Diffiniadau o gydrannau gorffenedig ac addasiadau sylweddol ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
Gwiriwch pryd mae deunydd pacio’n cael ei ddynodi fel cydran pacio plastig orffenedig, a beth mae addasiadau sylweddol yn ei olygu, er mwyn gweld a oes angen i chi gofrestru ar gyfer y dreth.
Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych:
- yn disgwyl gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 30 diwrnod nesaf
- wedi gweithgynhyrchu yn y DU, neu fewnforio i’r DU, 10 tunnell neu fwy o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf
Mae hyn yn berthnasol i ddeunydd pacio sy’n agored i’r dreth a deunydd pacio sydd o fewn cwmpas y dreth yn unig.
Diffiniad o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig
Mae Treth Deunydd Pacio Plastig yn daladwy pan fydd cydran deunydd pacio plastig unigol yn orffenedig, os yw hyn yn digwydd yn y DU, neu pan fydd deunydd pacio plastig gorffenedig yn cael ei fewnforio.
Gall deunydd pacio fod yn un gydran, er enghraifft un bag i gynnwys nwyddau, neu gellir ei wneud o sawl cydran deunydd pacio gorffenedig i alluogi’r deunydd pacio i gynnwys nwyddau, er enghraifft potel, clawr, a label.
Os ydych yn mewnforio deunydd pacio plastig sydd eisoes wedi’i lenwi â nwyddau, caiff ei drin fel cydran deunydd pacio gorffenedig, a byddwch yn agored i dalu’r dreth ar bob cydran sy’n ffurfio deunydd pacio’r nwyddau.
Os ydych yn gweithgynhyrchu deunydd pacio plastig, neu’n mewnforio deunydd pacio plastig heb ei lenwi, bydd angen i chi bennu pryd mae’r gydran/cydrannau deunydd pacio yn orffenedig.
Mae cydran yn orffenedig pan fydd wedi cael ei haddasu’n sylweddol am y tro olaf. Os yw’r addasiad sylweddol olaf yn digwydd fel rhan o broses bacio neu lenwi’r deunydd pacio, bydd y gydran yn orffenedig ar ôl yr addasiad sylweddol diwethaf cyn yr un hwnnw.
Bydd y busnes sy’n gwneud yr addasiad sylweddol olaf cyn y broses bacio neu lenwi yn agored i’r dreth.
Diffiniad o addasiad sylweddol
Addasiad sylweddol yw’r broses weithgynhyrchu olaf sy’n newid natur y gydran deunydd pacio.
Mae addasiad sylweddol yn broses weithgynhyrchu sy’n newid nodweddion y cydrannau pacio. Dyma’r nodweddion:
- siâp
- strwythur
- trwch
- pwysau
Nid yw pob proses weithgynhyrchu yn addasiad sylweddol.
Os byddwch yn cwblhau nifer o brosesau ar yr un pryd i orffen cydran deunydd pacio, ac o leiaf un o’r prosesau hynny yw’r broses addasu sylweddol olaf, yna bydd yr holl brosesau eraill a gyflawnwyd ar yr un pryd hefyd yn cael eu hystyried fel yr addasiad sylweddol olaf. Mae hyn yn cynnwys pan na fyddai unrhyw un o’r prosesau eraill yn cael eu hystyried yn addasiadau sylweddol fel arall.
Os ydych yn mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig sydd eisoes wedi bod drwy eu haddasiad sylweddol olaf, byddant yn cael eu hystyried yn orffenedig, a chi fydd yn agored i’r dreth.
Enghreifftiau o brosesau gweithgynhyrchu sy’n brosesau addasu sylweddol
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Allwthiad
Mae hyn yn digwydd pan fydd y deunydd crai yn cael ei wasgu drwy ddei er mwyn ffurfio’r siâp angenrheidiol.
Gellir gwneud dalennau plastig a ffilm chwythedig fel hyn.
Ffurfio
Mae hyn yn digwydd pan fydd dalen blastig yn cael ei siapio’n ddeunydd pacio drwy gael ei gwresogi a’i siapio, gan gynnwys thermoffurfio a ffurfio dan wactod.
