Canllawiau

Taliadau Costau Byw 2022 i 2024

Canllawiau ar gael taliadau ychwanegol i helpu gyda chostau byw o 2022 i 2024 os oes gennych hawl i fudd-daliadau penodol neu gredydau treth.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Efallai y byddwch wedi bod yn gymwys i gael taliadau i helpu gyda chostau byw os oeddech yn cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol ar ddyddiadau penodol rhwng 2022 a 2024.

Nid oes angen i chi wneud cais am y taliadau hyn. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig yn yr un ffordd ag y byddwch fel arfer yn cael eich budd-dal neu gredydau treth. Mae hyn yn cynnwys os canfyddir eich bod yn gymwys yn ddiweddarach .

Os ydych wedi cael neges yn gofyn i chi wneud cais neu gysylltu â rhywun am y taliad, gallai hyn fod yn sgam.

Nid yw’r taliadau hyn yn drethadwy ac ni fyddant yn effeithio ar y budd-daliadau na’r credydau treth a gewch.

Os ydych wedi derbyn Taliad Costau Byw, ond rydym yn darganfod yn ddiweddarach nad oeddech yn gymwys i’w gael, efallai y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Taliad Costau Byw budd-daliadau incwm isel a chredydau treth

Efallai bod gennych hawl i gael Taliadau Costau Byw o £326, £324, £301, £300 a £299 os oeddech yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau neu’r credydau treth canlynol ar ddyddiadau penodol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seliedig ar incwm

  • Cymhorthdal Incwm

  • Credyd Pensiwn

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Treth Plant

  • Credyd Treth Gwaith

Ni chewch daliad os oeddech ond yn cael ESA Dull Newydd, ESA yn seiliedig ar gyfraniadau, neu JSA Dull Newydd .

Dyddiadau cymhwysedd a thaliadau Credyd Cynhwysol

Swm y taliad Cymhwyster Taliad Costau Byw Dyddiadau talu
£299 Roedd gennych hawl i daliad Credyd Cynhwysol am gyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod 13 Tachwedd 2023 i 12 Rhagfyr 2023 Rhwng 6 Chwefror a 22 Chwefror 2024 i’r rhan fwyaf o bobl
£300 Roedd gennych hawl i daliad Credyd Cynhwysol am gyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod 18 Awst 2023 i 17 Medi 2023 Rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£301 Roedd gennych hawl i daliad Credyd Cynhwysol am gyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod 26 Ionawr 2023 i 25 Chwefror 2023 Rhwng 25 Ebrill a 17 Mai 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£324 Roedd gennych hawl i daliad Credyd Cynhwysol am gyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod 26 Awst 2022 i 25 Medi 2022 Rhwng 8 a 23 Tachwedd 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
£326 Roedd gennych hawl i daliad Credyd Cynhwysol am gyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod 26 Ebrill 2022 i 25 Mai 2022 Rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2022 i’r rhan fwyaf o bobl

Efallai y bydd eich taliad yn dod yn ddiweddarach, er enghraifft os ydych yn cael budd-dal cymwys ar ddyddiad diweddarach neu os gwnaethoch newid y cyfrif y talwyd eich budd-dal iddo. Byddwch yn dal i gael eich talu’r Taliad Costau Byw yn awtomatig.

Dyddiadau cymhwysedd a thaliadau JSA yn seiliedig ar incwm, ESA yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn

Swm y taliad Cymhwyster Taliad Costau Byw Dyddiadau talu
£299 Roedd gennych hawl i daliad o’r budd-dal am unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 13 Tachwedd 2023 i 12 Rhagfyr 2023 Rhwng 6 Chwefror a 22 Chwefror 2024 i’r rhan fwyaf o bobl
£300 Roedd gennych hawl i daliad o’r budd-dal am unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 18 Awst 2023 i 17 Medi 2023 Rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£301 Roedd gennych hawl i daliad o’r budd-dal am unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 26 Ionawr 2023 i 25 Chwefror 2023 Rhwng 25 Ebrill a 17 Mai 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£324 Roedd gennych hawl i daliad o’r budd-dal am unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 26 Awst 2022 i 25 Medi 2022 Rhwng 8 a 23 Tachwedd 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
£326 Roedd gennych hawl i daliad o’r budd-dal am unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 26 Ebrill 2022 i 25 Mai 2022 Rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2022 i’r rhan fwyaf o bobl

Rydych hefyd yn gymwys os oedd gennych hawl i JSA yn seiliedig ar incwm, ESA yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn am unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod cymhwyster, ond ni chawsoch daliad budd-dal oherwydd bod eich hawl rhwng 1 ceiniog a 9 ceiniog.

