Canllawiau

Gwiriwch pryd gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW

Os yw’ch busnes wedi’i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU, dyma ragor o wybodaeth am bryd y gallwch, neu bryd y mae angen i chi, roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW (a elwir hefyd yn ‘cyfrifyddu TAW gohiriedig’).

Mae gan gyfrifo am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW manteision llif arian sylweddol. Mae’n golygu eich bod yn datgan ac yn adennill TAW mewnforio ar yr un Ffurflen TAW, yn hytrach na gorfod ei dalu ymlaen llaw pan fydd y nwyddau’n cael eu mewnforio a’u hadennill yn nes ymlaen. Gelwir hyn yn gyfrif TAW ohiriedig. 

Bydd y rheolau arferol ynghylch pa TAW y gellir ei hadennill fel treth fewnbwn yn berthnasol.

Pwy sy’n gallu rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar ei Ffurflen TAW 

Os yw’ch busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU, gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer nwyddau yr ydych yn eu mewnforio i mewn i: 

  • Prydain Fawr (Cymru, yr Alban a Lloegr) o unrhyw le y tu allan i’r DU 

  • Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU a’r UE 

Gallwch hefyd gyfrif am fewnforio TAW ar gyfer nwyddau rydych chi’n eu symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon sy’n cael eu datgan i weithdrefn tollau arbennig (yn agor tudalen Saesneg), pan gânt eu tynnu o’r weithdrefn arbennig honno. 

Os ydych yn symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE dysgwch am fasnachu a symud nwyddau i mewn ac allan o Ogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg)

Nid oes angen unrhyw gymeradwyaeth i roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. 

Personau trethadwy sydd heb eu sefydlu 

Os ydych chi’n berson trethadwy (yn agor tudalen Saesneg) bydd angen i chi gael rhywun i ddelio â thollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys cwblhau’ch datganiad mewnforio. 

Os ydych am gyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW, mae’n rhaid i chi ddweud wrth y person sy’n delio â’r tollau i chi ddewis hwn ar eich datganiad mewnforio a nodi’ch manylion fel y traddodai.

Pryd y gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW 

Gallwch wneud hyn os yw’r canlynol yn wir: 

  • mae’r nwyddau rydych chi’n eu mewnforio i’w defnyddio yn eich busnes ac mae gennych chi’r hawl i’w gwaredu (fel perchennog, fel arfer)
  • ydych yn cynnwys eich rhif cofrestru TAW ar eich datganiad mewnforio 

Os ydych chi’n mewnforio nwyddau at ddibenion busnes ac nad yw’n ymwneud â’r busnes 

Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW, os ydych chi’n mewnforio nwyddau sydd: 

Ni allwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich ffurflen TAW os ydych chi’n mewnforio nwyddau rydych chi’n gwybod y bydd yn cael eu defnyddio at ddibenion nad yw’n ymwneud â’r busnes yn unig, oni bai eich bod chi’n gorff sy’n gymwys i adennill TAW mewnforio trwy gynllun ad-daliad TAW (Adran 33) (yn agor tudalen Saesneg). Wrth lenwi’ch datganiad mewnforio, dylech ddewis eich bod yn gwneud taliad ar unwaith neu’n defnyddio cyfrif gohirio tollau. 

Nwyddau mewn gweithdrefnau arbennig 

Os byddwch yn datgan nwyddau i weithdrefn arbennig tollau (yn agor tudalen Saesneg), gallwch ddewis y byddwch yn cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn cyflwyno’r datganiad sy’n eu dileu i mewn i gylchrediad rhydd o’r gweithdrefnau arbennig canlynol: 

  • warysu tollau 

  • prosesu mewnol 

  • mynediad dros dro 

  • defnydd terfynol 

  • prosesu allanol 

  • gohirio tollau 

Nwyddau ecséis 

Gallwch ddewis cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn rhyddhau nwyddau i’w defnyddio yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) — a elwir hefyd yn ‘rhyddhau i’w defnyddio gartref’. 

Mae hyn yn cynnwys pan fo nwyddau’n cael eu rhyddhau o warws ecséis ar ôl bod o dan waharddiad toll ers yr adeg fewnforio. 

Os nad ydych chi’n gwybod gwerth tollau llawn y nwyddau 

Byddwch yn dal i allu rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW, hyd yn oed os na allwch gadarnhau gwerth tollau llawn y nwyddau rydych yn eu mewnforio. 

Er mwyn gwneud hyn, dylech wneud y canlynol: 

  1. Defnyddio gwarant (yn agor tudalen Saesneg) i gwmpasu faint o TAW sy’n anhysbys.

  2. Dewiswch y byddwch yn cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW am y swm sy’n hysbys.

Pryd y mae’n rhaid i chi roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW 

Os ydych chi’n mewnforio nwyddau nad ydyn nhw’n cael eu rheoli i Brydain Fawr o Iwerddon, mae’n rhaid i chi roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW os ydych chi naill ai: 

Mae’n rhaid i chi sicrhau, pan fyddwch yn cwblhau’r datganiad atodol, eich bod yn dewis y byddwch yn cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.

Defnyddio rhywun i fewnforio nwyddau ar eich rhan 

Os ydych chi’n cael person neu fusnes i fewnforio nwyddau ar eich rhan (fel anfonwr nwyddau, asiant tollau, brocer neu gludwr parseli cyflym) bydd angen i chi roi gwybod iddynt sut rydych am roi cyfrif am TAW mewnforio ar y mewnforion hynny. Mae hyn er mwyn iddynt allu cwblhau’r datganiad mewnforio. 

