Hawlio Treth Incwm yn ôl ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn P53Z(DB)
Sut i hawlio ad-daliad yn y flwyddyn dreth bresennol ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn a gawsoch yn ddiweddar a gwagiodd eich cronfa.
Gallwch hawlio’n ôl y dreth sydd arnom i chi ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn a gawsoch yn ddiweddar a gwagiodd eich cronfa.
Cyn i chi ddechrau
Cadwch unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’ch hawliad nes ein bod wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth (yn Saesneg), nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen hon. Gallwch wirio sut i wneud hawliad o dan gytundeb trethiant dwbl (yn Saesneg).
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth:
- peidiwch â chynnwys unrhyw incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn eich hawliad, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad
- bydd dal angen i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif
- dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf
- mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach
Os oes gennych incwm TWE (Talu Wrth Ennill) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
- rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad oes gennych hyn, bydd yn rhaid i chi esbonio pam (er enghraifft, efallai eich bod wedi ymddeol neu’n un o weision y Goron yn y DU a gyflogir dramor)
- enw a chyfeiriad eich enwebai — os nad ydych am i’r ad-daliad cael ei anfon i’ch cyfeiriad
Bydd angen i chi hefyd rhoi gwybod i ni faint rydych yn disgwyl ei gael o’r canlynol:
- incwm o gyflogaeth
- incwm o hunangyflogaeth
- incwm o bensiynau’r DU
- cyfandaliadau buddiant marwolaeth
- budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth — megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd
- llog wedi’i drethu ar incwm o gynilion a buddsoddiadau yn y DU
- llog heb ei drethu ar gynilion yn y DU
- difidendau o gwmnïau yn y DU
- unrhyw incwm arall
- taliadau Rhodd Cymorth
Dylech ddefnyddio:
- ffigurau wedi’u hamcangyfrif os nad oes gennych y ffigurau terfynol
- rhifau cyfan, wedi’u talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf
Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.
Dulliau o hawlio
I ddechrau eich hawliad ar-lein.
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch ffurflen P53Z(DB).
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein
-
Argraffwch y ffurflen.
-
Llenwch y ffurflen â llaw.
-
Anfonwch y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi hawlio
Unwaith bod eich hawliad (wedi’i gwblhau) yn dod i law, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.
Gall gymryd 30 diwrnod i gael ymateb. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwnnw i weld hynt eich hawliad.
Byddwn yn anfon siec atoch chi neu’ch enwebai.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 21 Chwefror 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Awst 2024 + show all updates
-
A Welsh version of the form P53Z(DB) has been added to cover tax year 2024 to 2025.
-
The form P53Z(DB) has been replaced with a version to cover tax year 2024 to 2025.
-
Added Welsh translation.
-
Added translation