Canllawiau

System Prynu Dynamig Cronfa Gymorth Hyblyg DWP 2

Sut i gofrestru a gwneud cais am achrediad DWP ar System Prynu Dynamig 2 y Gronfa Gymorth Hyblyg (DPS FSF) ar gyfer darparu gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar waith.

Cofrestrwch ar DPS 2 y Gronfa Gymorth Hyblyg

I wneud cais am achrediad yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar System Prynu Dynamig 2 y Gronfa Gymorth Hyblyg (DPS 2 FSF) ar gyfer darparu gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar waith, yn gyntaf rhaid i chi gofrestru cyfrif ar wasanaeth e-Gaffael DWP.

Gellir gweld canllawiau ar sut i gofrestru ar wasanaeth e-Gaffael DWP yn y Canllaw cofrestru cyflenwyr).

Mae yna hefyd diwtorial fideo ar sut i gofrestru. Ar ôl cofrestru ar wasanaeth e-Gaffael DWP, yna bydd angen i chi:

  • mewngofnodi i Wasanaeth e-Gaffael yr Adran Gwaith a Phensiynau

  • cyrchu ‘PQQs (holiaduron cyn-gymhwyso) Yn agored i Bob Cyflenwr’

Y cyfeirnod y bydd ei angen arnoch i ddod o hyd i brosiect DPS Cronfa Gymorth Hyblyg DWP yw: prosiect_23908.

Y broses ymgeisio

I wneud cais am achrediad DWP ar DPS 2 y Gronfa Gymorth Hyblyg, mae yna 2 gam i’r broses ymgeisio. I gyflwyno’ch cais achredu DWP, mae angen i chi sicrhau eich bod yn cwblhau’r camau ymgeisio yn y drefn gywir. Mae’r 2 gam yn cynnwys:

Yn gyntaf mae’n rhaid bod cyflenwyr wedi derbyn cadarnhad eu bod wedi bod yn llwyddiannus yng Ngham 1 yr achrediad trwy lythyr dyfarnu cyn symud ymlaen i’r cam hwn.

Bydd angen i’r Cyflenwr fewngofnodi neu greu cyfrif Basware i gwblhau Cam 2, unwaith y bydd wedi mewngofnodi i Basware bydd angen i’r Cyflenwr chwilio am gyfle FSF DPS 2.

Unwaith y bydd Cyflenwr wedi lleoli’r DPS ar Basware bydd angen iddynt gwblhau 2 adran:

  1. Cwestiwn Y/N i gadarnhau ei fod wedi gwneud cais ac wedi’i achredu trwy Jaggaer a darparu eu cyfeirnod unigryw o’u llythyr dyfarnu achrediad. Bydd angen iddynt hefyd ddarparu crynodeb byr o’u sefydliad.

  2. Cwblhewch yr adran hidlwyr gan dicio pa rai o’r hidlwyr sy’n berthnasol gan y bydd hyn yn penderfynu pa gais am ddyfynbrisiau (RFQs) y maent yn eu derbyn. Mae’r hidlwyr yn cynnwys:

  • Categorïau Gwasanaeth (yn gysylltiedig â thaith cyflogadwyedd)

  • Dull Cyflenwi

  • Grŵp(iau) Cwsmeriaid

  • Ardal a Rhanbarth

Os na chwblheir yr hidlwyr hyn, ni allwch gael eich achredu’n llawn a derbyn cais am gyfleoedd dyfynbris (RFQ).

Unwaith y bydd y Cyflenwr wedi cwblhau’r adrannau ar Basware, bydd DWP yn adolygu ar Basware i gadarnhau bod y Cyflenwr wedi’i achredu (gan ddefnyddio’r rhif cyfeirio i groesgyfeirio) a chymeradwyo ar Basware. Yna bydd y Cyflenwr yn fyw ar Basware ac yn gymwys i dderbyn RFQs.

Mae mwy o wybodaeth am y manylion sy’n ofynnol yn eich cais, manyleb a chyfarwyddiadau FSF DPS 2 i ddarpar Gyflenwyr, ar gael yn yr atodiadau a gedwir ar system e-Gaffael Jaggaer.

Help a chefnogaeth gyda’ch cais

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio neu gyrchu gwasanaeth e-Gaffael DWP, gallwch gysylltu â desg gymorth e-Gaffael Jaggaer dros y ffôn:

Ffôn: 0800 069 8630
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am daliadau galwadau

Yn ystod ac ar ôl y broses achredu, gellir gofyn am gefnogaeth drwy’r adran ‘cysylltu â ni’ ar gwasanaeth e-Gaffael DWP.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r broses achredu ar agor ar sail rheolaidd a bydd angen i’r holl Gyflenwyr sydd â diddordeb wneud cais am achrediad. Sylwch na fydd Cyflenwyr a oedd ar DPS 1 o’r blaen yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i FSF DPS 2 gan fod hwn yn DPS ar wahân. Bydd yn rhaid i chi wneud cais i gael eich achredu ar FSF DPS 2, i wneud hynny dechreuwch gyda’r cais achredu Jaggaer.

Rhaid i Gyflenwr gael ei achredu’n llawn i’r DPS 2 Cronfa Gymorth Hyblyg er mwyn gallu derbyn ac ymateb i gyfleoedd Cais am Ddyfynbris (RFQ). Mae’r hidlwyr a ddewisir yng ngham 2 yr achrediad ar system Basware yn penderfynu pa gyfleoedd RFQ y bydd y Cyflenwr yn gymwys i’w derbyn.

Bydd hyd yr amser ymateb RFQ a ddyrennir i Gyflenwyr yn amrywio yn dibynnu ar gymhlethdodau’r RFQ unigol. Bydd gan gyflenwyr hyd at a than y dyddiad dod i ben a ddangosir ar y cyfle i olygu, diwygio a chyflwyno ymateb i RFQ. Bydd DWP yn ceisio prosesu pob cais achredu a RFQ mewn perthynas â’r DPS 2 Cronfa Gymorth Hyblyg cyn gynted ag y bydd adnoddau’n caniatáu.

Nid yw cael eich achredu ar DPS 2 Cronfa Gymorth Hyblyg y DWP yn gwarantu gwaith, ond mae’n golygu y byddwch yn gallu derbyn ac ymateb i gyfleoedd tendro.

Mwy o wybodaeth am gontract DWP FSF DPS 2.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Tachwedd 2021

Print this page