Gwasanaethau Gwybodaeth a Gwasanaethau Pridiannau Tir Cofrestrfa Tir EF
Gall cwsmeriaid e-wasanaethau busnes ddefnyddio'r porthol neu Business Gateway i gael gwybodaeth o'r Gofrestr Tir neu i wneud cais am chwiliadau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Gall cwsmeriaid busnes ddefnyddio gwasanaethau gwybodaeth Cofrestrfa Tir EF i gael gwybodaeth yn gyflymach ac yn rhatach na thrwy’r post.
Gwasanaethau Gwybodaeth
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth y gallwch eu cael yn cynnwys:
-
Gofyn am gopïau swyddogol
cyflwyno cais am gopïau swyddogol o gofrestri, cynlluniau teitl a dogfennau - Chwiliad swyddogol o’r cyfan â blaenoriaeth
- Chwiliad swyddogol o ran â blaenoriaeth
- Tynnu chwiliad swyddogol â blaenoriaeth yn ôl
- Chwiliad swyddogol o’r cyfan heb flaenoriaeth
- Chwiliad Pridiannau Tir Lleol
-
MapSearch (y porthol yn unig)
chwilio map ar-lein i weld a yw tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi ei gofrestru, cael rhifau teitl a chael gwybod a yw deiliadaeth yn rhydd-ddaliadol neu’n brydlesol - Ymholiad am Gais
- Chwilio’r map mynegai
- Chwilio hawliau cartref
- Chwiliad o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau
- Ymholiad yn ôl teitl disgrifiad eiddo
- Gweld cofrestr (gweld cofrestr teitl fel PDF neu HTML, argraffu a gweld y rhestr ddydd ar gyfer y teitl hwnnw)
- Gweld cynllun teitl
gweld cynllun teitl fel PDF a’i argraffu - Gweld dogfen
gweld dogfen fel PDF a’i hargraffu neu ei harbed - Gofyn am gopïau hanesyddol
Gwasanaethau Pridiannau Tir
Mae gwasanaethau Pridiannau Tir y gallwch eu cael yn cynnwys:
-
Chwiliadau Pridiannau Tir (methdaliad yn unig)
chwilio am wybodaeth methdaliad ar gyfer unigolion preifat, cwmnïau cyfyngedig a chyhoeddus, enwau cymhleth ac awdurdodau lleol -
Chwiliad Pridiannau Tir Llawn
chwilio’r mynegai Pridiannau Tir, gweld y canlyniadau fel PDFs a gofyn am gopïau swyddogol -
Copi swyddogol Pridiannau Tir
dal data copi swyddogol Pridiannau Tir
- Gweld Cofrestri Pridiannau Tir
gweld manylion cais a gyflwynwyd
Sut i gael yr uchod
Mae angen ichi gwblhau cais am e-wasanaethau busnes a chytuno i’r Amodau defnyddio.
Cewch ddefnyddio ein Gwasanaeth Cofrestru Dogfennau electronig (e-DRS) a’n Gwasanaeth Cofrestru Digidol hefyd.
Nid oes ffi i gofrestru ar gyfer e-wasanaethau busnes, ond rhaid bod gennych o leiaf un cyfrif Debyd Uniongyrchol amrywiol i dalu ffïoedd am y gwasanaethau byddwch yn eu defnyddio.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 16 Mehefin 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Tachwedd 2019 + show all updates
-
Updated the list of Information Services you can access.
-
First published.