Gwirio a allwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr
Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp wrth brynu tir neu adeiladau mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr.
Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn prynu tir neu adeiladau mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr.
Os ydych yn prynu tir neu adeiladau mewn Parth Buddsoddi neu Borthladd Rhydd sy’n safle treth arbennig wedi’i leoli:
- yn yr Alban, mae Rhyddhad Rhag Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau mewn Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd ar gael ar gyfer trafodion cymhwysol mewn safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd dynodedig
- yng Nghymru, mae Senedd Cymru wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ddarparu Rhyddhad Rhag Treth Trafodiadau Tir — bydd y rhyddhad hwn ar gael i’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar 26 Tachwedd 2024, a bydd ar gael hyd at 30 Medi 2029 i gychwyn
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar wefan Llywodraeth yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)
- Treth Trafodiadau Tir ar wefan Llywodraeth Cymru
Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, gelwir safleoedd treth arbennig yn ‘safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi’. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi’i awdurdodi ar wahân i safle tollau Porthladd Rhydd, ond gall gwmpasu’r un darn o dir.
Ni allwch hawlio hyd nes bod y safle treth Parth Buddsoddi arbennig neu’r safle treth Porthladd Rhydd arbennig perthnasol wedi’i ddynodi.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
Pryd y gallwch hawlio rhyddhad
Gallwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp, pan fyddwch yn:
- prynu unrhyw dir neu adeiladau mewn safle treth arbennig (os ydych yn defnyddio’r tir neu’r adeiladau mewn ffordd gymhwysol)
- prynu prydles ar gyfer y tir neu adeiladau, gan gynnwys naill ai:
- adnewyddu prydles hir
- unrhyw daliadau rhent ar gyfer y brydles
Gellir hawlio’r rhyddhad ar gyfer gwariant a ysgwyddwyd o’r dyddiad y dynodir safle treth arbennig, hyd at:
- 30 Medi 2031, ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy’n safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034, ar gyfer Parthau Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig
Gallwch hawlio rhyddhad o hyd os yw perchnogion blaenorol wedi gwerthu’r tir neu’r adeiladau cyn dyddiad gorffen y safle treth arbennig. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’r perchennog blaenorol wedi hawlio rhyddhad.
Gwirio pa safleoedd sy’n:
- Safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg)
- Safleoedd treth Parthau Buddsoddi arbennig dynonedig (yn agor tudalen Saesneg)
Pan na allwch hawlio rhyddhad
Ni allwch hawlio rhyddhad ar gyfer tir neu adeiladau sydd:
- wedi cael eu prynu y tu mewn i safle treth arbennig cyn iddo gael ei ddynodi, neu ar ôl:
- 30 Medi 2031 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy’n safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034 ar gyfer Parthau Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig
- i’w defnyddio fel eiddo preswyl
- i’w datblygu neu eu hailddatblygu’n eiddo preswyl
- i’w cadw fel stoc gan y busnes i’w hailwerthu heb eu datblygu na’i hailddatblygu
Sut i fod yn gymwys i hawlio rhyddhad
Gallwch hawlio’r rhyddhad hwn os ydych yn bwriadu defnyddio’r tir neu’r adeiladau mewn ffordd gymhwysol.
Mae ffyrdd cymhwysol yn cynnwys y canlynol:
- defnyddio’r tir neu’r adeiladau mewn masnach neu broffesiwn masnachol
- datblygu neu ailddatblygu’r tir neu’r adeiladau er mwyn eu hailwerthu
- rhoi’r tir neu’r adeiladau ar osod i berson arall sy’n talu rhent i chi — ar yr amod nad ydynt yn cael eu defnyddio fel eiddo preswyl
Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio rhyddhad llawn rhag Treth Dir y Tollau Stamp ar gyfanswm y pris prynu os yw o leiaf 90% o’r pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol.
Os yw llai na 90% o’r pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol, gallwch hawlio rhyddhad ar y rhan o Dreth Dir y Tollau Stamp ar gyfer y tir neu’r adeiladau sy’n gymwys, cyhyd â bod pris y tir neu’r adeiladau cymwys yn 10% neu fwy o gyfanswm y pris.
