Canllawiau

Cadarnhau manylion rhywun sy’n cynrychioli CThEF

Dilyswch fanylion swyddog o Wasanaeth Ymchwilio i Dwyll (FIS) CThEF neu gasglwr CThEF os bydd yn cysylltu â chi yn bersonol.

Bydd unrhyw un sy’n cynrychioli CThEF bob amser yn rhoi gwybod pwy ydyw ac yn egluro pam ei fod yn cysylltu â chi pan fydd yn ymweld â chi.

Gallwch gysylltu â CThEF i wirio ei fanylion a chadarnhau ei fod yn cynrychioli CThEF.

Cadarnhau manylion swyddog FIS CThEF

Os ydych yn cael eich ymweld o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm

  1. Bydd y swyddog yn dangos ei gerdyn adnabod CThEF i chi, a bydd ei enw, llun a rhif cyfresol CThEF arno.
  2. Gwnewch nodyn o’r enw ar y cerdyn.
  3. Ffoniwch CThEF ar 0300 200 3700.
  4. Rhowch yr enw sydd ar y cerdyn adnabod i’r ymgynghorydd, fel y gall gadarnhau bod y person yn cynrychioli CThEF.

Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau.

Os ydych yn cael eich ymweld ar unrhyw adeg arall

  1. Bydd y swyddog yn dangos ei gerdyn adnabod CThEF i chi, a bydd ei enw, llun a rhif cyfresol CThEF arno.
  2. Bydd y swyddog hefyd yn rhoi cod mynediad i chi ei ddefnyddio i gadarnhau pwy ydyw.
  3. Gwnewch nodyn o’r enw ar y cerdyn a’r cod mynediad.
  4. Ffoniwch CThEF ar 0300 123 2012 a rhowch y cod mynediad ar unwaith. Nid oes rhaid i chi wrando ar y neges sydd wedi’i recordio cyn nodi’r cod.
  5. Rhowch yr enw sydd ar y cerdyn adnabod i’r ymgynghorydd, fel y gall gadarnhau bod y person yn cynrychioli CThEF.

Dysgwch ragor am gostau galwadau.

Cadarnhau manylion casglwr CThEF

Fel arfer bydd casglwr CThEF yn ymweld â chi rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os bydd casglwr yn ymweld â chi ar unrhyw adeg arall a’ch bod am gadarnhau ei fanylion, trefnwch apwyntiad ag ef i’w ddychwelyd rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd y casglwr yn dangos ei gerdyn adnabod CThEF i chi a bydd ei enw, llun a rhif cyfresol arno.

  1. Gwnewch nodyn o’r enw a’r rhif cyfresol ar y cerdyn.
  2. Ffoniwch CThEF ar 0300 200 3862.
  3. Rhowch yr enw a’r rhif cyfresol ar y cerdyn i’r ymgynghorydd, fel y gall gadarnhau bod y person yn cynrychioli CThEF.

Dysgwch ragor am gostau galwadau.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch wirio rhestr o gysylltiadau dilys CThEF i’ch helpu i benderfynu os yw’r cyswllt rydych wedi ei gael yn dod o CThEF, neu’n sgam gan dwyllwr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Medi 2023 + show all updates
  1. The phone number to confirm a HMRC FIS officer’s identity if you’re visited Monday to Friday, from 8am to 6pm has been updated.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.

Print this page