Hawlio treth yn ôl ar ordaliad pensiwn a gyrchir yn hyblyg (P55)
Sut i hawlio ad-daliad yn y flwyddyn dreth gyfredol ar ordaliad treth pan fyddwch wedi cyrchu rhan o’ch cronfa bensiwn yn hyblyg.
Os ydych wedi talu gormod o Dreth Incwm ar daliad pensiwn a gyrchir yn hyblyg, gallwch hawlio ad-daliad os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
-
rydych wedi cyrchu’ch cronfa bensiwn yn hyblyg (yn agor tudalen Saesneg) ond heb ei gwacáu
-
ni fyddwch yn cymryd taliadau yn rheolaidd nac yn hyblyg cyn diwedd y flwyddyn dreth
-
nid yw’r corff pensiwn yn gallu gwneud ad-daliad treth
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth, nid oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon. Gallwch wirio sut i wneud hawliad o dan gytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych wedi:
-
cyrchu eich holl bensiwn ac ffurflen defnydd gwaith P50Z yn hyblyg
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i ni wybod am yr incwm rydych yn disgwyl ei gael yn y flwyddyn dreth y cawsoch eich taliad pensiwn y mae modd ei gyrchu’n hyblyg (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Dylech wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod i ni am unrhyw incwm arall yr ydych yn disgwyl ei gael
-
defnyddio’r ffigurau wedi’u hamcangyfrif i ni os nad oes gennych y ffigurau terfynol
-
defnyddio rhifau cyfan, wedi eu talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf
Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.
Cadw unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’ch hawliad nes ein bod wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Os byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth:
-
peidiwch â chynnwys incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn yr hawliad hwn, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad
-
bydd yn dal i fod yn rhaid i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif
-
dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf
-
rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach
Os oes gennych incwm TWE (Talu Wrth Ennill) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio
Ar gyfer y flwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei gyfer, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
-
enw, cyfeiriad a chyfeirnod TWE eich cyflogwr — os ydych chi’n disgwyl cael incwm o gyflogaeth am dâl
-
enw, cyfeiriad a chyfeirnod TWE eich darparwr pensiwn
Ar gyfer yr un flwyddyn, bydd angen i chi roi gwybod i ni faint rydych yn disgwyl ei gael gan:
-
incwm o gyflogaeth
-
buddiannau trethadwy gan eich cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg)
-
unrhyw incwm o bensiwn y DU
-
unrhyw gyfandaliadau taliadau pensiwn hyblyg
-
elw a wnaed o’ch hunangyflogaeth — os oes elw o gwbl
-
llog wedi’i drethu a heb ei drethu ar incwm o gynilion a buddsoddiadau yn y DU
-
budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth — megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Gofalwr, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Ceisio Gwaith, Pensiwn y Wladwriaeth
-
incwm o ddifidendau o gwmnïau yn y DU
-
unrhyw incwm arall — gan gynnwys eiddo, ymddiriedolaethau, comisiynau
-
Taliadau Rhodd Cymorth
-
unrhyw incwm arall
Os nad ydych yn siŵr beth yw swm y buddiant trethadwy y byddwch yn ei gael, gallwch ofyn i’ch cyflogwr am amcangyfrif o’r swm ar gyfer y flwyddyn dreth.
Os ydych yn berson hŷn ar incwm isel, gallwch ffonio’r elusen annibynnol, Tax Help for Older People (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor am dreth yn rhad ac am ddim.
Hawlio ar-lein
I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth:
Llenwch y ffurflen hon ar-lein os na allwch fewngofnodi
Gallwch ddefnyddio ein harweiniad rhyngweithiol. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Argraffu’r ffurflen.
-
Llofnodwch y datganiad.
-
Anfon y ffurflen at CThEF.
Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein
-
Argraffu’r ffurflen.
-
Llenwch y ffurflen â llaw.
-
Anfonwch y ffurflen at CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn gyfrifo unrhyw ad-daliad y dylech ei gael. Byddwn yn gwneud yr ad-daliad trwy Daliadau Cyflymach i gyfrif banc yn eich enw chi neu eich enwebai.
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth byddwn yn gwirio eto i sicrhau ein bod wedi ad-dalu’r swm cywir a byddwn yn cysylltu â chi os yw hyn yn wahanol.
Dysgwch pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 20 Medi 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2024 + show all updates
-
The P55 form has been updated for the 2023 to 2024 tax year.
-
Information about if you can claim a refund has been amended to confirm the 3 requirements.
-
The planned downtime for our interactive guidance that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.
-
Due to planned downtime, our interactive guidance will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.
-
Added translation