Cael cymeradwyaeth ar gyfer eich diheintydd gan Defra
Dysgwch am y broses a'r costau sy'n gysylltiedig â chael cymeradwyaeth ar gyfer diheintydd gan Defra.
Os bydd brigiad o achosion o glefyd anifeiliaid neu filheintiol hysbysadwy, dim ond diheintyddion wedi’u cymeradwyo gan Defra y gellir eu defnyddio i lanhau a diheintio arwynebau caled. Mae arwynebau caled yn cynnwys adeiladau, cyfarpar fferm, cratiau a cherbydau.
Byddwch yn torri’r gyfraith os byddwch yn marchnata ac yn gwerthu diheintydd fel un sydd wedi’i gymeradwyo gan Defra os nad yw wedi cael ei brofi a’i gynnwys ar y rhestr gymeradwy.
I gael cymeradwyaeth gan Defra ar gyfer eich cynnyrch, rhaid iddo:
- gydymffurfio â’r rheoliadau ar fioleiddiaid – darllenwch y canllawiau ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- pasio profion effeithlonrwydd mewn labordy a gymeradwywyd gan Defra
Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy’n cymeradwyo diheintyddion ar ran Defra.
Mae’r cynllun hwn yn disodli Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion Cymeradwy) (Lloegr) 2007.
Nodir y costau yn:
- Erthygl 2 ac Atodlen 1 o Orchymyn Iechyd Anifeiliaid (Diheintyddion Cymeradwy a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Lloegr) (Diwygio) 2024 Rhif 1140
- Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2024 Rhif 1109 (Cy.185)
Bydd angen i chi ddilyn proses wahanol i gael cymeradwyaeth i ddefnyddio eich diheintydd ar ffermydd pysgod.
Cyn i chi wneud cais am gymeradwyaeth
Bydd angen i chi benderfynu:
- o dan ba gategorïau rydych am wneud cais am gymeradwyaeth
- pa wanediad o’ch cynnyrch rydych am ei brofi
Ni all Defra nac APHA eich cynghori o ran pa fformiwleiddiad neu wanediad fydd yn pasio’r profion, nac o dan ba gategorïau y dylech wneud cais.
Edrychwch i weld beth sydd wedi’i gwmpasu o dan gymeradwyaeth ar gyfer:
- clwy’r traed a’r genau – Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Lloegr) 2006 (yn yr Alban ac yng Nghymru)
- clefydau dofednod, ffliw adar a ffliw sy’n deillio o adar mewn mamaliaid – Gorchymyn Clefydau Dofednod (Lloegr) 2003 (yn yr Alban ac yng Nghymru) a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (yn yr Alban ac yng Nghymru)
- twbercwlosis – Gorchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (yn yr Alban ac yng Nghymru)
Dim ond cymeradwyaeth ar gyfer diheintyddion i’w defnyddio gyda chlefyd pothellog y moch a gwmpesir gan gategori clefyd pothellog y moch. Mae clefydau eraill sydd wedi’u rhestru yn Rheoliadau Clefydau Moch 2014 wedi’u cwmpasu o dan y ‘gofynion ar gyfer clefydau hysbysadwy eraill’, y cyfeirir atynt fel ‘Gorchmynion Cyffredinol’.
Rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cynnyrch yn cyrraedd safonau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â’r canlynol:
- dosbarthu, labelu a phecynnu
- diogelwch y cynnyrch
- hysbysebu
- Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol Prydain Fawr (GB-BPR)
Mae’n rhaid i chi hefyd hysbysu’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau.
Gwneud cais am brawf effeithlonrwydd diheintydd
I wneud cais am brawf, cwblhewch ffurflen gais DDA1 ac anfonwch gopi wedi’i lofnodi drwy e-bost i Dîm Gweinyddol Cymeradwyo Diheintyddion Defra yn APHA: [email protected].
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen i chi anfon eich ffurflen drwy’r post, e-bostiwch [email protected].
Bydd APHA yn asesu eich cais ac yn penderfynu a ellir derbyn eich cynnyrch i’w brofi ar gyfer cymeradwyaeth gan Defra. Bydd yn ceisio ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Lawrlwythwch fanylion am fethodolegau effeithlonrwydd APHA (PDF, 189 KB, 7 tudalen).
