Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm rhent
Gwiriwch a oes angen i chi ddatgan incwm o roi tir neu eiddo ar osod, am gyfnodau byr neu hir, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u hysbysebu ar-lein.
Os ydych yn cael incwm o roi tir neu eiddo ar osod, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu treth arno. Mae hyn yn cynnwys rhoi tir neu eiddo ar osod gan ddefnyddio’r canlynol:
-
marchnad ar-lein
-
asiantau eiddo
-
hysbyseb papur newydd
Pwy all ddefnyddio’r offeryn hwn
Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni ynghylch incwm a gewch o roi’r canlynol ar osod:
-
ystafell yn eich prif gartref, gan gynnwys defnydd fel gwely a brecwast
-
eich prif gartref
-
eiddo nad yw’n brif gartref i chi
-
tir, er enghraifft eich dreif
Gallwch hefyd ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm a gewch o werthu nwyddau, eiddo personol neu wrth ddarparu gwasanaeth.
Nid oes modd defnyddio’r offeryn hwn os ydych yn defnyddio’r rheolau arbennig o ran llety gwyliau wedi’i ddodrefnu (yn agor tudalen Saesneg) ar yr incwm hwn.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen gwybodaeth ynghylch eich incwm rhent. Gallai hyn gynnwys:
-
faint a gawsoch, neu faint yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth
-
p’un a ydych yn rhannu’r incwm rhent hwn gydag unrhyw un arall
-
p’un a ydych yn cael incwm arall o roi tir neu eiddo arall ar osod
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo a oes angen i chi roi gwybod i ni ynghylch yr incwm hwn.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 24 Hydref 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Added translation
-
First published.