Helpu i wella GOV.UK – cofrestru i gymryd rhan mewn ymchwil
Cofrestrwch i gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella GOV.UK ac i sicrhau ei bod yn gweithio’n dda ar gyfer y bobl sydd ei hangen.
Cofrestrwch i gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella GOV.UK ac i sicrhau ei bod yn gweithio’n dda ar gyfer y bobl sydd ei hangen.
I gofrestru, mae’n rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn ac yn byw yn y DU neu’r UE.
Nid oes angen i chi fod yn fedrus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd.
Pan fyddwch yn cofrestru, cewch arolwg byr i lenwi a fydd yn gofyn amdanoch chi ac am y ffordd yr ydych yn defnyddio cyfrifiaduron. Bydd eich atebion hefyd yn ein helpu ni i sicrhau eich bod yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n berthnasol i chi.
Ni chaiff eich atebion eu rhannu gydag unrhyw un arall. Gallwch wrthod gwahoddiad a gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Pan fyddwch yn cofrestru, rydych yn cytuno y gellir cysylltu â chi ar gyfer cymryd rhan mewn ymchwil.
Byddwn yn anfon arolygon rheolaidd atoch i ddysgu mwy amdanoch ac am y ffordd yr ydych yn defnyddio GOV.UK. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil bellach.
Efallai y gofynnir i chi wneud y canlynol:
- rhoi cynnig ar wasanaeth ar-lein newydd
- ateb mwy o gwestiynau drwy e-bost
- siarad â’n hymchwilwyr am y ffordd rydych wedi rhyngweithio â’r llywodraeth yn y gorffennol
- ymweld ag adeilad y llywodraeth sy’n agos atoch chi
- cytuno i’n hymchwilwyr i gwrdd â chi yn eich cartref neu’ch man gwaith
Gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu cynnwys ym mhob gohebiaeth a anfonwn atoch.
Pan fyddwch yn cael gwahoddiad
Pan fyddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwil, byddwn yn egluro pwrpas yr ymchwil a beth ddylech ei wneud os ydych am gymryd rhan.
Efallai y byddwn yn cynnig cymhelliant, fel taleb, fel diolch am gymryd rhan yn yr ymchwil. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a fydd cymhelliant yn cael ei gynnig pan fyddwn yn anfon gwahoddiad atoch.
Os byddwch yn dewis cymryd rhan, byddwn bob amser yn cael cydsyniad ar sail gwybodaeth gennych cyn y byddwch yn gwneud hynny. Gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg heb roi rheswm.
Cysylltu â thîm ymchwil GOV.UK
Gallwch gysylltu â thîm ymchwil GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth neu i ddiweddaru eich manylion.
Government Digital Service
The White Chapel Building
10 Whitechapel High Street
London
E1 8QS