Dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, yn ystod coronafeirws (COVID-19)
Cael gwybod am newidiadau dros dro i ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, os ydych yn fragwr, yn gynhyrchydd seidr neu win, neu’n dafarnwr.
Mae CThEM wedi cyflwyno mesur dros dro i helpu gyda dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, yn ystod coronafeirws, ar gyfer:
- bragwyr
- cynhyrchwyr seidr
- cynhyrchwyr gwin neu win a wnaed
- tafarnwyr
Fel rheol, mae’n rhaid i berson cyfrifol o’r bragdy, man cynhyrchu seidr neu windy oruchwylio dinistrio alcohol. Oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae’n anodd gwneud hyn ar hyn o bryd.
Pwy all ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha
Gallwch nawr benodi’r tafarnwr neu berson y cytunwyd arno yn y safle i ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha. Does dim rhaid i Gynrychiolydd Awdurdodedig y Cwmni (ACR) fod yn bresennol.
Mae’n rhaid i chi ddilyn amodau iechyd a diogelwch a chytuno ar hyn gyda’r person sy’n ymgymryd â’r dinistrio.
Rhagor o arweiniad ar gyfer tafarnwyr sy’n dinistrio cwrw sydd wedi’i ddifetha
Dylid delio â chwrw sydd wedi’i ddifetha drwy ddilyn yr hierarchaeth gwastraff bwyd a diod, a dylid ystyried gwaredu drwy’r carthffosydd fel y dewis olaf. Cyn gwneud trefniadau i ddychwelyd neu waredu cwrw neu ei addasu at ddibenion gwahanol, dylech gael caniatâd gan y bragwr sy’n berchen ar y dafarn.
Os bydd asesiad risg yn dangos ei bod yn ddiogel cael gwared ar gynwysyddion llawn cwrw o’r safle, dylech osgoi gwaredu drwy’r carthffosydd a dylid defnyddio dulliau eraill o ddelio â chwrw sydd wedi’i ddifetha. Er enghraifft, gellid addasu cwrw sydd wedi’i ddifetha at ddibenion gwahanol drwy:
- ei ychwanegu at fwyd anifeiliaid – i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddarparu cwrw sydd wedi’i ddifetha yn uniongyrchol i ffermydd, cysylltwch â James McCulloch yng Nghydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (Agricultural Industries Confederation) drwy e-bostio: [email protected].
- porthiant ar gyfer treulio anaerobig – i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddarparu cwrw sydd wedi’i ddifetha yn uniongyrchol i weithredwyr peirianwaith treulio anaerobig, cysylltwch â:
- Jenny Grant yn y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Lân (Association for Renewable Energy and Clean Technology), drwy e-bostio: [email protected].
- Sam Hinton yn y Gymdeithas Bioadnoddau a Threulio Anaerobig (Anaerobic Digestion and Bioresources Association), drwy e-bostio: [email protected].
Os nad oes modd addasu’r cwrw at ddibenion gwahanol, dylech gysylltu â’ch cwmni dŵr. Bydd yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut i waredu cwrw’n ddiogel drwy garthffosydd cyhoeddus.
Gall ceisiadau i gwmnïau dŵr naill ai gael eu gwneud:
- yn unigol gennych chi, fel tafarnwr
- gan y cwmni gweithredu ar ran mwy nag un safle
Os byddwch chi a’ch cwmni gweithredu yn cyflwyno ceisiadau dyblyg, mae’n bosibl y bydd oedi i’ch cais.
Am ba hyd y bydd y newid yn berthnasol
Bydd y newid dros dro hwn yn berthnasol tra bo cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn sgil coronafeirws yn dal yn eu lle.^
Bydd CThEM yn rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn tynnu’r mesurau dros dro hyn yn ôl.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Mae’n rhaid i chi barhau i gadw’r wybodaeth ganlynol:
- llwybr archwilio sy’n cadarnhau dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed, sydd â tholl wedi’i thalu
- tystiolaeth o gredyd llawn o’r doll wedi’i thalu, neu dystiolaeth o ddarparu nwyddau newydd i’ch cwsmer neu i berchennog y nwyddau yn lle’r rhai gwreiddiol, ar yr adeg y cawsant eu difetha
- cofnod o’r cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha
Y dystiolaeth sydd ei hangen arnom
Os byddwch yn hawlio’r rhyddhad, mae’n rhaid i chi fod yn fodlon bod yr alcohol wedi’i ddinistrio a chadw tystiolaeth addas. Er enghraifft, gall tystiolaeth fod ar ffurf fideo. Gall y person y cytunwyd arno yn y safle recordio hwn a’i roi i’r bragwr neu’r cynhyrchydd seidr, gwin neu win a wnaed, ar gyfer ei gofnodion.
Diwygio’ch datganiadau misol
Bragwyr
Gallwch ddiwygio’ch datganiadau misol a chyfrifo’r doll sydd arnoch drwy ddefnyddio ffurflen EX46.
Cynhyrchwyr seidr a gwin neu win a wnaed
Gallwch ddiwygio’ch datganiadau misol a chyfrifo’r doll sydd arnoch drwy ddefnyddio ffurflen EX606, os ydych yn un o’r canlynol:
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am effeithiau’r gyfraith a’r rheoliadau sy’n ymwneud â chynhyrchu, storio a rhoi cyfrif am doll ar y canlynol:
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Gorffennaf 2020 + show all updates
-
Information about how spoilt beer can be re-purposed has been updated.
-
Additional guidance has been added for publicans destroying spoilt beer.
-
We have added a Welsh language translation.
-
We have amended temporary measures to include cider, wine or made-wine in addition to beer. This includes advice to cider producers and wine and made-wine makers in addition to brewers and publicans.
-
Guidance about what you need to do as a brewer has been updated.
-
First published.