Gwirio a herio’ch prisiad ardrethi busnes: cam wrth gam
Sut i ddefnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo busnes neu os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Yng Nghymru a Lloegr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n delio ag achosion o Wirio a Herio. Mae apeliadau yn cael eu trin yn wahanol yn achos eiddo yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Sut i ddefnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes
Gallwch roi gwybod i’r VOA am y canlynol:
- bod angen newid manylion eich eiddo
- bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel yn eich barn chi
Gallwch roi gwybod i’r VOA eich hun neu gallwch benodi asiant i weithredu ar eich rhan.
1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes neu cofrestrwch am un
Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch ID ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd eisoes yn bodoli. Os nad oes gennych ID Porth y Llywodraeth, byddwch yn gallu creu un wrth gofrestru.
Cofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes
Gallwch benodi asiant pan fo gennych gyfrif prisio ardrethi busnes.
2. Ychwanegwch eiddo at eich cyfrif
Ychwanegwch eiddo fel y gallwch wedyn newid manylion yr eiddo a herio’r gwerth ardrethol. Rhowch dystiolaeth i brofi eich cysylltiad â’r eiddo.
Ychwanegu eiddo at eich cyfrif
3. Newid manylion yr eiddo
Anfonwch ‘achos Gwirio’ i roi gwybod i’r VOA bod manylion eich eiddo yn gywir neu i wneud newid iddynt. Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich newidiadau.
Gall y VOA dderbyn eich newidiadau a newid y gwerth ardrethol.
4. Herio’r gwerth ardrethol
Anfonwch ‘achos Herio’ at y VOA os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel. Esboniwch beth ddylai’r gwerth fod yn eich barn chi a rhowch dystiolaeth.
Gall y VOA dderbyn eich her a newid y gwerth ardrethol.
Mae’n rhaid i chi gwblhau achos Gwirio cyn anfon achos Herio.
5. Apelio yn erbyn y penderfyniad
Gofynnwch i’r Tribiwnlys Prisio annibynnol am adolygiad os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y VOA ar y gwerth ardrethol.