Ni allwch hawlio unrhyw ryddhad os yw llai na 10% o gyfanswm y pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol.
Sut i hawlio rhyddhad
I hawlio’r rhyddhad, mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen treth trafodiadau tir cyn pen 14 diwrnod i’r trafodiad. Dysgwch sut mae llenwi’ch ffurflen treth trafodiadau tir (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid gwneud pob hawliad ar neu cyn:
- 30 Medi 2031 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy’n safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034 ar gyfer Parthau Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig
Tynnu’r rhyddhad yn ôl
Mae cyfnod rheoli o 3 blynedd ar ôl dyddiad y pryniant.
Yn ystod y cyfnod rheoli, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r tir neu’r adeiladau mewn ffordd gymhwysol.
Os, ar unrhyw adeg yn y cyfnod rheoli, nad yw’r tir neu’r adeiladau’n cael eu defnyddio mewn ffordd gymhwysol, mae’n rhaid i chi gymryd camau rhesymol i wneud y canlynol:
- dechrau defnyddio’r tir neu adeiladau mewn ffordd gymhwysol
- gwerthu’r tir neu’r adeiladau
Os nad yw’r naill na’r llall o’r camau hyn yn cael eu cymryd, caiff y rhyddhad ei dynnu’n ôl a bydd rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno Ffurflen Treth Dir y Tollau Stamp arall
- talu’r dreth cyn pen 30 diwrnod
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn Llawlyfr Treth Dir y Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg).
Enghreifftiau o gyfrifo’r rhyddhad
Enghraifft lle mae rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei hawlio ar gyfer tir sydd yn llwyr o fewn safle treth arbennig
Caiff £800,000 ei dalu am dir sy’n llwyr o fewn safle treth arbennig, ond mae £200,000 (25%) o’r swm a dalwyd yn ymwneud â thir na fwriedir iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.
Caiff £600,000 (75%) ei dalu am dir mewn safle treth arbennig sydd i’w ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol. Mae Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei gostwng 75% o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus am y pryniant cyfan.
Enghraifft lle mae rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei hawlio ar gyfer tir sydd yn rhannol o fewn safle treth arbennig
Caiff £2 miliwn ei dalu am dir sydd yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan i safle treth arbennig.
Mae’r holl dir o fewn y safle treth arbennig i’w ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.
Mae £400,000 (20%) o’r swm a dalwyd ar gyfer tir y tu allan i’r safle treth arbennig.
Caiff £1.6 miliwn (80%) ei dalu am dir mewn safle treth arbennig sydd i’w ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol. Mae Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei gostwng 80% o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus am y pryniant cyfan.
Enghraifft lle na all rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp gael ei hawlio ar gyfer tir sydd yn rhannol o fewn safle treth arbennig
Caiff £5 miliwn ei dalu am dir sydd yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan i safle treth arbennig.
Mae £500,000 ar gyfer tir y tu allan i’r safle treth arbennig.
Mae £4.5 miliwn ar gyfer tir y tu mewn i’r safle treth arbennig.
Dim ond £400,000 sydd wedi’i dalu ar gyfer tir y bwriedir ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.
Gan fod £400,000 yn llai na 10% o gyfanswm y pris a dalwyd, sef £5 miliwn, ni ellir hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 9 Gorffennaf 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
References to Scottish Green Freeports and Welsh Freeports have been removed as this relief is exclusively related to England.
-
The information about the reliefs available for land or buildings in a Freeport or Investment Zone special tax site in Scotland and Wales has been updated.
-
Added translation
-
The extension details for English Freeport special tax sites, Scottish Green Freeports Welsh Freeports and Investment Zone special tax sites have been added.
-
This guidance has been updated to provide information about Investment Zones.
-
Welsh translation added.
-
You cannot claim Stamp Duty Land Tax (SDLT) if you’re buying land or buildings in a Freeport tax site in Scotland and Wales.
-
Added information about when you cannot claim relief for land or buildings which are purchased inside a Freeport tax site.
-
The examples of how Stamp Duty Land tax is calculated in Freeport tax sites have been updated.
-
First published.