Safleoedd tomenni rwbel hanesyddol yng Nghymru
Mae'r Awdurdod Glo yn cynnal adolygiad brys o'r holl domenni rwbel yng Nghymru.
Mae tomenni rwbel, a elwir weithiau yn dipiau neu’n domenni glo, yn amrywio o ran oedran a maint, ac fel arfer maent yn cynnwys cerrig a deunyddiau eraill sydd wedi eu gadael yn dilyn gwaith cloddio hanesyddol.
Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o’r hen domenni rwbel ledled Prydain yn eiddo i awdurdodau lleol neu mewn dwylo preifat.
Mae gan yr Awdurdod Glo raglen reoli sy’n sicrhau bod ei domenni rwbel yn cael eu harchwilio o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Mae gan awdurdodau lleol raglenni archwilio a rheoli gwahanol ar gyfer y tomenni rwbel y maent yn berchen arnynt.
Mae archwilio a chynnal a chadw rheolaidd yn hollbwysig wrth reoli safleoedd tomenni rwbel hanesyddol.
Mae seilwaith draenio effeithiol hefyd yn hanfodol bwysig er mwyn symud dŵr o gyfeiriad y deunydd yn y domen, gan mai dŵr sy’n dod i mewn i’r domen yw’r perygl mwyaf i’w sefydlogrwydd.
Mae gan lawer o domenni sianeli draenio ffurfiol ac anffurfiol y mae angen clirio malurion a llystyfiant ohonynt er mwyn sicrhau bod y dŵr yn llifo’n effeithlon, yn enwedig yn ystod glaw trwm.
Mewn llawer o safleoedd tomenni rwbel ceir gorsaf dywydd a thyllau turio monitro ar y safle, ac mewn safleoedd risg uchel ceir synwyryddion symudiadau y gellir eu monitro o bell. Os byddant yn synhwyro symudiad digonol bydd system larwm o bell yn canu yn awtomatig.
Bydd yr adolygiad brys o ddiogelwch sy’n cael ei gynnal yn golygu y bydd un dull safonol yn cael ei sefydlu ar gyfer archwilio a chynnal a chadw yr holl domenni rwbel yng Nghymru yn y dyfodol.
Fel rhan o’r adolygiad hwn, bydd tomenni rwbel hanesyddol yn cael eu categoreiddio ar sail risg. Rhoddir pob safle mewn categori sydd â dwy ran iddo. Dynodir y risg cynhenid o A i D, a’r safleoedd categori C a D yw’r ‘safleoedd sydd â mwy o risgiau’.
Mae is-gategori sydd â’r rhifau 1 i 3, ar sail lleoliad y domen ac unrhyw risg i bobl, eiddo neu seilwaith hanfodol, hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd a ganlyn:
- yw risg i bobl neu seilwaith hanfodol
- yw risg o effaith ar yr amgylchedd, megis afonydd neu seilwaith arall
- yw bod y domen mewn ardal anghysbell
Byddwn yn defnyddio dronau, ynghyd â thechnoleg arall, i helpu i gynnal arolygon o rai o’r safleoedd mwyaf, ac er mwyn helpu i gynnal asesiad cyflym o’r strwythurau hyn er mwyn cadw pobl ac eiddo yn ddiogel.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os ydych am gael cyngor diogelwch ynghylch safleoedd tomenni glo hanesyddol yng Nghymru cysylltwch ag:
Y tîm diogelwch tomenni glo
Yr Awdurdod Glo
200 Lichfield Lane
Mansfield
Swydd Nottingham
NG18 4RG
E-bost [email protected]
Ffôn 0800 021 9230
Mae'r tîm yn dal gwybodaeth a gall gynnig cyngor ar ddiogelwch o ran safleoedd tomenni glo hanesyddol yng Nghymru.
Dydd Llun i ddydd Iau: 8:45am i 5pm
Dydd Gwener: 8:45am i 4:30pm
Gallwch ein ffonio ni 24/7 i adrodd ar berygl cloddio glo neu i gael cyngor ar ddiogelwch ar 0800 288 4242.