Efallai y bydd eich taliad yn dod yn ddiweddarach, er enghraifft os ydych yn cael budd-dal cymwys ar ddyddiad diweddarach neu os gwnaethoch newid y cyfrif y talwyd eich budd-dal iddo. Byddwch yn dal i gael eich talu’r Taliad Costau Byw yn awtomatig.

Dyddiadau cymhwysedd a thaliadau credydau treth

Swm y taliad Cymhwyster Taliad Costau Byw Dyddiadau talu
£299 Cawsoch daliad o gredydau treth mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 13 Tachwedd 2023 i 12 Rhagfyr 2023 Rhwng 16 Chwefror a 22 Chwefror 2024 i’r rhan fwyaf o bobl
£300 Cawsoch daliad o gredydau treth mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 18 Awst 2023 i 17 Medi 2023 Rhwng 10 Tachwedd a 19 Tachwedd 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£301 Cawsoch daliad o gredydau treth mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod 26 Ionawr 2023 i 25 Chwefror 2023 Rhwng 2 Mai a 9 Mai 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£324 Cawsoch daliad o gredydau treth yn y cyfnod 26 Awst 2022 i 25 Medi 2022 Rhwng 23 a 30 Tachwedd 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
£326 Cawsoch daliad o gredydau treth yn y cyfnod 26 Ebrill 2022 i 25 Mai 2022 Rhwng 2 a 7 Medi 2022 i’r rhan fwyaf o bobl

Os oeddech yn cael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith, dim ond hawl i Daliad Costau Byw ar gyfer Gredyd Treth Plant sydd gennych, a delir gan CThEF.

Os oeddech chi’n cael credydau treth gan CThEF a budd-dal incwm isel gan DWP, ni allwch gael Taliad Costau Byw gan CThEF a’r DWP. Fel arfer byddwch ond yn cael eich talu gan y DWP.

Efallai y bydd eich taliad yn dod yn ddiweddarach, er enghraifft os dyfernir credydau treth i chi yn ddiweddarach neu os gwnaethoch newid y cyfrif y talwyd eich credydau treth iddo. Byddwch yn dal i gael eich talu’r Taliad Costau Byw yn awtomatig.

Ceisiadau ar y cyd

Os oedd gennych gais ar y cyd ar y dyddiadau cymhwyso, mae gennych hawl i un taliad o £326, £324, £301, £300 a £299, a anfonir drwy’r un dull talu a ddefnyddir ar gyfer eich budd-dal neu gredydau treth rhwng y dyddiadau hyn.

Pan nad ydych yn gymwys: Budd-daliadau’r DWP

Nid ydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw os gostyngwyd eich budd-dal i £0 am y cyfnod cymhwyso. Weithiau gelwir hyn yn ‘ddyfarniad o ddim’.

Mae’r rhesymau dros leihau eich budd-dal i £0 yn cynnwys:

  • cawsoch fwy nag un taliad o enillion yn eich cyfnod asesu Credyd Cynhwysol

  • mae eich incwm chi neu eich partner wedi cynyddu

  • aeth cynilion eich partner neu eich partner i fyny

  • rydych wedi dechrau cael budd arall

  • cawsoch ‘sancsiwn’ oherwydd na wnaethoch chi rywbeth y cytunwyd arno yn eich ymrwymiad hawlydd

Efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Taliad Byw os gostyngwyd eich budd-dal i £0 ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • tynnwyd arian o’ch budd-dal am resymau eraill, fel taliadau rhent i’ch landlord neu am arian sy’n ddyledus gennych

  • cawsoch daliad caledi oherwydd na oeddech yn gallu talu am rent, gwres, bwyd neu hylendid

Pan nad ydych yn gymwys: credydau treth

Nid ydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw os yw eich hawl credydau treth ar gyfer y flwyddyn dreth yn is na £26.