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- potiau
- tybiau
- hambyrddau
Nid yw hyn yn cynnwys chwythu neu ffurfio cydran deunydd pacio o ragffurfiad.
Haenu a lamineiddio
Mae hyn yn digwydd pan fydd dwy haen neu fwy yn cael eu bondio gyda’i gilydd.
Gellir gwneud labeli fel hyn.
Mowldin
Dyma pryd mae plastig yn cael ei fowldio i siâp penodol.
Gellir gwneud caeadau poteli a rhagffurfiadau poteli yn y ffordd hon.
Argraffu
Dyma pryd mae inc yn cael ei roi ar blastig, fel arfer i roi manylion ynghylch beth fydd yn mynd yn y pecyn.
Newidiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn addasiadau sylweddol
Nid yw pob proses weithgynhyrchu sy’n newid nodweddion allweddol y deunydd pacio yn cael ei hystyried yn addasiad sylweddol.
Mae’r prosesau canlynol yn rhestr gynhwysfawr o’r prosesau nad ydynt yn cael eu hystyried yn addasiadau sylweddol.
Chwythu
Chwythu neu fel arall ffurfio cydran deunydd pacio o ragffurfiad.
Er enghraifft, chwythu rhagffurfiadau poteli yn boteli.
Torri
Torri’r deunydd pacio, er enghraifft torri ffilm i faint neu dorri hambyrddau ffurfiedig allan o ddalen fwy.
Labelu
Labelu’r deunydd pacio, er enghraifft drwy ludo label ar dwb neu gynhesu label ffilm sy’n crebachu ar botel.
Gall y label hefyd fod yn gydran deunydd pacio y dylid ei hystyried ar gyfer y dreth.
Selio
Selio’r deunydd pacio, er enghraifft gosod caead ffilm ar dwb neu roi dwy ochr o ddarn o ffilm i gau bag.
Y rheiny sy’n mewnforio deunydd pacio plastig
Os ydych yn mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig, mae Treth Deunydd Pacio Plastig yn daladwy pan fydd y deunydd wedi clirio’r holl weithdrefnau tollau. Mae hyn yn cynnwys mewnforion o Ynysoedd y Sianel ac o’r tu allan i’r DU i mewn i Ynys Manaw.
Fel arfer, y sawl sy’n mewnforio sy’n gweithredu fel y derbynnydd ar gyfer dogfennau mewnforio, heblaw bod y derbynnydd yn gallu profi ei fod yn gweithredu ar ran rhywun sy’n rheoli’r gwaith o fewnforio. Er enghraifft, gall cludwr dod â chydrannau deunydd pacio plastig i’r DU ar ran dosbarthwr o’r DU. Y dosbarthwr fydd yn agored i dalu’r dreth ar y cydrannau deunydd pacio plastig hynny am mai ef sy’n rheoli’r archeb.
Os mai chi yw’r derbynnydd ac yn credu nad ydych yn gyfrifol am y dreth, mae’n rhan bwysig o’ch diwydrwydd dyladwy eich bod yn gwneud yn siŵr bod y mewnforiwr rydych yn gweithredu ar ei ran yn rhoi cyfrif am unrhyw Dreth Deunydd Pacio Plastig sy’n ddyledus.
Os ydych yn mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig gan ddefnyddio ‘incoterms’, bydd angen i chi gytuno gyda’r busnes arall o ran pwy sy’n gyfrifol am gynnwys y manylion ar ei ddatganiad Treth Deunydd Pacio Plastig a phwy sydd am dalu’r dreth.
Gallwch fewnforio mathau penodol o ddeunydd pacio ailddefnyddiadwy i’r DU gan ddefnyddio’r weithdrefn Mynediad Dros Dro (yn Saesneg). Ni fydd deunydd pacio ailddefnyddiadwy sy’n cael eu mewnforio gennych yn y ffordd hon yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig.
Enghreifftiau o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig
Enghraifft 1
- Mae Busnes A yn mewnforio poteli diod (mae’r poteli, labeli a chloriau yn gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig unigol) sydd eisoes wedi’u llenwi i’r DU.