Cyflwyno samplau er mwyn profi effeithlonrwydd
Os bydd APHA yn derbyn eich cynnyrch i’w brofi, bydd yn dweud wrthych ble i anfon eich samplau ac yn anfon anfoneb atoch am y profion rydych am iddynt gael eu cwblhau.
Peidiwch â chyflwyno sampl nes y bydd APHA yn gofyn i chi wneud hynny.
Gweler ffurflen gais DDA1 am gyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno samplau a labeli pecynnu.
Talu ffioedd profi effeithlonrwydd
Mae’n rhaid i chi dalu am brofion ymlaen llaw. Dylech aros nes bod APHA wedi asesu a derbyn eich cais ac wedi anfon anfoneb atoch.
Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu siec.
Mae’r holl ffioedd wedi’u heithrio rhag TAW.
Dylech gael y canlyniadau o fewn 12 wythnos i gyflwyno eich samplau. Gall hyn gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur, megis brigiad o achosion o glefyd.
Prawf effeithlonrwydd | Ffioedd |
---|---|
Clwy’r traed a’r genau | £4,705 |
Clefyd pothellog y moch | £4,705 |
Clefydau dofednod, ffliw adar a ffliw sy’n deillio o adar mewn mamaliaid: prawf gwanediad sengl | £4,630 |
Clefydau dofednod, ffliw adar a ffliw sy’n deillio o adar mewn mamaliaid: prawf gwanediad triphlyg | £5,002 |
Twbercwlosis: prawf gwanediad sengl | £2,478 |
Twbercwlosis: prawf gwanediad triphlyg | £2,656 |
Gorchmynion Cyffredinol (gofynion ar gyfer clefydau hysbysadwy eraill a phob achos arall lle mae defnyddio diheintydd cymeradwy yn ofyniad cyfreithiol): prawf gwanediad sengl | £1,605 |
Gorchmynion Cyffredinol (gofynion ar gyfer clefydau hysbysadwy eraill a phob achos arall lle mae defnyddio diheintydd cymeradwy yn ofyniad cyfreithiol): prawf gwanediad triphlyg | £1,711 |
Mae’r categori ‘Gorchmynion Cyffredinol’ yn gymwys os oes gofyniad cyfreithiol arnoch i ddefnyddio diheintydd cymeradwy ar gyfer clefyd hysbysadwy nad yw wedi’i gwmpasu gan y pedwar categori cymeradwyo ar gyfer clefydau penodol. Mae hefyd yn gymwys i bob achos arall lle ceir gofyniad cyfreithiol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy – er enghraifft, wrth ymgymryd â gwaith rheolaidd i lanhau a diheintio’r canlynol:
- cerbydau cludo da byw (cyfeiriwch at erthygl 2 o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid 2010)
- ardaloedd crynhoi anifeiliaid, megis marchnadoedd a ffeiriau (cyfeiriwch at atodlen 2 o Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Lloegr) (Rhif 3) 2003)
- cerbydau lladd-dai ac ardaloedd cadw anifeiliaid
Talu ffioedd gweinyddol
Mae’n rhaid i chi dalu ffioedd gweinyddol pan fyddwch yn gwneud y canlynol:
- gwneud cais newydd – mae ffi o £1399.00 ni waeth faint o gategorïau cymeradwyo rydych yn gwneud cais ar eu cyfer
- gwneud cais i werthu eich cynnyrch cymeradwy o dan enw masnachu ychwanegol (enw masnachu cymeradwy cefn wrth gefn) – mae ffi o £405.06
- gwneud cais am hyd at 10 tystysgrif masnachu yn enw eich diheintydd a gymeradwywyd gan Defra – mae ffi o £202.53
- gwneud cais am adroddiad prawf effeithlonrwydd diheintydd ôl-weithredol ar gyfer eich diheintydd a gymeradwywyd gan Defra – mae ffi o £303.79
Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu siec.
Mae’n rhaid i chi dalu ymlaen llaw. Dylech aros nes bod APHA yn anfon anfoneb atoch.
Er mwyn cynnal y gymeradwyaeth ar gyfer eich diheintydd ‘gwreiddiol’, mae’n rhaid i chi dalu ffi flynyddol o £677 am ddiheintyddion sydd eisoes yn bodoli ac wedi’u cofrestru i gwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Medi ac 31 Awst.
