Cael eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd
Pryd i gynnwys y rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2023 i 2024 os oes gennych elw trosiannol, a sut i wneud hynny.
Cyn mynd ati i gynnwys rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dylech wirio a yw Diwygio’r Cyfnod Sail (yn agor tudalen Saesneg) yn effeithio arnoch.
Gallwch ddefnyddio rhyddhad gorgyffwrdd ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024 os yw’r canlynol yn wir am ddyddiad diwedd eich cyfnod cyfrifyddu:
- nid yw’r dyddiad yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (mae cyfnodau cyfrifyddu rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth)
- mae’r dyddiad wedi newid er mwyn iddo gyd-fynd â’r flwyddyn dreth, ond ni wnaethech ddefnyddio unrhyw rhyddhad gorgyffwrdd dyledus
- gwnaeth y dyddiad newid yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024, ac mae’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth erbyn hyn
Os gwnaethoch roi’r gorau i fasnachu ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024, byddwch yn dal i allu cynnwys rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno.
Mae Adran 12 o Sut i gyfrifo’ch elw trethadwy (taflen gymorth HS222 ynghylch Hunanasesiad) (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio sut i gynnwys rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth.
Sut i gyfrifo’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd
Mae’n bosibl bod eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd eisoes wedi’i nodi fel elw gorgyffwrdd a gariwyd ymlaen ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad flaenorol os oedd yn cynnwys incwm masnachu ar y canlynol:
- y ffurflen Hunangyflogaeth (llawn) (SA103F)
- y ffurflen Partneriaeth (llawn) (SA104F)
- y ffurflen Partneriaeth (byr) (SA104S)
Gallwch hefyd gyfrifo’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd ar sail ffigurau elw hanesyddol yn eich Ffurflenni Treth cynharach.
Cael help i gyfrifo’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd.
Os na allwch gyfrifo’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd
Os nad ydych yn gwybod eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd, neu os na allwch ei gyfrifo, ac ni allwch ddod o hyd iddo ar eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad blaenorol, mae’n bosibl y bydd CThEF yn gallu eich helpu.
Gall y gwasanaeth hwn dim ond darparu ffigur rhyddhad gorgyffwrdd os yw’r wybodaeth hon eisoes wedi cael ei nodi ar Ffurflen Dreth flaenorol. Os nad yw’r wybodaeth hon wedi cael ei rhoi, mae’n bosibl y bydd y gwasanaeth yn gallu darparu ffigurau elw hanesyddol er mwyn eich galluogi chi i gyfrifo rhyddhad gorgyffwrdd.
Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni a chysylltu â chi cyn pen 3 wythnos. Gall hyn gymryd mwy o amser os yw’ch achos yn un cymhleth.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2023 i 2024 erbyn y dyddiad cau. Os nad ydych yn gwybod eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd, neu os ydych yn disgwyl i ni ddarparu gwybodaeth, dylech amcangyfrif y rhyddhad gorgyffwrdd a rhoi ffigurau dros dro ar eich Ffurflen Dreth. Newidiwch eich Ffurflen Dreth pan ydych yn gwybod y ffigurau cywir.
Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn gweithio fel ymddiriedolaeth, ystâd, neu gwmni dibreswyl sydd ag incwm masnachu. Yn yr achosion hyn, dylech gysylltu â CThEF i gael gwybod sut i gael eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd.
Cyn i chi ddechrau
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch — os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn am y tro cyntaf.
Fel asiant sy’n gweithredu ar ran cleient, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’r manylion rydych yn eu defnyddio wrth fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant neu’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein ar gyfer asiantau. Mae’n rhaid i chi lenwi cais ar wahân ar gyfer pob cleient.
Bydd angen i chi roi’r canlynol:
- eich enw
- enw’ch busnes neu ddisgrifiad ohono (neu’r ddau)
- cyfeiriad eich busnes
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- UTR y bartneriaeth, os ydych yn bartneriaeth
- y dyddiad neu flwyddyn dreth y gwnaethoch ddechrau eich busnes unig fasnachwr neu y gwnaethoch ymuno â phartneriaeth
- y cyfnod cyfrifyddu neu gyfnod sail diweddaraf a ddefnyddiwyd gan y busnes
- y flwyddyn, neu’r blynyddoedd, y newidiodd y cyfnod cyfrifyddu (os yw’n berthnasol)
Bydd gofyn i chi roi manylion cyswllt, a byddwch yn gallu dewis cael ymateb drwy e-bost neu drwy’r post — p’un bynnag dull sydd well gennych.
Ar ôl i chi wneud cais am eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd
Bydd CThEF yn anfon llythyr neu e-bost atoch i gadarnhau. Bydd yr ohebiaeth hon yn cynnwys cyfeirnod eich cyflwyniad. Dylech gadw hwn gan y bydd o gymorth pan fyddwch yn llenwi eich Ffurflen Dreth.
Os ydych wedi cael e-bost cadarnhau, bydd yr e-bost hwnnw yn cynnwys y manylion canlynol er mwyn i chi sicrhau ei fod wedi dod oddi wrth CThEF:
- eich UTR, wedi’i olygu i ddangos y 4 digid olaf yn unig
- llythyren gyntaf eich enw cyntaf
- eich enw olaf
Os ydych wedi gwneud cais i gael ffigur rhyddhad gorgyffwrdd ar gyfer eich cleient, bydd yr e-bost cadarnhau yn cynnwys manylion eich cleient.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 11 Medi 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
We have added a link to a tool to help you work out your overlap relief figure.
-
Information to retain your submission reference after you have requested your Overlap Relief figure has been added.
-
We've added information about when this service will not be able to provide an Overlap Relief figure.
-
Made it clearer how an agent can use this service on behalf of a client.
-
First published.