Canllawiau

Help ar-lein ar gyfer Hunanasesiad

Sut i gael help gyda Hunanasesiad gan CThEF drwy ddefnyddio ein cynorthwyydd digidol, fforymau cymunedol, fideos YouTube ac offerynnau ar-lein.

Fel arfer, mae’n gynt, yn haws ac yn rhatach i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF yn hytrach na chodi’r ffôn.

Os na allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, gallwch ddysgu sut i gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.

Gofyn am help ar-lein

Gallwch ddefnyddio cynorthwyydd digidol CThEF (sy’n wasanaeth Saesneg yn unig) os oes angen i chi ofyn rhagor o gwestiynau am Hunanasesiad, neu os oes gennych ymholiad penodol. Gallwch hefyd ofyn i gael siarad ag ymgynghorydd os oes un ar gael.

Gallwch hefyd ofyn cwestiynau drwy’r dulliau canlynol:

Defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol neu’ch cyfrif treth busnes i wirio’ch cofnodion ac i reoli’ch manylion.

Gwylio fideos a gweminarau a defnyddio pecynnau cymorth CThEF

Bwriwch olwg dros y diweddaraf yn ein diweddariadau drwy e-bost, ein fideos a’n gweminarau ar gyfer Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael gwybod sut i wneud y canlynol:

  • gwylio fideos Hunanasesiad CThEF ar YouTube
  • cofrestru ac ymuno â gweminarau byw, gofyn cwestiwn yn y sgwrs a chael ateb gan un o’n harbenigwyr
  • defnyddio ein pecynnau cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Defnyddio offerynnau ar-lein

Gallwch wneud y canlynol:

Gallwch hefyd ddefnyddio ein harweiniad ynghylch cael help â Hunanasesiad i ddysgu sut i wneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr
  • llenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • deall eich bil treth Hunanasesiad
  • talu’ch bil treth Hunanasesiad  
  • dod o hyd i’ch manylion mewngofnodi coll

Cael gafael ar ap CThEF

Gallwch lawrlwytho ap CThEF ar ddyfais symudol (er enghraifft, eich ffôn neu dabled) a’i ddefnyddio er mwyn:

  • gwirio faint o dreth Hunanasesiad sydd arnoch
  • gwneud taliad
  • gosod nodyn atgoffa i wneud taliad Hunanasesiad
  • dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
  • diweddaru’ch cyfeiriad post
  • dewis i CThEF gysylltu â chi yn electronig, yn hytrach na drwy lythyr
  • dilyn trywydd y ffurflenni a’r llythyrau rydych wedi’u hanfon atom
  • hawlio ad-daliadau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Medi 2023

Print this page