Tâl cuddiedig: setlo’ch materion treth
Os oes gennych fenthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu, gallwch eu setlo o dan delerau 2020.
Mae’r arweiniad hwn wedi’i ddiweddaru, yn dilyn newidiadau a wnaed i’r tâl ar fenthyciad yn Neddf Cyllid 2020.
Os oes gennych fenthyciadau tâl cuddiedig sydd heb eu talu, gallwch eu setlo o dan delerau setlo tâl cuddiedig 2020. Dylid defnyddio’r telerau hyn ar gyfer setliadau mewn perthynas â phob rhwymedigaeth tâl cuddiedig.
Drwy gysylltu â CThEF i setlo’ch materion treth, gallwch gytuno ar yr hyn sydd arnoch ac, os bydd angen, gallwch drefnu cynllun talu dichonadwy. Bydd setlo’ch defnydd o gynllun tâl cuddiedig yn rhoi sicrwydd i chi ynghylch eich materion treth ac yn eich helpu i osgoi arbed treth am byth. Gallai hefyd olygu na fyddwch yn wynebu rhwymedigaeth dreth fwy os bydd y cynllun yr ydych wedi’i ddefnyddio yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys.
Os cawsoch fenthyciad tâl cuddiedig drwy gyflogwr, a bod y cyflogwr hwnnw ar ganol proses ansolfedd ar hyn o bryd, efallai y byddwn yn ymgysylltu â Deiliad y Swyddfa Ansolfedd sy’n delio â’r ansolfedd cyn y gallwn gytuno i setlo gyda chi. Oherwydd y ffordd y mae’r ansolfedd yn rhyngweithio â setliad yn y sefyllfa hon, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol cyn i chi gysylltu â CThEF i drafod setliad.
Dylid defnyddio’r telerau hyn ar gyfer setliadau mewn perthynas â phob rhwymedigaeth tâl cuddiedig. Mae proses wahanol os ydych am setlo’ch materion treth ar gyfer mathau eraill o gynllun arbed treth (yn agor tudalen Saesneg).
Talu’r hyn sydd arnoch
Drwy gytuno ar setliad gyda CThEF, bydd modd i’r rheini sydd â rhwymedigaethau tâl cuddiedig ddod â’u defnydd o arbed treth i ben.
Mae telerau’r setliad yn wahanol gan ddibynnu a yw CThEF yn eich ystyried yn un o’r canlynol:
- contractwr
- cyflogwr
- cyflogai
Bydd angen i flynyddoedd treth sy’n destun asesiad neu ymchwiliad agored gael eu datrys, naill ai drwy setliad gyda CThEF neu drwy hysbysiad cau. Bydd y ffordd y caiff ymchwiliad agored ei ddatrys yn dibynnu ar ffactorau fel:
- y math o gynllun a ddefnyddir
- a oes unrhyw dreth weddilliol yn ddyledus, fel y disgrifir yn nhelerau setliad tâl cuddiedig 2020
- a yw hysbysiad i wneud taliad cyflymedig (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i dalu
Os yw treth weddilliol yn ddyledus, bydd angen ei thalu i ddatrys yr ymchwiliadau agored, ar wahân i ble y bodlonir meini prawf penodol. Darllenwch adran 6 o delerau setlo tâl cuddiedig 2020 i gael rhagor o wybodaeth.
Os na chaiff achos ei ddatrys drwy setliad, gellir cyfeirio apêl at y tribiwnlys. Mae hyn yn golygu y bydd tribiwnlys neu lys annibynnol yn penderfynu faint o dreth sy’n ddyledus.
Pan fo mwy nag un rhwymedigaeth o ran Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi digwydd ar yr un incwm sylfaenol, bydd rhyddhad trethiant dwbl ar gael. Darllenwch adran 5 o delerau setlo tâl cuddiedig 2020 i gael rhagor o wybodaeth.
Contractwyr
Fe’ch ystyrir yn gontractwr os ydych yn darparu eich gwasanaethau i gleientiaid nad ydynt yn eich cyflogi’n uniongyrchol. Gallech fod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn darparu’ch gwasanaethau trwy’r canlynol:
- cwmni ambarél
- partneriaeth
- asiantaeth
- eich cwmni eich hun
Os nad ydych yn siŵr a yw hyn yn effeithio arnoch, gwiriwch a ydych wedi defnyddio cynllun benthyciadau contractwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi dalu:
- Treth Incwm ar swm yr holl fenthyciadau neu daliadau tâl cuddiedig a wnaed, heb gynnwys unrhyw ffioedd cynllun a dalwyd — cyfrifir hyn gan ddefnyddio’r haenau a’r cyfraddau yn y blynyddoedd y gwnaethpwyd y benthyciadau neu’r taliadau
- llog am dalu’n hwyr ar gyfer unrhyw flynyddoedd lle mae gennym ymchwiliad agored i’ch materion treth, neu lle mae CThEF o fewn terfynau amser i agor ymchwiliad, neu lle mae asesiad ar waith
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol, os ydych yn gontractwr hunangyflogedig — gan gynnwys os ydych yn gweithio drwy bartneriaethau
- unrhyw gosbau a Threth Etifeddiant, yn dibynnu ar eich amgylchiadau
Gall y cyfanswm gael ei ostwng gan unrhyw Dreth Incwm yr ydych wedi’i thalu oherwydd i chi neu’ch cyflogwr ddatgan buddiant (yn agor tudalen Saesneg) ar sail cael benthyciad buddiannol. Mae hyn ond yn opsiwn os yw’r flwyddyn dreth berthnasol mewn pryd i gael ei diwygio, neu os yw mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud.
