Cais i ostwng taliadau ar gyfrif
Defnyddiwch y ffurflen SA303 er mwyn gwneud cais i ostwng eich taliadau Hunanasesiad ar gyfrif.
Gallwch wneud cais i ostwng y swm y gofynnwyd i chi ei dalu os yw’r canlynol yn wir:
- mae’ch elw busnes neu incwm arall yn gostwng
- mae’r rhyddhad treth sydd gennych hawl iddo’n codi
- mae’r dreth a ddidynnwyd wrth y ffynhonnell yn fwy na’r flwyddyn dreth flaenorol
I wneud cais, gallwch naill ai:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
- llenwi’r ffurflen bost ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post at CThEF
Mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft, erbyn 31 Ionawr 2025 ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.
Gwneud cais am ostyngiad
Er mwyn llenwi’r ffurflen, bydd angen enw a chyfeiriad eich swyddfa CThEF (gallwch ddod o hyd i’r manylion hyn ar frig eich datganiad) ac un o’r canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
- cyfeirnod y cyflogwr
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Os na allwch wneud cais ar-lein
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch ffurflen SA303.
-
Argraffwch y ffurflen hon, a’i hanfon at CThEF drwy’r post.
Apelio yn erbyn cosb
Gallwch wirio pryd a sut i apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad gan ddefnyddio’r offeryn ar-lein.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Dod o hyd i ragor o wybodaeth i’ch helpu gyda deall eich bil treth Hunanasesiad.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i apelio yn ei erbyn.