Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth

Rhagor o wybodaeth am y broses o ran gwiriadau cydymffurfio a’r help y gallwch chi neu’ch cleient (os ydych yn asiant treth) ei gael, yn ystod ac ar ôl y gwiriadau.

Gair am wiriadau cydymffurfio

Mae CThEF yn cynnal gwiriadau cydymffurfio er mwyn:

  • sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir

  • sicrhau eich bod yn cael y lwfansau a’r rhyddhad treth cywir

  • annog pobl i beidio ag osgoi treth

  • sicrhau bod y system dreth yn gweithredu’n deg

Gall rhywbeth sbarduno gwiriad. Fodd bynnag, mae gan CThEF yr hawl i wirio a yw unrhyw Ffurflen Dreth yn gywir ac yn gyflawn.

Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod gwiriad cydymffurfio

Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod gwiriad cydymffurfio.

Gwyliwch fideo ynghylch sut mae gwiriadau cydymffurfio’n gweithio

Gwyliwch ein fideo ynghylch sut mae gwiriadau cydymffurfio’n gweithio.

Cael awdurdodiad i’ch asiant treth ddelio â gwiriadau

Os oes gennych asiant neu ymgynghorydd treth a’ch bod am iddo ddelio â ni ar eich rhan, mae’n rhaid iddo fod ag awdurdodiad ffurfiol. Byddwn yn delio ag ef yn ystod y gwiriad, os oes ganddo awdurdodiad ffurfiol eisoes.

Os nad oes ganddo awdurdodiad ffurfiol, mae’n rhaid i chi wneud cais am awdurdodiad dros dro ar ei ran, er mwyn iddo allu delio â’ch gwiriadau cydymffurfio.

Os ydych yn asiant

Gwnewch gais am awdurdodiad ffurfiol neu awdurdodiad dros dro ar gyfer eich cleient.

Pam mae CThEF yn cynnal gwiriadau

Gall pethau penodol ein sbarduno i agor gwiriad cydymffurfio o’ch materion treth. Gall y rhain gynnwys:

  • nodi ffigurau ar Ffurflen Dreth sydd i’w gweld yn anghywir

  • gwneud hawliad mawr am ad-daliad TAW pan fo trosiant yn isel

  • datgan swm bach o dreth pan fo trosiant yn uchel

Byddwn yn eich ffonio neu’n ysgrifennu atoch chi, a’ch asiant treth os oes gennych un, er mwyn rhoi gwybod am yr hyn yr ydym am ei wirio a pham. Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad, dylech roi gwybod i ni pam.

Os ydym wedi dechrau gwiriad, dylech fynd yn eich blaen i gyflwyno’ch Ffurflenni Treth ac i dalu’ch trethi os ydynt yn ddyledus.

Efallai y byddwn yn agor gwiriad cydymffurfio o unrhyw hawliadau am gredydau treth er mwyn sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o arian.

Os ydych yn asiant treth, gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am wiriadau o gredydau treth yn llawlyfr CThEF.

Helpu ni gyda’r gwiriadau

Yn ystod y gwiriadau, efallai y byddwn yn gofyn i chi:

  • anfon unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y gallai fod eu hangen arnom

  • cwrdd â ni er mwyn trafod eich materion treth a’ch cofnodion, ond does dim rhaid i chi gwrdd â ni os nad ydych am wneud hynny

Os oes gennych safle busnes neu os ydych yn rhedeg eich busnes o’ch cartref, efallai y byddwn yn gofyn am gael ymweld â’ch busnes er mwyn archwilio’ch safle, eich asedion a’ch cofnodion. Os ydych o’r farn bod y cais yn afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad, rhowch wybod i’n swyddog a ofynnodd am yr wybodaeth.

Os na allwn gytuno â chi ynghylch anfon yr wybodaeth neu’r dogfennau atom, efallai y byddwn yn defnyddio pwerau cyfreithiol er mwyn eu cael. Byddwn yn gwneud hyn drwy anfon hysbysiad gwybodaeth atoch. Os cewch hysbysiad, bydd yn rhaid i chi roi i ni yr hyn yr ydym wedi gofyn amdano, neu efallai y byddwn yn codi cosbau arnoch.

Rydych yn gyfrifol am roi gwybodaeth gywir i ni ac, os oes gennych asiant treth sy’n delio â ni ar eich rhan, dylech sicrhau bod ganddo’r holl ffeithiau perthnasol.

Os byddwch yn ein helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio, gallwn:

  • ei gwblhau yn gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi

  • gostwng swm unrhyw gosb y gellid ei chodi arnoch, os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le

Os bydd angen help arnoch yn ystod y gwiriadau

Gallwn eich helpu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch wrth ddelio â gwiriad cydymffurfio.

