu llaeth yn y mannau cyhoeddus yn ein hadeiladau.
- Os yw’n well gennych, gallwch fwydo o’r fron neu dynnu llaeth mewn ystafell breifat.
Ni fyddwn yn camwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn bwydo ar y fron.
Cysylltwch ymlaen llaw
Os oes arnoch angen mynediad i ystafell breifat i fwydo ar y fron neu dynnu llaeth, byddai o gymorth ichi gysylltu â ni cyn ichi gyrraedd. Mae ystafelloedd arbennig ar gyfer bwydo ar y fron yn rhai o’n adeiladau.
Bydd ein manylion cyswllt ar unrhyw lythyrau yr ydych wedi eu derbyn gennym, neu gallwch chwilio am lys neu dribiwnlys yn eich ardal leol.