Diheintydd gwreiddiol yw’r cynnyrch a brofwyd ac a gymeradwywyd gan Defra. Nid oes angen i chi dalu ffi flynyddol am bob enw masnachu cymeradwy cefn wrth gefn.
Rhestru eich cynnyrch fel un cymeradwy
Bydd APHA yn anfon canlyniadau eich prawf effeithlonrwydd i’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei ddarparu wrth wneud cais. Os byddwch yn fodlon ar y canlyniadau ac yn dymuno cynnwys eich diheintydd ar y rhestr gymeradwy, ymatebwch i’r neges e-bost hon.
Yna bydd APHA yn anfon llythyr ‘amodau cymeradwyo’ atoch. Bydd y llythyr hwn yn cynnwys blwch testun gyda geiriad sy’n benodol i’ch diheintydd. Rhaid i chi ychwanegu hyn at eich label. E-bostiwch Dîm Gweinyddol Cymeradwyo Diheintyddion Defra yn APHA i gael rhagor o wybodaeth am y geiriad hwn: [email protected].
I gynnwys eich cynnyrch ar y rhestr gymeradwy, dylech lofnodi a dychwelyd y llythyr â chopi o’ch label wedi’i baratoi i [email protected].
Fel arfer bydd APHA yn rhestru eich cynnyrch o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn eich llythyr wedi’i lofnodi.
Dim ond pan fydd enw’r diheintydd a manylion y gymeradwyaeth yn ymddangos ar restr diheintyddion cymeradwy Defra y gallwch labelu, marchnata a gwerthu eich cynnyrch fel un a gymeradwywyd gan Defra.
Bydd y gymeradwyaeth yn para am ddwy flynedd.
Gallwch adnewyddu eich cymeradwyaeth. Bydd APHA yn ysgrifennu atoch cyn y bydd disgwyl i’ch cymeradwyaeth ddod i ben, gan eich gwahodd i adnewyddu. Nid oes ffi ac efallai na fydd angen i chi gyflwyno samplau, ond bydd APHA yn gofyn i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth.
Rhoi gwybod am newidiadau i’ch cynnyrch
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i APHA os ydych yn bwriadu newid:
- fformiwla eich diheintydd cymeradwy
- unrhyw fanylion y gwnaethoch eu darparu yn ystod y broses gwneud cais neu adnewyddu, megis safle gweithgynhyrchu’r diheintydd neu fanylion cyswllt y cwmni
Gall APHA a Defra benderfynu ailbrofi eich cynnyrch er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn effeithiol o hyd. Bydd yn rhaid i chi dalu am y profion hyn.
Os bydd eich cynnyrch yn methu hapwiriad
Mae APHA yn cynnal hapwiriadau ar ddiheintyddion cymeradwy.
Efallai y byddwch ond yn gwybod bod eich cynnyrch wedi cael ei ddewis ar gyfer hapwiriad os bydd yn methu’r profion hynny. Cewch wybod canlyniadau’r prawf cyn gynted â phosibl.
Gall eich cynnyrch gael ei dynnu oddi ar y rhestr. Er mwyn ailgymeradwyo eich diheintydd, gallwch ailgyflwyno’r cynnyrch i’w brofi. Bydd angen i chi dalu’r ffioedd profi llawn.
Gwneud cais am enw masnachu cymeradwy cefn wrth gefn
Os bydd eich diheintydd ‘gwreiddiol’ ar y rhestr o ddiheintyddion cymeradwy, gall cwmnïau eraill ei brynu gennych, ei ailenwi a’i ailwerthu gyda’r un gymeradwyaeth.
Er mwyn i gwmnïau eraill werthu eich cynnyrch wedi’i ailenwi â’r un gymeradwyaeth gan Defra yn gyfreithlon, rhaid i chi wneud cais i ychwanegu’r enw masnachu newydd at y rhestr gymeradwy. Enw masnachu cymeradwy ‘cefn wrth gefn’ yw hyn.
Mae’n rhaid i wneuthurwr y cynnyrch sydd eisoes wedi’i gymeradwyo gwblhau ffurflen gais DDA1.
Dylid anfon y ffurflen wedi’i chwblhau i Dîm Gweinyddol Cymeradwyo Diheintyddion Defra yn APHA: [email protected].
