Gwneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer ‘Dupuytren’s contracture’
Pwy sy’n gymwys i wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, oherwydd bod ‘Dupuytren’s contracture’ yn effeithio ar y llaw, a sut i wneud cais.
Efallai y gallwch gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oes gennych ‘Dupuytren’s contracture’ a achoswyd gan eich gwaith.
Mae ‘Dupuytren’s contracture’ yn gyflwr lle, dros amser, mae un neu fwy o fysedd yn plygu i mewn yn barhaol tuag at gledr eich llaw ac ni ellir ei sythu mwyach. Gall y cyflwr hwn hefyd effeithio ar y bawd.
Cymhwyster
Rhaid bod gennych ‘Dupuytren’s contracture’ a ddechreuodd tra bod y ddau o’r canlynol yn berthnasol:
- cawsoch eich cyflogi am 10 mlynedd neu fwy mewn swyddi a oedd yn cynnwys defnyddio offer llaw pŵer gyda rhannau mewnol sy’n dirgrynu
- gwnaethoch ddefnyddio’r offer am 2 awr neu fwy’r dydd am 3 diwrnod neu fwy’r wythnos am yr holl gyfnod o 10 mlynedd
Ac o ganlyniad i’r gwaith hwnnw, fe wnaethoch ddatblygu ‘anffurfiad ystwythder sefydlog’ (‘fixed flexion deformity’) mewn un neu fwy o gymalau eich bysedd. Mae hyn yn golygu i bob bys sydd wedi’i effeithio, bod yn rhaid i un neu fwy o gymalau eich bys wedi plygu’n barhaol.
Mae’r llun yn dangos y cymalau rhwng y bysedd a gledr eich llaw (cymalau metacarpophalangeal) a’r cymalau ar hyd y bys (cymalau interffalangeal).
Os mai dim ond y cymal rhwng eich bys a chledr eich llaw sy’n cael ei effeithio, yna rhaid i’r tro parhaol fod yn fwy na 45 gradd.
Os effeithir ar unrhyw un o’r cymalau ar hyd y bys, gallant fod wedi’u plygu’n barhaol i unrhyw radd.
Efallai eich bod wedi datblygu’r tro parhaol i gymalau eich bysedd tra roeddech yn gweithio.
Os datblygoch y tro parhaol i’ch bys ar ôl gadael eich swydd, mae angen i chi hefyd ddangos roedd un o’r canlynol yn berthnasol:
- bod y cymal rhwng eich bys a chledr eich llaw wedi dechrau plygu tra roeddech yn gweithio yn y swydd honno, neu
- roedd newidiadau wedi dechrau digwydd i gledr eich llaw, er enghraifft y croen yn tewychu neu ddatblygu ‘palmar noudules’ (lympiau bach ar gledr eich llaw) tra’r oeddech yn gweithio yn y swydd honno
Ni allwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig.
Darllenwch fwy o wybodaeth am Dupuytren’s contracture ar wefan y GIG.
Sut i wneud cais
Lawrlwythwch ac argraffu’r ffurflen BI100PD.
Gallwch ofyn am fersiwn argraffedig o’r ffurflen trwy ffonio canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB).
Ffôn: 0800 121 8379
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Os ydych yn byw dramor ffoniwch +44 (0) 191 206 9390
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau.
Fformatau amgen
Ffoniwch ganolfan IIDB neu ysgrifennu at Ganolfan Barnsley IIDB i ofyn am fformatau amgen fel Braille, print bras neu sain CD.
Barnsley IIDB Centre
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY
Ble i anfon y ffurflen
Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i:
Barnsley IIDB Centre
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY
Os ydych yn byw dramor
Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i:
International Pension Centre
The Pension Service 11
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LW
Asesiad meddygol
Os ydych yn gymwys i hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol am ‘Dupuytren’s Contracture’ ac yn byw yn y DU, efallai y bydd angen asesiad meddygol arnoch gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig.
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn ichi am eich cyflwr, i asesu lefel yr anabledd a achosir gan y clefyd hwn.
Bydd lefel eich anabledd yn effeithio ar faint o fudd-dal y gallwch ei gael.
Os ydych yn byw dramor, efallai y gofynnir i chi anfon adroddiad meddygol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Mawrth 2022 + show all updates
-
Updated the eligibility conditions for claiming Industrial Injuries Disablement benefit because of Dupuytren's contracture.
-
First published.