Hawlio Treth Incwm yn ôl pan fyddwch wedi rhoi’r gorau i weithio (P50)
Sut i hawlio ad-daliad yn ystod y flwyddyn dreth bresennol os nad ydych yn cael budd-daliadau trethadwy neu bensiwn gan eich cyflogwr, ac os nad ydych wedi dechrau swydd newydd (P50).
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio Treth Incwm yn ôl os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio’n ddiweddar, er enghraifft os:
- ydych wedi bod yn ddi-waith am o leiaf 4 wythnos, ac nad ydych yn hawlio budd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth
- ydych wedi ymddeol o’r gwaith, ac nad ydych yn cael pensiwn gan gyn-gyflogwr
- nad ydych yn disgwyl dychwelyd i’r gwaith
- ydych wedi dychwelyd i addysg amser llawn
Ni allwch hawlio ad-daliad os ydych yn dal i fod wedi’ch cofrestru gydag asiantaeth gyflogaeth. Bydd yn rhaid i chi gysylltu â nhw i ofyn iddynt anfon eich tâl olaf a’ch manylion treth at CThEF.
Dysgwch ragor am Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol.
Gwirio cyfanswm eich incwm, gan y mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle llenwi’r ffurflen hon.
Cyn i chi ddechrau
-
Gwirio eich bod wedi cael eich tâl olaf gan eich cyflogwr cyn gwneud cais am ad-daliad.
-
Gwirio a ydych yn cael incwm trethadwy arall, neu fudd-daliadau trethadwy eraill, cyn diwedd y flwyddyn dreth — mae hyn hefyd yn cynnwys pensiwn gwaith gan eich cyn-gyflogwr.
-
Gwirio a ydych yn cael pensiwn gwaith — gall eich darparwr pensiwn ad-dalu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi.
-
Gwirio a yw Rhan 2 a Rhan 3 o’ch P45 gennych — os nad ydynt gennych, bydd yn rhaid i chi esbonio pam.
Adegau pan na ddylech ddefnyddio’r ffurflen hon
Does dim rhaid i chi hawlio ar P50 os:
- ydych wedi cael taliad pensiwn hyblyg a hoffech hawlio ad-daliad o dreth a ordalwyd — defnyddiwch ffurflen P55 i hawlio gordaliad taliad pensiwn a gyrchir yn hyblyg yn ôl
- ydych yn ddi-waith, ac yn disgwyl dechrau swydd newydd cyn pen 4 wythnos — bydd eich cyflogwr newydd yn ad-dalu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi drwy’ch cyflog
- ydych yn hawlio budd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth — gwiriwch fudd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth
- ydych yn cael pensiwn galwedigaethol — cysylltwch â’ch darparwr pensiwn a fydd yn ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus i chi, neu arhoswch tan ar ôl 5 Ebrill a byddwn yn ad-dalu unrhyw dreth y gwnaethoch ei gordalu
- ydych wedi cael cyfandaliad pensiwn bach (cymudiad pitw neu gronfa bychain) — defnyddiwch ffurflen P53 neu ffurflen P53z i hawlio os ydych wedi cael cyfandaliad pensiwn bach
Os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio, a daeth eich tâl olaf i law cyn 5 Ebrill (y flwyddyn dreth flaenorol), gallwch ddysgu sut i hawlio ad-daliad treth ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.
Hawlio ar-lein
Y ffordd gyflymaf o wneud hawliad yw ar-lein. Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Llenwch y ffurflen ar-lein hon os na allwch fewngofnodi
Gallwch ddefnyddio ein harweiniad rhyngweithiol. Bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
Casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Argraffwch y ffurflen.
-
Llofnodi’r datganiad.
-
Anfon y ffurflen at CThEF.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Unwaith i ni gael eich hawliad wedi’i gwblhau, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.
Gall ymateb gan CThEF gymryd 14 diwrnod i’ch cyrraedd. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn i weld hynt eich hawliad.
Os nad oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, rhowch enw a chyfeiriad rhywun sydd ag un, er mwyn i ni allu anfon y taliad at y person hwnnw.
Byddwn yn anfon archeb talu atoch chi neu’ch enwebai.
Ni ellir gwneud ad-daliadau drwy gyfrwng Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr).
Cael gwybod pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio
Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni os ydych wedi cael unrhyw incwm ers i chi adael eich cyflogaeth ddiwethaf.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeirnod TWE y Cyflogwr — os yw hwnnw gennych
- rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad ydynt gennych, bydd yn rhaid i chi esbonio pam (er enghraifft, efallai eich bod wedi ymddeol neu’n un o weision y Goron yn y DU a gyflogir dramor)
- elw a wnaed o’ch hunangyflogaeth yn ystod y flwyddyn dreth hon — os oes elw o gwbl
Mae’ch P45 yn dangos faint o dreth rydych wedi’i thalu ar eich cyflog hyd yma yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Bydd yn rhaid i chi hefyd gadarnhau a ydych wedi cael unrhyw un o’r canlynol:
- pensiynau gan gyflogwr blaenorol
- pensiynau gwasanaethau cyhoeddus
- pensiynau y lluoedd arfog
- blwydd-dal pensiwn personol
- pensiynau bach a delir fel cyfandaliadau (cymudiad pitw)
- Pensiwn y Wladwriaeth
- budd-daliadau trethadwy ers 6 Ebrill o’r flwyddyn dreth bresennol
Dylech hefyd wirio a ydych wedi cael unrhyw incwm o’r canlynol:
- eiddo
- ymddiriedolaethau
- comisiynau
- cildyrnau
- incwm tramor
- elw a delir ar bolisïau yswiriant bywyd y DU
- unrhyw ffynhonnell arall nad ydych wedi’i nodi ar y ffurflen
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 13 Gorffennaf 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Awst 2024 + show all updates
-
Clarified that you cannot save your progress when completing the online form.
-
The planned downtime for the print and post claim form that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.
-
Due to planned downtime, the print and post claim form will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.
-
Added translation