Staff elusennau: sut i gyflogi gweithwyr am dâl
Dilynwch y cyfreithiau cyflogaeth a chynlluniwch ar gyfer risgiau pan fyddwch yn cyflogi gweithwyr am dâl yn eich elusen.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sut i gael hyd i staff elusennau
Bydd nifer o elusennau yn hysbysebu eu swyddi gwag ar-lein neu mewn papurau newydd. Cewch gyngor ar y broses recriwtio (gan gynnwys ysgrifennu swydd-ddisgrifiadau) gan KnowHow NotProfit:
- Sut i ysgrifennu swydd-ddisgrifiad a manyleb y person
- Sut i osgoi cwestiynau cyfweliad anghyfreithlon neu amhriodol
- Sut i recriwtio i swyddi lefel weithredol
- Sut i ddefnyddio gwerthoedd eich cwmni i recriwtio, cadw a datblygu staff
- Sut i hyfforddi a datblygu pobl heb wario ffortiwn
Dilynwch y gyfraith cyflogaeth
Os ydych yn cyflogi pobl, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r cyfreithiau cyflogaeth a chydymffurfio â nhw, gan gynnwys:
- rheolau pensiwn i elusennau
- cyflogres a thalu’r lleiafswm cyflog
- iechyd a diogelwch
Os yw’ch elusen yn gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed mae’n rhaid i chi gymryd camau i’w diogelu rhag niwed.
Sut i reoli pobl eich elusen
Gall elusennau wynebu nifer o broblemau gwahanol o’i gymharu â’r cyflogwr cyffredin. Er enghraifft, mae’n rhaid i chi:
- adnabod a rheoli gwrthdaro buddiannau, er enghraifft os yw ymddiriedolwr yn gwneud gwaith am dâl i’r elusen
- bod yn ymwybodol o risgiau a’u rheoli, fel colli arian drwy dwyll
- rhoi prosesau yn eu lle i gadw arian eich elusen yn ddiogel
Gosodwch gyfrifoldebau clir i weithwyr ac ymddiriedolwyr
Pan fydd eich elusen yn tyfu, gall newid o fod yn elusen sy’n cael ei rhedeg gan ymddiriedolwyr yn bennaf i un sy’n cael ei rhedeg gan staff yn bennaf. Gall hon fod yn adeg anodd i elusennau, wrth i waith a chyfrifoldebau gael eu trosglwyddo. Ceisiwch osgoi anghydfodau a chamreoli drwy osod rolau a chyfrifoldebau clir, yn enwedig rhwng:
- y gwaith o lywodraethu’r elusen (beth mae’ch bwrdd ymddiriedolwyr yn ei wneud)
- y gwaith o reoli’r elusen o ddydd i ddydd (beth mae’ch uwch reolwyr a staff yn ei wneud)