Cyflogwyr
Fe’ch ystyrir yn gyflogwr os gwnaethoch ddefnyddio cynllun tâl cuddiedig i wobrwyo’ch cyflogeion.
Bydd angen i chi dalu:
- Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y swm a gyfrannwyd at y cynllun neu a ddyrannwyd iddo — cyfrifir hyn gan ddefnyddio’r haenau a’r cyfraddau yn y blynyddoedd y gwnaethoch gyfrannu at y cynllun neu y gwnaethpwyd dyraniadau
- llog am dalu’n hwyr ar gyfer unrhyw flynyddoedd lle mae gennym ymchwiliad agored i’ch materion treth, neu lle’r ydym o fewn terfynau amser i agor ymchwiliad, neu lle mae asesiad ar waith
- unrhyw gosbau a Threth Etifeddiant, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r math o gynllun y gwnaethoch ymrwymo iddo
Gellir gostwng y cyfanswm gan unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a delir gennych chi neu Dreth Incwm a delir gan eich cyflogai, ar sail cael benthyciad fel buddiant (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn ond yn berthnasol i flynyddoedd treth sydd mewn pryd i gael eu diwygio neu sydd mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud.
Byddwch yn cael rhyddhad Treth Gorfforaeth ar y ffi a delir i’r hyrwyddwr am ymuno â’r cynllun.
Cyflogeion
Fe’ch ystyrir yn gyflogai os nad ydych yn gontractwr a’ch bod wedi cael eich talu trwy gynllun tâl cuddiedig a ddefnyddiwyd gan eich cyflogwr.
Os nad yw’ch cyflogwr eisoes wedi setlo ei faterion treth, bydd angen i chi dalu:
- y Dreth Incwm a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol y byddai’ch cyflogwr wedi’u talu pe bai’n setlo’i faterion treth ar y symiau a dalwyd i chi drwy’r cynllun
- llog am dalu’n hwyr ar gyfer unrhyw flynyddoedd lle mae gennym ymchwiliad agored i’ch cyflogwr, neu lle’r ydym o fewn terfynau amser i agor ymchwiliad, neu lle mae asesiad ar waith
- unrhyw gosbau a Threth Etifeddiant, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r math o gynllun
Gellir gostwng y swm hwn gan unrhyw Dreth Incwm a dalwyd gennych, lle gwnaethoch chi neu’ch cyflogwr ddatgan buddiant (yn agor tudalen Saesneg) ar sail cael benthyciad buddiannol. Mae hyn ond yn opsiwn os yw’r flwyddyn dreth berthnasol mewn pryd i gael ei diwygio, neu os yw mewn pryd i hawliad am ryddhad gordaliad gael ei wneud.
Rhoi gwybodaeth setlo i CThEF
Er mwyn i chi allu setlo’ch materion treth, bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:
- enwau’r cynlluniau tâl cuddiedig a ddefnyddiwyd (os yw’n hysbys)
- cyfeirnod y cynllun neu rif Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (DOTAS) ar gyfer pob cynllun a ddefnyddiwyd (os yw’n hysbys)
- y blynyddoedd treth pan wnaethoch ddefnyddio cynllun tâl cuddiedig
- symiau’r benthyciad tâl cuddiedig ym mhob blwyddyn dreth
- a yw’r benthyciwr yn dileu unrhyw symiau benthyciad
Bydd angen i unigolion sydd am setlo eu defnydd o gynllun tâl cuddiedig hefyd roi rhagor o wybodaeth i CThEF:
- rhif Yswiriant Gwladol
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad, os oes un gennych
- p’un a oeddech yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth pan wnaethoch ddefnyddio’r cynllun
Bydd angen i gyflogwyr sydd am setlo eu defnydd o gynllun tâl cuddiedig hefyd roi’r canlynol i CThEF:
- enwau a rhifau Yswiriant Gwladol yr unigolion a gafodd fenthyciadau
- symiau a dyddiadau’r cyfraniadau at yr ymddiriedolaeth
Pan fyddwch yn rhoi’ch gwybodaeth setlo i CThEF, byddwn yn ei hystyried ac yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am gamau nesaf y broses setlo. Efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am ragor o fanylion hefyd.
Sut i roi gwybodaeth setlo ar gyfer unigolion
Dylai unigolion (contractwyr a chyflogeion) a ddefnyddiodd gynlluniau tâl cuddiedig roi eu gwybodaeth setlo i CThEF yn electronig gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, cysylltwch â CThEF a byddwn yn trafod y camau nesaf â chi.
