Cofrestrfa Tir EF: amseroedd prosesu
Gwybodaeth am ba mor gyflym byddwn yn prosesu eich cais.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Daw miloedd o geisiadau atom bob dydd ac rydym yn eu prosesu cyn gynted â phosibl.
Caiff hawliau perchnogaeth gyfreithiol ei sicrhau o’r eiliad y cawn y cais, nid ar yr adeg y caiff ei brosesu a’i gwblhau. Mae pob cais a gawn yn diogelu’r trafodiad mae’n ei gofrestru o’r diwrnod rydym yn ei gael. Felly, os nad oes unrhyw frys, arhoswch inni gysylltu â chi.
Os gallai oedi gyda’ch cais achosi problemau neu roi gwerthiant eiddo neu unrhyw fath o drafodion eiddo mewn perygl, gallwch ofyn inni gyflymu eich cais am ddim. Rydym wedi helpu dros 200,000 o geisyddion eleni, a chafodd y ceisiadau eu blaenoriaethu a’u prosesu’n gyflym trwy’r gwasanaeth cyflymu di-dâl hwn. Rydym yn prosesu’r mwyafrif helaeth o geisiadau sy’n cael eu cyflymu o fewn 10 niwrnod gwaith.
Mae’r holl linellau amser isod yn gywir yn Awst 2024. Mae’r llinellau amser yn adlewyrchu’r profiad cyfartalog yn seiliedig ar weithgarwch y mis blaenorol.
Ni allwn roi dyddiad penodol ar gyfer prosesu ceisiadau unigol. I gael gwybodaeth am ein hamcangyfrifon gorau o amseroedd prosesu yn y dyfodol, gweler y teclyn ein canllawiau ar y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig yn y porthol.
Rydym yn cydnabod nad ydym yn fodlon â rhai o’n hamseroedd prosesu, a gwella cyflymder ein gwasanaethau yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn parhau i wneud pob ymdrech i gyflawni hyn, gan gynnwys adeiladu ein capasiti trwy recriwtio, datblygu prosesau cais digidol i wneud cofrestru tir yn gyflymach ac yn haws, a gwneud camau breision i gynyddu ein cynhyrchiant sylfaenol. Am ragor o fanylion, darllenwch ein mesurau i gefnogi cwsmeriaid.
Ceisiadau gwasanaeth gwybodaeth
Mae Ein Gwasanaethau Gwybodaeth (a elwir weithiau yn ymholiadau cofrestr) yn cwmpasu:
- chwiliadau swyddogol o’r cyfan
- chwiliadau swyddogol o ran
- copïau swyddogol
- chwiliadau o’r map mynegai
Cyn y gallwch brynu neu werthu unrhyw eiddo, mae’n hollbwysig bod trawsgludwr yn chwilio’r Gofrestr Tir am yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â’r eiddo hwnnw. Mae’n hanfodol bod y chwiliadau hyn yn digwydd yn gyflym er mwyn osgoi oedi.
Mae’n cymryd 1 i 2 ddiwrnod os oes angen inni drin cais â llaw. Gall gymryd 2 i 3 diwrnod i chwilio’r map mynegai.
Newidiadau i deitlau cofrestredig sy’n bodoli
Mae newidiadau i deitlau sy’n bodoli (a elwir weithiau yn wasanaethau diweddaru cofrestr) yn cynnwys:
- cofrestru trosglwyddiadau eiddo
- diweddaru arwystlon (morgeisi) yn erbyn eiddo
- newid enwau ar eiddo
Mae hyn yn cwmpasu ystod o wasanaethau sydd fel arfer yn digwydd unwaith bydd eiddo wedi ei werthu, ar ôl i dreth tir toll stamp gael ei thalu a’r eiddo wedi cyfnewid dwylo. Dim ond wedyn caiff y gofrestr ei diweddaru â pherchnogion newydd gyda’u manylion morgais perthnasol a buddion eraill. Mae buddion cyfreithiol y ceisydd wedi eu diogelu o’r eiliad caiff Cofrestrfa Tir EF y cais, waeth faint o amser a gymerir wedyn i’w gwblhau.
Mae ychydig dros 30% o geisiadau i ddiweddaru’r gofrestr yn cael eu hawtomeiddio a’u cwblhau o fewn munudau. Mae’r rhain yn cynnwys ceisiadau i ddileu morgais neu gofrestru ffurf safonol o gyfyngiad.
