Rhoi gwybod i CThEF am wallau yn eich Ffurflen TAW
Dysgwch a oes angen i chi ddiweddaru’ch Ffurflen TAW, gwneud y cywiriad ar-lein, neu ddefnyddio ffurflen VAT652 i roi gwybod i CThEF am wallau.
Cyn i chi ddechrau
Er mwyn gwirio sut i roi gwybod i CThEF am wallau yn eich Ffurflen TAW, bydd angen y canlynol arnoch:
- gwerth net eich gwall
- cyfanswm gwerth eich gwerthiannau
Sut i roi gwybod am wallau
Gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i ni am wallau a wnaethoch ar Ffurflenni TAW blaenorol drwy naill ai:
- diweddaru’ch Ffurflen TAW
- gwneud y cywiriad ar-lein
- defnyddio’r ffurflen VAT652
Rhagor o wybodaeth
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gywiro gwallau a wnaed ar eich Ffurflen TAW.