Gwirio pa drethi all fod yn berthnasol i chi fel unig fasnachwr
Dysgwch pa drethi mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi gofrestru ar eu cyfer fel unig fasnachwr.
Os ydych yn unig fasnachwr, defnyddiwch yr offeryn hwn i’ch helpu i ddysgu’r canlynol:
- pa drethi mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi gofrestru ar eu cyfer
- y rheolau y mae angen i chi eu dilyn
- y cofrestriadau y mae’n bosibl y bydd angen i chi eu cwblhau
Darllenwch ragor am ddod yn unig fasnachwr (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi wybod pa weithgareddau busnes y byddwch yn eu gwneud. Byddwn ond yn gofyn i chi am weithgareddau sy’n drethadwy.
Ni fydd yr offeryn hwn yn cadw eich atebion, nac yn eich cofrestru ar gyfer unrhyw drethi.