Os oes gennych rywun eisoes, dylech gysylltu â nhw i roi gwybod iddyn nhw os ydych am gyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar nwyddau rydych chi’n eu mewnforio. Dylech gadw cofnod ysgrifenedig o’r hyn a gytunwyd. 

Os yw’ch busnes yn cael nwyddau drwy’r post mewn llwythi sy’n fwy na £135 gan ddefnyddio Grŵp y Post Brenhinol (gan gynnwys Parcelforce lle nad yw’n gweithredu fel cludwr parseli cyflym) ni fyddwch yn gallu rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. 

Mae Grŵp y Post Brenhinol yn cynnig cyfrifon TAW gohiriedig am wasanaethau masnachol (sydd ddim yn postio), os yw’r mewnforiwr yn gofyn amdanynt.

Prynu nwyddau gan gyflenwr sy’n trefnu i rywun fewnforio nwyddau ar eich rhan 

Gallwch brynu nwyddau gan gyflenwr sy’n trefnu i berson neu fusnes, fel cludwr parseli cyflym neu gyfryngwr arall, fewnforio a dosbarthu’r nwyddau ar eich rhan. 

Mae’n rhaid i chi gytuno â’r cyflenwr sut rydych am gyfrif am TAW mewnforio fel y gallant roi gwybod i’r cyfryngwr i wneud y cofnod priodol ar y datganiad mewnforio. Dylech gadw cofnod ysgrifenedig o’r hyn a gytunwyd. 

Gall rhai cyfryngwyr gynnwys cyfrifo TAW gohiriedig fel y gosodiad diofyn ar gyfer cyfrifo ar gyfer mewnforio TAW yn eu telerau ac amodau. Oni bai bod eich cyflenwr yn dweud wrthynt yn benodol i beidio, byddant yn dewis yr opsiwn hwn ac yn disgwyl i chi gyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. 

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflenwr os nad ydych am ddefnyddio cyfrifo TAW gohiriedig.

Bydd y mewnforyn yn ymddangos ar eich datganiad misol (yn agor tudalen Saesneg) yn y ffordd arferol.

Sut i lenwi’ch datganiad mewnforio i gyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW 

Wrth lenwi’ch datganiad mewnforio, gallwch ddewis cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. Ni allwch newid sut yr ydych am gyfrif am TAW mewnforio ar eich datganiad mewnforio unwaith y bydd wedi’i gyflwyno. 

Mae angen i chi nodi’ch rhif cofrestru TAW ar lefel pennawd yn Elfen Data 3/40 (ni ddylech ddefnyddio dull talu G yn Elfen Data 4/8). 

Bydd TAW yn cael ei chofnodi yn erbyn eich rhif EORI, a bydd ar lefel datganiad yn unig. 

Os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall 

Os ydych wedi’ch awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’i rif EORI neu rif cofrestru TAW ar y datganiad mewnforio.

Os ydych chi’n mewnforio nwyddau mewn llwythi gwerth £135 neu lai 

Mae rheolau gwahanol ar gyfer trin nwyddau mewn llwythi gwerth £135 neu lai. 

Dysgwch am y driniaeth o TAW ar gyfer nwyddau a fewnforiwyd a werthir: 

Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i fewnforio nwyddau ecséis. Gallwch ddewis cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer mewnforio llwythi nwyddau o unrhyw werth.

Os ydych chi’n mewnforio nwyddau masnachol (nwyddau mewn bagiau) i Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon 

Os ydych yn gymwys i wneud datganiad ar-lein syml yn lle hynny ac yn dewis gwneud hynny, ni fyddwch yn gallu cyfrif am TAW mewnforio ar eich ffurflen TAW. 

Dysgwch ragor am y canlynol: 

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf 

Os ydych wedi dewis eich bod yn cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar eich datganiad mewnforio llawn, bydd angen i chi gyfrif am TAW mewnforio pan fyddwch yn llenwi’ch Ffurflen TAW

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Hydref 2022 + show all updates
  1. Information about Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) has been removed. You can no longer use CHIEF for import declarations unless you have permission from HMRC.

  2. Existing arrangements for customs checks on goods from Ireland will continue after 1 January 2022. Changes made to "When you must account for import VAT on your VAT return" and "How to complete your customs declaration account for import VAT on your VAT Return".

  3. Clarification that postponed VAT accounting will be available permanently. A checklist has been added to help navigation, and the details you may need to complete your customs declaration using CHIEF have been updated.

  4. The 'If you import goods for business and non-business purposes' section has been updated to say you can account for import VAT on your VAT return if you import goods that will be used solely for a non-business purpose, and you are a body that is eligible to reclaim import VAT through a VAT refund scheme . The 'How to complete your customs declaration to account for import VAT on your VAT Return' section has also been updated with information about selecting how to account for import VAT on your customs declaration.

  5. The end date when you must account for import VAT on your VAT Return if you delay your customs declaration or use a simplified customs declaration has been changed from 30 June 2021 to 31 December 2021.

  6. There have been multiple changes to this guidance to help readers understand what they need to do and how to do it.

  7. Information has been added about accounting for VAT if you do not know the full customs value of goods and using someone to import goods on your behalf.

  8. Information on Non-established taxable persons and guidance on how to complete your declaration if you are accounting for import VAT on your VAT return has been added.

  9. Added Welsh translation.

  10. First published.

Print this page