- Yna, mae Busnes A yn eu gwerthu i Fusnes B.
Ystyrir y tair cydran deunydd pacio yn orffenedig pan fydd y diodydd yn cael eu mewnforio.
Mae hyn yn golygu mai Busnes A sy’n gyfrifol am dalu’r dreth, oherwydd bod y poteli diod eisoes wedi’u llenwi, felly mae’r deunydd pacio a’i gydrannau eisoes yn orffenedig.
Enghraifft 2
- Mae busnes A yn mewnforio ffilm i’r DU.
- Mae busnes B yn lamineiddio’r ffilm.
- Mae busnes C yn torri’r ffilm.
- Mae busnes CH yn defnyddio’r ffilm i lapio bwyd.
Mae’r gydran deunydd pacio yn orffenedig wrth i’r ffilm gael ei lamineiddio.
Mae hyn yn golygu mai busnes B sy’n gyfrifol am dalu’r dreth oherwydd bod torri yn un o’r 4 proses nad ydynt yn cael eu trin fel addasiadau sylweddol, felly lamineiddio’r ffilm yw cam sylweddol olaf y broses.
Enghraifft 3
- Mae busnes A yn mewnforio ffilm i’r DU.
- Mae busnes B yn lamineiddio’r ffilm, ei thorri a’i rholio ar roliau llai o faint.
- Mae busnes C yn ei defnyddio i lapio bwyd.
Mae’r gydran deunydd pacio yn orffenedig pan mae’r ffilm yn cael ei thorri.
Mae hyn yn golygu mai busnes B sy’n gyfrifol am dalu’r dreth, oherwydd er nad yw torri yn cyfrif fel addasiad sylweddol, yr un busnes oedd wedi cwblhau’r addasiad sylweddol olaf, sef lamineiddio.
Enghraifft 4
- Mae busnes A yn fusnes o’r DU sy’n allwthio poteli wedi’u rhagffurfio.
- Mae busnes B yn chwythu rhagffurfiadau poteli yn boteli.
- Mae busnes C yn llenwi’r poteli.
Mae’r gydran deunydd pacio yn orffenedig ar y cam o allwthio’r poteli wedi’u rhagffurfio.
Mae hyn yn golygu mai Busnes A sy’n gyfrifol am dalu’r dreth, oherwydd bod chwythu potel ragffurfiedig yn un o’r 4 proses nad yw’n cael ei thrin fel addasiad sylweddol.
Enghraifft 5
- Mae busnes A yn allwthio ffilm ac yn ei llwytho ar roliau.
- Mae busnes B yn argraffu ar y ffilm ac yn rhoi tyllau ynddi.
- Mae busnes C yn defnyddio’r ffilm fel bagiau salad fel rhan o’r broses o lenwi’r deunydd pacio.
Mae’r gydran deunydd pacio yn orffenedig pan yr argraffir ar y ffilm.
Mae hyn yn golygu mai busnes B sy’n gyfrifol am dalu’r dreth. Er yr ystyrir y broses o greu bag yn addasiad sylweddol, oherwydd ei fod yn rhan o’r broses o lenwi’r deunydd pacio, mae’r dreth yn ddyledus ar y cam blaenorol o’r addasiadau sylweddol, sef pan yr argraffir ar y ffilm.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Medi 2023 + show all updates
-
Added translation
-
To add detail to the definition of a finished plastic packaging component.
-
You must now look back 12 months from the last day of the month, to check how much finished plastic packaging components you manufactured and imported, instead of looking back from 1 April 2022.
-
'Importers of plastic packaging' has been updated to show that certain types of reusable packaging will not be subject to Plastic Packaging Tax if they are imported into the UK under the Temporary Admission procedure.
-
The section 'Importers of plastic packaging' has been updated to clarify that Plastic Packaging Tax is chargeable on imports from the Channel Islands and from outside of the UK into the Isle of Man, when the packaging has cleared all customs procedures.
-
Added translation.
-
The guide has been updated to make clear who is liable for Plastic Packaging Tax when packaging is imported.
-
The guide has been updated with examples of when plastic packaging components are finished and information for importers of plastic packaging.
-
Added translation
-
First published.