Sut i roi gwybodaeth setlo ar gyfer cyflogwyr
Dylai cyflogwyr a ddefnyddiodd gynlluniau tâl cuddiedig roi eu gwybodaeth setlo i CThEF mewn e-bost i [email protected].
Problemau wrth dalu’r hyn sydd arnoch
Os ydych yn meddwl y byddwch yn ei chael hi’n anodd talu’r hyn sy’n ddyledus gennych o dan delerau’r setliad, gallwn eich helpu i setlo’ch materion treth a gadael cynlluniau arbed treth tâl cuddiedig drwy ledaenu taliadau dros nifer o flynyddoedd.
Nid oes uchafswm o ran amser ar gyfer trefniadau talu o dan y telerau hyn ac ni fyddwch yn talu mwy na 50% o’ch incwm gwario, oni bai bod gennych lefel uchel iawn o incwm gwario. Os ydych yn meddwl y bydd angen cyfnod estynedig arnoch i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, dylech gysylltu â CThEF.
Gallwch dalu’r swm sy’n ddyledus dros gyfnod o hyd at 5 neu 7 mlynedd, heb orfod rhoi unrhyw wybodaeth ariannol fanwl.
Os nad oes gennych asedion y gellir eu gwaredu a bod eich incwm:
-
yn llai na £50,000 yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiweddaraf y mae gwybodaeth ar gael ar ei chyfer, bydd CThEF yn cytuno ar drefniadau amser i dalu am o leiaf 5 mlynedd
-
yn llai na £30,000 yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiweddaraf y mae gwybodaeth ar gael ar ei chyfer, bydd CThEF yn cytuno ar drefniadau amser i dalu am o leiaf 7 mlynedd
Os yw’ch incwm yn uwch, neu os oes angen mwy o amser arnoch i dalu, gallwn eich helpu o hyd. Nid oes isafswm nac uchafswm wedi’u diffinio o ran amser ar gyfer trefniadau talu, ond bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.
Os ydych yn rhoi gwybodaeth setlo i CThEF drwy’r ffurflen ar-lein, a bod angen i chi dalu’ch setliad fesul rhandaliadau, sicrhewch fod gennych yr wybodaeth ganlynol wrth law:
- incwm a gwariant misol
- manylion unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu (nid benthyciadau tâl cuddiedig) neu drefniadau talu rheolaidd
- y taliad ymlaen llaw a’r swm misol y gallwch fforddio’u talu
- manylion unrhyw Dystysgrifau Blaendal Treth yr hoffech eu defnyddio tuag at setliad
Byddwn:
- yn ystyried unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau ac yn trafod opsiynau i reoli eich achos yn y ffordd orau
- bob amser yn edrych yn realistig ar eich incwm, eich asedion a’ch treuliau hanfodol, ochr yn ochr â’r hyn sy’n ddyledus gennych ac unrhyw ddyledion eraill
- bob amser yn ystyried faint y gallwch ei dalu, a thros ba gyfnod
- yn disgwyl i chi dalu’r swm sy’n ddyledus yn yr amser byrraf posibl
Os ydych yn meddwl nad oes gennych ffordd realistig o dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, dylech drafod hyn â ni pan fyddwn yn cysylltu â chi am eich setliad.
Cysylltu â CThEF
Os oes gennych un eisoes, gallwch siarad â’ch cyswllt yn CThEF ynghylch setlo’ch defnydd o gynllun tâl cuddiedig.
Os nad oes gennych gyswllt yn CThEF, gallwch anfon e-bost at [email protected]
Byddwn yn siarad â chi am eich opsiynau ac yn gweithio gyda chi i ddatrys eich materion treth yn y ffordd orau.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Medi 2024 + show all updates
-
The disguised remuneration scheme phone number has been removed. Disguised remuneration scheme users should contact HMRC using the email address: [email protected]
-
The tax year used for automatic eligibility to pay by instalments in the 'Problems paying what you owe' section has been updated.
-
Updated the email address to contact HMRC about contractor loan schemes from [email protected] to [email protected].
-
The contact email address for disguised remuneration scheme users (except contractor loans) to contact HMRC has been updated.
-
From 1 April 2022, you can no longer use GOV.UK Verify to access the online settlement form.
-
Section 'Providing HMRC with settlement information' has been updated with information for employers who want to settle their disguised remuneration scheme.
-
Added translation
-
Updated information about paying what you owe to HMRC and added new information about providing us with settlement information.
-
We have updated the guidance with information on what customers affected by the loan charge should do now the 30 September 2020 deadline has passed.
-
Added translation
-
We have updated the guidance and included information about the new August 2020 settlement terms.
-
The loan charge review section has been updated.
-
Welsh translation added.
-
This page has been updated to reflect the loan charge which is effective on 5 April 2019 and the settlement terms that change from that date.
-
This page has been updated to reflect the loan charge which is effective on 5 April 2019 and the settlement terms that change from that date.
-
Guidance has been updated about if you have problems paying what you owe.
-
Guidance has been updated about how to settle your tax affairs, information you must send to HMRC and if you have problems paying what you owe.
-
The disguised remuneration settlement terms in section 'If you have problems paying what you owe' have been updated.
-
Amendments made to the disguised remuneration settlement terms.
-
First published.