Gwneud cais gwrthrych am wybodaeth i CThEF
Sut i gael yr wybodaeth bersonol sydd gan CThEF amdanoch.
Mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch – gelwir hyn yn gais gwrthrych am wybodaeth (SAR).
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at ddiogelu data o ddifrif. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn unol â chyfraith diogelu data.
Os oes gennych gyfrif treth personol, efallai y byddwch yn dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn eich cyfrif.
Gallwch ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am wybodaeth bersonol sydd ganddi amdanoch.
Mae ffordd wahanol o wneud cais am wybodaeth am rywun sydd wedi marw. Dysgwch beth i’w wneud os bydd rhywun yn marw ac a oes angen i chi wneud cais am brofiant er mwyn delio â’i ystâd.
Dod o hyd i wybodaeth yn eich cyfrif treth personol
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol i wirio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf heb wneud SAR.
Gwybodaeth ar gyfer y flwyddyn bresennol
Gallwch wirio eich:
-
hanes cyflogaeth gan gynnwys gwybodaeth am enillion — gan gynnwys yr amser rydych wedi’i dreulio mewn cyflogaeth, eich cyfeirnod TWE, a’r manylion cyflog a threth ar gyfer pob un o’ch cyflogaethau
-
cod treth a’r swm o dreth a dalwyd — bydd y cod treth yn cynnwys rhestr o unrhyw lwfansau, treuliau cyflogaeth megis lwfans milltiroedd, a buddiannau cwmni megis car cwmni
- cyflog amcangyfrifedig
- lwfansau incwm a didyniadau budd-daliadau, er enghraifft Lwfans Priodasol ac incwm o gynilion
- ffynonellau incwm presennol, ac ychwanegu incwm newydd, er enghraifft difidendau, cildyrnau, incwm o fuddsoddiadau
- rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth hyd at 4 mis 8 diwrnod cyn eich ymddeoliad i roi gwybod i chi faint y byddwch yn ei gael
- pensiwn preifat — gan gynnwys y dyddiad pan ddechreuoch gael eich pensiwn, eich cyfeirnod TWE, a’r manylion cyflog a threth ar gyfer pob un o’ch pensiynau
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol — eich didyniadau hyd at ddechrau’r flwyddyn dreth bresennol ac unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’u cael
- credydau treth, er mwyn gweld manylion eich hawliad, pryd y bydd eich 8 taliad nesaf yn ddyledus a’r symiau, manylion cyflogaeth, manylion unrhyw blant a darparwyr gofal plant (os oes gennych rai)
- Budd-dal Plant — gwybodaeth am eich hawliad gan gynnwys y dyddiad dechrau a’r dyddiad dod i ben, manylion y plentyn a’r dyddiad a’r symiau a gawsoch gan CThEF am y 5 taliad diwethaf a’r taliad nesaf sy’n ddyledus
- Hunanasesiad — y dyddiad y gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth a gwneud taliad
Gwybodaeth o’r 5 mlynedd flaenorol
Gallwch wirio eich:
- hanes cyflogaeth flaenorol gan gynnwys gwybodaeth am enillion — gan gynnwys yr amser rydych wedi’i dreulio mewn cyflogaeth, eich cyfeirnod TWE, a’r manylion cyflog a threth ar gyfer pob un o’ch cyflogaethau
- Hunanasesiad — y dyddiad y gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth a gwneud taliad. Hefyd gallwch argraffu copi o’r Ffurflen Dreth a gyflwynoch ar gyfer pob blwyddyn
Gwybodaeth arall
Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y canlynol:
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ar gyfer pob blwyddyn yr ydych wedi’u talu, gan gynnwys yr hyn rydych wedi’i dalu ac unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol rydych wedi’u cael
- Asesiad Syml — y dyddiad y gwnaethoch daliad i ni yn ystod y flwyddyn bresennol a’r flwyddyn flaenorol
Mewngofnodwch i’ch Cyfrif Treth Personol, neu sefydlwch gyfrif i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol.
Cael mynediad at yr wybodaeth fel asiant neu gyfreithiwr
Gall asiantau a chyfreithwyr gael mynediad at wybodaeth bersonol eu cleient o’r 5 mlynedd diwethaf gan ddefnyddio’r Dangosydd Cofnodion Incwm os yw’r cleient wedi rhoi awdurdodiad iddynt.