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r gwiriad cydymffurfio, rhowch wybod i’n swyddog. Bydd yn gweithio gyda chi i drefnu unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen.

Os oes angen rhagor o amser arnoch, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn yn cytuno i ganiatáu amser ychwanegol os oes rheswm da, er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.

Os oes angen i rywun arall siarad â ni ar eich rhan

Gallwch ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ffrind, perthynas neu ymgynghorydd o sefydliad gwirfoddol. Bydd angen i chi ei benodi i siarad â ni ar eich rhan yn y lle cyntaf.

Cael help annibynnol gan sefydliadau eraill

Gallwch gael help gan elusennau a sefydliadau eraill os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall ynghylch y broses o ran gwiriadau cydymffurfio.

Os ydych yn cael anhawster gyda’ch iechyd meddwl oherwydd y gwiriadau, efallai y gallwch gael cymorth gan eich meddyg teulu, gan TaxAid, gan Mind neu gan y Samariaid.

Rhagor o wybodaeth am y mathau gwahanol o wiriadau a’r hyn sy’n digwydd yn ystod ac ar ôl y gwiriad.

Canlyniadau gwiriadau cydymffurfio

Os bydd y gwiriad yn dangos nad oes dim byd o’i le, byddwn yn dod â’r gwiriad i ben yn gyflym. Os bydd ein gwiriadau’n dangos eich bod wedi talu gormod o dreth, cewch eich ad-dalu gydag unrhyw log sy’n ddyledus wedi’i ychwanegu. Os nad ydych wedi talu digon o dreth, bydd angen i chi ad-dalu hon. Caiff llog ei godi arnoch ac efallai y byddwch yn cael cosb.

Efallai y byddwn yn anfon asesiad neu’n diwygio’ch Ffurflen Dreth er mwyn casglu unrhyw dreth sydd heb ei thalu.

Gallwch wneud cais am Ddull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) ar unrhyw adeg yn ystod y gwiriadau, os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad CThEF neu’r hyn yr ydym yn ei wirio.

Os byddwn yn penderfynu bod arnoch dreth i ni ar ôl i ni gyflawni’r gwiriadau, ac ni allwch fforddio ei thalu ar unwaith, gallwch siarad â ni ynghylch trefniadau talu y gallwch eu fforddio.

Gwyliwch fideo ynghylch help os na allwch dalu’ch bil treth

Gwyliwch fideo ynghylch help os na allwch dalu’ch bil treth.

Cosbau

Efallai y codir cosb arnoch os byddwn yn gweld bod rhywbeth o’i le yn ystod y gwiriad.

Wrth benderfynu a allwn ostwng y gosb, byddwn yn ystyried i ba raddau y gwnaethoch gydweithredu â ni. Yn gyffredinol, po fwyaf o help a rowch, isaf y bydd y gosb.

Dysgwch beth y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi.

Os ydych yn asiant, dysgwch ragor am gosbau.

Gwyliwch fideo ynghylch pam rydym yn codi cosbau a’r hyn y gallwch ei wneud amdanynt

Gwyliwch ein fideo ynghylch cosbau a’r hyn y gallwch ei wneud amdanynt.

Ymchwiliad troseddol

Polisi CThEF yw delio â thwyll drwy ddefnyddio gweithdrefnau ymchwiliad sifil pan fo’n briodol.

Rydym yn cadw ymchwiliad troseddol ar gyfer achosion pan fo angen i ni anfon neges gref i beidio â thwyllo, neu pan fo’r ymddygiad yn golygu mai dim ond sancsiwn troseddol sy’n briodol.

Dysgwch ragor am ein polisi ymchwiliadau troseddol.

Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad y gwiriad

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch am y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno.

Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried

  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn

  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEF

Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEF.

Cysylltu â CThEF

Os bydd angen i chi siarad â ni am eich gwiriadau cydymffurfio, cysylltwch â’r swyddog sy’n delio â’ch achos. Gallwch ddod o hyd i’w fanylion ar y llythyr a anfonom atoch ynghylch y gwiriadau.

Hefyd, gallwch gysylltu â ni i gael help gyda’ch trethi neu i wneud cwyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Hydref 2023 + show all updates
  1. The videos about what to expect during a compliance check, why we charge penalties and what you can do about them and what to do if you disagree with an HMRC decision have been updated.

  2. The guidance has been updated, as the COVID-19 helpline for businesses and the self-employed is now closed.

  3. The section 'Watch videos about resolving a dispute with HMRC' has been added.

  4. The video about help if you cannot pay your tax bill has been updated.

  5. YouTube videos about 'what to expect during a compliance check', 'how they work', 'penalties', 'if you disagree with an HMRC decision', and 'if you cannot pay your tax bill' have been added.

  6. Added translation

  7. First published.

Print this page