Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol
Ffïoedd sy'n daladwy ar gyfer gwasanaethau pridiannau tir lleol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol
Mae’r wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn yn grynodeb o Reolau Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol (Lloegr) 2018 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffïoedd) (Cymru) 2021 (‘y Rheolau Ffïoedd’). Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn cyfeirio at Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 (‘y Rheolau’).
Gwasanaeth | Gwneud cais trwy ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF neu Business Gateway | Gwneud cais trwy ddefnyddio GOV.UK | Gwneud cais trwy’r post | Gwneud cais trwy ffurflen gysylltu* | Sut i dalu ffïoedd |
---|---|---|---|---|---|
Chwiliad swyddogol o’r gofrestr (gan gynnwys cyhoeddi tystysgrif swyddogol chwiliad) o dan adran 9(1) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 Nodyn: gweler Eithriad dim ffïoedd. |
£15 | £15 | Ddim ar gael | Ddim ar gael | Debyd uniongyrchol lle mae cytundeb yn ei le rhwng y ceisydd sy’n gofyn am y gwasanaeth a Chofrestrfa Tir EF. Cerdyn credyd neu ddebyd. |
Cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau | Ddim ar gael | Ddim ar gael | £18 | £18 | Cerdyn credyd neu ddebyd. Os yw’ch cais yn cael ei anfon trwy’r post: siec neu archeb bost wedi ei groesi ac yn daladwy i Gofrestrfa Tir EF. |
Amrywio cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(1) o’r Rheolau | Ddim ar gael | Ddim ar gael | £18 | £18 | Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau |
Dileu cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(1) o’r Rheolau | Ddim ar gael | Ddim ar gael | £18 | £18 | Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau |
Amrywio cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(6) o’r Rheolau (tystysgrif diffiniol wedi ei chyflwyno) | Ddim ar gael | Ddim ar gael | £18 | £18 | Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau |
*Ffurflen gysylltu ar gyfer Pridiannau Tir Lleol
Dim ffïoedd
Nid oes yn rhaid talu ffi ar gyfer:
- cais i chwilio yn y gofrestr (chwiliad personol)
- cais i gofrestru pridiant tir lleol (heblaw Hysbysiad Rhwystro Golau)
- cais i amrywio neu ddileu cofrestriad (heblaw cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau)
- cais am gopi o unrhyw ddogfen a restrir fel un a gedwir gan y cofrestrydd yn y manylion cofrestru ar gyfer Hysbysiad Rhwystro Golau, neu gais am gopi o unrhyw orchymyn llys neu eitem o ohebiaeth a gedwir gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chofrestriad, neu gais o dan Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 neu’r Rheolau
- chwiliad swyddogol os ydych wedi talu am chwiliad swyddogol am yr un eiddo o fewn y 6 mis diwethaf
Sut i dalu ffïoedd
Gallwch dalu am wasanaethau trwy:
- gerdyn credyd neu ddebyd
- debyd uniongyrchol newidiol, os oes cyfrif E-wasanaethau busnes gennych
- siec neu archeb bost, dim ond pan fydd post neu geisiadau wedi eu caniatáu (yn daladwy i ‘Gofrestrfa Tir EF’)
Rhagor o wybodaeth
Mae’r Rheolau Ffïoedd yn pennu’r ffïoedd sy’n daladwy i’r cofrestrydd am wasanaethau yn ymwneud â’r pridiannau tir lleol sy’n effeithio ar dir yng Nghymru a Lloegr, ac maent yn rhagnodi pryd y mae’r ffïoedd yn daladwy a sut y maent i’w talu.
Dim ond pan gaiff gwasanaeth pridiannau tir lleol ar gyfer ardal ei drosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF y daw’r Rheolau Ffïoedd i rym mewn ardal awdurdod lleol.
Am ragor o wybodaeth am y ffi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 18 Mehefin 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ebrill 2021 + show all updates
-
Update to the reasons where a fee is not payable. The fees also now apply to local authorities in Wales.
-
First published.