Dysgwch sut i wneud y canlynol:
- cael eich awdurdodi i weithredu fel asiant treth ar ran eich cleientiaid (yn agor tudalen Saesneg)
- cael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm
- mewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant
Gofyn i rywun arall helpu
Gallwch roi gwybod i ni eich bod yn rhoi caniatâd i rywun (er enghraifft cyfreithiwr, asiant treth neu berson y gellir ymddiried ynddo) gael yr wybodaeth bersonol yr ydych yn gofyn amdani.
Bydd angen i chi roi awdurdodiad i ni drwy wneud y canlynol:
- cwblhau ac argraffu’r ffurflen gydsynio CThEF (yn agor tudalen Saesneg)
- ysgrifennu llythyr, gan roi gwybod i ni pa wybodaeth y gallwn ei hanfon at y person dan sylw
I gael rhagor o fanylion am beth i’w gynnwys yn eich llythyr, darllenwch yr adran ‘Yr hyn y bydd ei angen arnoch i wneud cais’.
Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen gydsynio CThEF wedi’i chwblhau ynghyd â’ch llythyr at:
SARS/DPU
HM Revenue and Customs
National Insurance Contributions Office
BX9 1AN
Gwneud SAR i CThEF
Dylech ond gofyn am SAR ar gyfer gwybodaeth nad yw wedi’i chynnwys yn y cyfrif treth personol na’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
Nid oes unrhyw ffi i’w thalu er mwyn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, mae gennym hawl gyfreithiol i godi ffi resymol arnoch os yw’ch cais am fynediad yn ddi-sail neu’n ormodol. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwn wrthod eich cais.
Gallwch ddarllen rhagor ynghylch pryd y gellid ystyried eich cais yn ddi-sail ac yn ormodol ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth — pryd y gallwn wrthod cais (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch i wneud cais
Bydd angen i chi roi cymaint o fanylion ag y gallwch ynglŷn â’r canlynol:
- yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- ar gyfer pa flynyddoedd y mae angen yr wybodaeth arnoch
- y rheswm dros y cais
Bydd angen i chi brofi pwy ydych hefyd. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni beth yw eich:
- enw llawn
- rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad geni
- cyfeiriadau presennol a blaenorol ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cynnwys y canlynol:
- llofnod gwreiddiol ar eich llythyr ysgrifenedig atom
- e-lofnod wrth gwblhau’r ffurflen gydsynio CThEF ar-lein
Dysgwch ragor am beth i’w gynnwys yn eich cais gwrthrych am wybodaeth drwy wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sut i wneud cais
Gwneud cais ar-lein
Gallwch lenwi a chyflwyno eich ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth, gan yr Uned Diogelu Data (yn agor tudalen Saesneg) ar-lein, neu gallwch ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i:
SARS/DPU
HM Revenue and Customs
National Insurance Contributions Office
BX9 1AN
Gwneud cais drwy’r post
Gallwch anfon llythyr atom i ofyn am wybodaeth nad oeddech yn gallu dod o hyd iddi yn y cyfrif treth personol na’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
I gael rhagor o fanylion am beth i’w gynnwys yn eich llythyr darllenwch yr adran ‘Yr hyn y bydd ei angen arnoch i wneud cais’.
Anfonwch eich llythyr i:
SARS/DPU
HM Revenue and Customs
National Insurance Contributions Office
BX9 1AN
Gwneud cais dros y ffôn neu drwy sgwrs dros y we
Gallwch gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwneud SAR.
Ar ôl i chi wneud cais
Anelwn at ymateb cyn pen mis ar ôl i’ch cais ddod i law. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn cymryd 3 mis i ateb os yw’r canlynol yn wir:
- rydym wedi cael sawl cais gan yr un person
- mae’r cais yn gymhleth
Byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi y byddwn yn cymryd mwy o amser i ateb.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 14 Ionawr 2016Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Hydref 2024 + show all updates
-
New sections, ‘Ask someone else to help’, ‘what you'll need to apply’ and ‘find information in your personal tax account’ have been added.
-
Overview and Make a SAR to HMRC sections have been updated.
-
Information about where to send a SAR for Income Tax has been updated.
-
The 'Make a SAR to HMRC' apply online section has been updated.
-
Information about your rights to request personal information, any fees you may have to pay, and how long this may take has been added to the guidance.
-
Address to send Subject Access Requests has been updated.
-
Information about making a subject access request for tax credits, Income Tax, Child Benefit, VAT, customs and other records has been added.
-
The address to send the subject access request has been updated.
-
First published.