Ni fydd angen i chi ddarparu samplau o’r diheintydd fel arfer.
Codir ffi weinyddol i APHA brosesu’r cais a chynnwys enw’r cynnyrch ychwanegol ar restr gymeradwy Defra. Bydd APHA yn anfon anfoneb atoch drwy e-bost unwaith y bydd y ffurflen wedi cael ei hasesu ac y gellir derbyn yr enw masnachu cymeradwy cefn wrth gefn newydd.
Os bydd APHA yn gwrthod eich cais, ni chodir tâl arnoch. Er enghraifft, gall hyn ddigwydd os bydd diheintydd â’r un enw eisoes ar y rhestr.
Gwneud cais am dystysgrif masnachu ar gyfer eich diheintydd cymeradwy
Os byddwch yn allforio eich cynnyrch i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE, efallai y bydd angen i chi brofi bod eich diheintydd wedi cael ei gymeradwyo gan Defra.
Er mai’r rhestr o ddiheintyddion cymeradwy yw’r pwynt cyfeirio cyntaf, nid yw rhai gwledydd yn ei derbyn.
Os ydych yn wneuthurwr diheintydd a gymeradwywyd gan Defra, gallwch brynu tystysgrif masnachu gan APHA. Darperir y dystysgrif hon ar bapur â phennawd a bydd wedi’i llofnodi a’i dyddio er mwyn cadarnhau bod Defra wedi cymeradwyo’r diheintydd a enwir.
Codir ffi weinyddol am y gwasanaeth hwn.
I wneud cais am dystysgrif masnachu, llofnodwch y Cais am dystysgrif masnachu ar gyfer diheintydd cymeradwy (PDF, 139 KB, 2 dudalen) a’i anfon drwy e-bost at Dîm Gweinyddol Cymeradwyo Diheintyddion Defra yn APHA: [email protected].
Bydd APHA yn anfon anfoneb atoch drwy e-bost cyn cyhoeddi’r tystysgrifau.
Gwneud cais am adroddiad prawf effeithlonrwydd diheintydd ôl-weithredol ar gyfer eich diheintydd a gymeradwywyd gan Defra
Os ydych yn gwneud cais i awdurdodi eich diheintydd o dan y Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (BPR), bydd angen i chi brofi unrhyw honiadau rydych wedi’u gwneud o ran effeithlonrwydd. Gall yr honiadau hyn ymddangos ar eich label neu yng ngwybodaeth y cynnyrch.
Os caiff eich diheintydd ei restru fel un a gymeradwywyd gan Defra, gall APHA roi adroddiad i chi yn nodi pa mor effeithlon yr oedd yn ystod y broses gymeradwyo.
Codir ffi weinyddol am y gwasanaeth hwn.
I wneud cais am yr adroddiad hwn, e-bostiwch Dîm Gweinyddol Cymeradwyo Diheintyddion Defra yn APHA: [email protected]. Dim ond ceisiadau a wneir yn uniongyrchol gan wneuthurwr y diheintydd a gymeradwywyd gan Defra y gall APHA eu derbyn.
Bydd APHA yn anfon anfoneb atoch drwy e-bost pan fydd yn derbyn eich cais, cyn cyhoeddi eich adroddiad.
Cael cymorth
Os bydd angen help arnoch gyda’ch cais, e-bostiwch Dîm Gweinyddol Cymeradwyo Diheintyddion Defra yn APHA: [email protected].
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 3 Gorffennaf 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
Corrected a reference to the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (England) Order 2007.
-
Updated to reflect increases in fees from 1 December 2024 (efficacy testing fees and the fee to keep your ‘parent’ disinfectant approved). Clarified information about the 'General Orders' approval category.
-
The administrative fees have been updated.
-
Links added for Scottish and Welsh Orders for foot and mouth, diseases of poultry, avian influenza and influenza of avian origin in mammals and tuberculosis: Before you apply for approval section.
-
Efficacy testing and some administrative fees increased on 1 December 2022 and will increase again in December 2023. All fees are exempt from VAT. Reference to the General Industry Charge has also been removed. This no longer needs to be paid.
-
Application for approved disinfectant trade certificate has been updated to reflect change in fees.
-
Updated the administrative charges.
-
Page updated
-
AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).
-
First published.