Cymhwyster am y Taliad Costau Byw Anabledd

Efallai y byddwch wedi bod â hawl i 2 Daliad Costau Byw Anabledd o £150 os oeddech yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol ar rai dyddiadau:

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Gweini Cyson

  • Lwfans Byw i’r Anabl i oedolion

  • Lwfans Byw i’r Anabl i blant

  • Taliad Annibyniaeth Personol

  • Taliad Anabledd Oedolion (yn yr Alban)

  • Taliad Anabledd Plant (yn yr Alban)

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

  • Atodiad Symudedd Pensiwn y Rhyfel

Dyddiadau cymhwysedd a thaliadau Taliad Costau Byw Anabledd

Cymhwysedd Taliad Costau Byw Anabledd Dyddiadau talu
Cawsoch daliad o un o’r budd-daliadau hyn ar gyfer 1 Ebrill 2023 Rhwng 20 Mehefin 2023 a 4 Gorffennaf 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
Cawsoch daliad o un o’r budd-daliadau hyn ar gyfer 25 Mai 2022 Rhwng 20 Medi 2022 a dechrau Hydref 2022 i’r rhan fwyaf o bobl

Efallai y bydd eich taliad yn dod yn ddiweddarach, er enghraifft os ydych yn cael budd-dal cymwys ar ddyddiad diweddarach neu os gwnaethoch newid y cyfrif y talwyd eich budd-dal iddo. Byddwch yn dal i gael eich talu’r Taliad Costau Byw yn awtomatig.

Os oeddech yn cael budd-dal cymwys gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a budd-dal cymwys gan DWP, byddwch ond yn cael Taliad Costau Byw Anabledd gan DWP.

Mae canllawiau ar y Taliad Costau Byw Anabledd hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen. [Taliad Costau Byw Anabledd hawdd ei ddarllen] (https://assets.publishing.service.gov.uk/media/6492d00b103ca6000c03a2ba/disability-cost-of-living-payment-easy-read.pdf) (PDF, 2.45 MB, 8 tudalen)

Rhoi gwybod am Daliad Cost Byw sydd ar goll

Dylai’r rhan fwyaf o bobl fod wedi derbyn eu Taliad Costau Byw.

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal cymwys neu gredydau treth os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael Taliad Byw ond ni allwch ei weld yn eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Taliad Costau Byw i Bensiynwyr

Os oedd gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2022 i 2023 neu aeaf 2023 i 2024, byddech fod wedi cael £150 yn ychwanegol neu £300 wedi’i dalu gyda’ch taliad arferol. Roedd hyn yn ychwanegol at unrhyw Daliad Costau Byw a gawsoch gyda’ch budd-dal neu gredydau treth.

Mae swm llawn y Taliad Tanwydd Gaeaf (gan gynnwys y Taliad Costau Byw i Bensiynwyr) a gawsoch yn dibynnu ar ba bryd y cawsoch eich geni a’ch amgylchiadau:

Cymorth arall

Darganfyddwch pa fudd-daliadau a chymorth ariannol eraill y gallech eu cael i helpu gyda’ch costau byw] (https://www.gov.uk/cost-of-living).

Defnyddiwch [gyfrifiannell budd-daliadau] (https://www.gov.uk/benefits-calculators) annibynnol i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech eu cael.

Efallai y byddwch yn gallu cael mathau eraill o gymorth, gan gynnwys:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Chwefror 2024 + show all updates
  1. Added guidance on how to report a missing £299 Cost of Living Payment.

  2. Added the qualifying dates and payment dates for the £299 Cost of Living Payment for low income benefits and tax credits.

  3. If you were expecting a £300 Cost of Living Payment (paid between 31 October and 19 November 2023 for most people) and have not received it, you can now report it missing.

  4. Updated timings for the £299 Cost of Living Payment from 'spring 2024' to 'by spring 2024'.

  5. Added the qualifying dates and payment dates for the £300 Cost of Living Payment for low income benefits and tax credits.

  6. You can now report a missing Disability Cost of Living Payment by telephone.

  7. Added guidance on how to report a missing £150 Disability Cost of Living Payment.

  8. Added easy read guidance about the Disability Cost of Living Payment.

  9. Added the qualifying date and payment dates for the Disability Cost of Living Payment.

  10. Added link to report a missing £301 Cost of Living Payment for low income benefits and tax credits.

  11. Clarified that you will not get a Cost of Living Payment for a low income benefit if your benefit is reduced to £0 because you got a ‘sanction’ because you did not do something you agreed in your claimant commitment. But you may get a Cost of Living Payment if you had a 'hardship payment' because you got a 'sanction'.

  12. In the section about the Pensioner Cost of Living Payment, corrected the eligibility date for the Winter Fuel Payment. You can get a Winter Fuel Payment for winter 2023 to 2024 if you were born before 25 September 1957, not 24 September as the guidance previously said.

  13. The £301 Cost of Living Payment for people on tax credits and no other low income benefits will be paid between 2 and 9 May 2023 for most people.

  14. Published the eligibility dates and payment dates for the £301 Cost of Living Payment for people on a low income benefit.

  15. Added translation

  16. First published.

Print this page