Canllawiau

Hawlio ad-daliad o Dreth Incwm a ddidynnwyd o gynilion a buddsoddiadau (R40)

Os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, defnyddiwch ffurflen R40 i hawlio ad-daliad o dreth ar eich cynilion a’ch buddsoddiadau.

Dylech ddefnyddio ffurflen R40 i hawlio ad-daliad os yw naill ai:

  • eich llog gros ar fuddsoddiadau neu fod eich cyfran o incwm gros o eiddo yn £10,000 neu’n llai
  • eich incwm gros o eiddo a thir yn £2,500 neu’n llai
  • eich difidendau tramor yn £2,000 neu’n llai

Peidiwch â chyflwyno ffurflen R40 os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad neu os ydych yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf ar gyfer Hunanasesiad. Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os ydych chi (neu’r person rydych yn hawlio ar ei gyfer) yn byw y tu allan i’r DU, gallwch hawlio lwfansau personol ac ad-daliadau treth os ydych yn byw dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Hawliadau Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI)

Os ydych am hawlio treth yn ôl ar log a dalwyd ar hawliad PPI, mae angen i chi anfon dogfen atom sy’n dangos manylion eich hawliad PPI, gan gynnwys:

  • llog gros
  • treth a ddidynnwyd o’r llog
  • llog net

Gall y ddogfen hon fod y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y llythyr ymateb terfynol gan y cwmni a wnaeth eich talu
  • tystysgrif gan y cwmni a wnaeth eich ad-dalu i gadarnhau faint o dreth a ddidynnwyd o’r ad-daliad

Os nad oes gennych unrhyw un o’r rhain, gallwch ofyn amdanynt gan y cwmni a wnaeth eich ad-dalu.

Os yw’ch hawliad ar gyfer unrhyw fath arall o ad-daliad, peidiwch ag anfon atom unrhyw gofnodion personol, neu dystysgrifau treth neu dalebau gyda’ch ffurflen. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen y rhain arnom.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch wneud hawliad am y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blynedd flaenorol. Mae angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth.

I gyflwyno cais ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen bost. Os ydych yn gwneud cais ar ran plentyn, mae angen i chi gynnwys ei gyfeiriad preswyl ar y ffurflen.

Gwnewch yn siŵr bod gennych fanylion am eich incwm, er enghraifft:

  • llythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar gyfer budd-daliadau’r Wladwriaeth — os ydynt yn cael eu talu
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Bensiwn y Wladwriaeth – caiff taliadau eu gwneud bob 4 wythnos, nid bob mis
  • cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu (ar gyfer llog a geir ar gynilion)
  • talebau difidend
  • datganiadau incwm o ymddiriedolaethau ac ystadau
  • P60 a P45 oddi wrth dalwr pensiwn neu gyflogwr

Gwneud eich hawliad

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.

Dechrau nawr

Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall

Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall ac eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu i chi, dysgwch sut i gael ad-daliadau Treth Incwm neu ad-daliadau Talu Wrth Ennill (TWE) ar ran eraill (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Medi 2024 + show all updates
  1. Interactive guidance has been added to replace the existing PDF version of the R40 form and the associated notes.

  2. The R40 notes have been updated.

  3. Information has been added to confirm the details that must be provided to claim tax back on interest paid on a Payment Protection Insurance (PPI) claim. An updated R40 form, and information on what to do when claiming on behalf of someone else from 30 April 2024 has been added.

  4. Added Welsh translation.

  5. Information about Payment Protection Insurance (PPI) claims has been added. HMRC will accept digital signatures on the R40 print and post form.

  6. We have updated the link to form R43.

  7. Added translation

  8. First published.

Print this page