Mae dros hanner y ceisiadau sydd ar ôl i ddiweddaru’r gofrestr, megis newid enw neu drosglwyddo teitl eiddo, yn cymryd 9 wythnos i’w cwblhau, gyda’r rhan fwyaf wedi eu cwblhau mewn tua 5 mis. Rydym yn gwybod bod y ceisiadau hyn yn cymryd tua 10 mis i’w cwblhau mewn rhai achosion.
Newidiadau mwy cymhleth a chofnodion newydd
Dyma ein mathau mwy cymhleth o geisiadau, gan gynnwys ceisiadau aml-deitl a gyflwynir gan ddatblygwyr, neu brosiectau seilwaith mawr. Maent hefyd yn cynnwys cofrestru eiddo am y tro cyntaf, rhannu teitlau sy’n bodoli neu gyflwyno prydles newydd.
Mae’r ceisiadau hyn yn cynnwys mwy o wallau a hepgoriadau, gydag eglurhad neu wybodaeth bellach yn ofynnol ar gyfer rhwng 55% a 65% o geisiadau, sy’n achosi oedi gyda’r cais.
Cofrestru tir neu eiddo am y tro cyntaf (a elwir weithiau yn gofrestriadau cyntaf)
Rydym yn cwblhau hanner yr holl geisiadau i gofrestru tir neu eiddo am y tro cyntaf mewn tua 16 mis. Rydym yn cwblhau bron y cyfan mewn tua 17 mis, ond gallai lleiafrif gymryd ychydig wythnosau’n hirach, yn dibynnu ar y cais.
Ceisiadau i rannu teitlau sy’n bodoli (trosglwyddiadau o ran) neu gofrestru prydles newydd (prydles waredol gyntaf)
Lle mae gwaith paratoi wedi ei wneud, rydym yn cwblhau hanner y ceisiadau i rannu teitlau sy’n bodoli neu gofrestru prydles newydd mewn tua 11 mis. Caiff bron pob un eu cwblhau mewn tua 18 mis.
Lle nad oes unrhyw waith paratoi wedi ei wneud, caiff hanner eu cwblhau mewn tua 14 mis a bron pob un mewn 17 mis.
Gall lleiafrif gymryd ychydig fisoedd yn hirach, yn dibynnu ar y cais.
Mae’r amseroedd prosesu yn amrywio, yn dibynnu a oes unrhyw waith paratoi wedi ei wneud gyda’r datblygwyr i symleiddio’r broses gofrestru cyn i drafodion ddigwydd.
Mesurau i gefnogi cwsmeriaid
Rydym wedi cynyddu nifer ein gweithwyr cais cyffredinol gan ryw 1,000 yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys dros 500 yn y 2 flynedd ddiwethaf yn unig i helpu i brosesu ceisiadau ychwanegol. Rydym o’r farn mai dim ond trwy gyfuniad o recriwtio a hyfforddiant yn ogystal ag awtomeiddio y gellir cyflawni gwelliannau. Ar hyn o bryd, mae 29% o’n ceisiadau i newid y gofrestr yn rhai awtomataidd.
Ceir rhagor o fanylion mewn dau flog ar ein recriwtio ac awtomeiddio a gyhoeddwyd ddiwedd 2022.
Rydym hefyd yn archwilio dulliau tymor byr. Un o’r rhain yw ein bod wedi creu dau dîm pwrpasol sy’n canolbwyntio ar yr achosion cymhleth hynaf gyda nod penodol i leihau’r amseroedd prosesu ar gyfer y ceisiadau hyn.
Rydym yn edrych ar ffyrdd o weithio gyda chwsmeriaid i leihau’r nifer o weithiau y byddwn yn mynd ar eu holau am eglurhad neu wybodaeth ychwanegol.
Cyflymu cais (llwybr carlam)
Gallwch ofyn i Gofrestrfa Tir EF brosesu eich cais ar frys. Mae’r broses o gyflymu ar gael ar gyfer ceisiadau lle byddai oedi yn achosi problemau sylweddol.
Cysylltu â Chofrestrfa Tir EF
Gallwch anfon neges neu gysylltu â ni dros y ffôn
Mae Ein canllawiau yn ateb llawer o’r cwestiynau mwyaf cyffredin.
Hysbysiadau ebost
Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr Landnet i gael ein diweddariadau diweddaraf.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 11 Ionawr 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have updated our processing times.
-
We have made our monthly update to the processing times for applications.
-
First published.