Sut y caiff ad-daliadau eu dyrannu i’ch balans
Pan fyddwch yn gwneud ad-daliadau’n uniongyrchol i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, gallwch ddewissut mae’r arian yn cael ei ddyrannu i’ch balans.
Gallwch ddewis sut y caiff ad-daliadau eu dyrannu
Gallwch wneud ad-daliad i:
- gyfanswm balans cyffredinol eich benthyciadau
- fath penodol o gynllun
- Fenthyciadau Ffïoedd Dysgu neu Fenthyciadau Cynhaliaeth a gymerwyd yn ystod blwyddyn academaidd benodol
- grant neu fenthyciad a ordalwyd
- unrhyw ôl-ddyledion
Os oes yn rhaid i chi ad-dalu grant neu fenthyciad a ordalwyd, neu os oes gennych ôl-ddyledion mewn perthynas â’ch cyfrif, dylech siarad â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gyntaf.
Sut y dyrennir ad-daliadau os na fyddwch yn dewis elfen benodol
Dyrennir ad-daliadau yn y drefn ganlynol.
-
Os ydych dramor ac os oes gennych ôl-ddyledion mewn perthynas â’ch benthyciad
Bydd unrhyw ad-daliadau yn ad-dalu’r ôl-ddyledion yn gyntaf. Os oes gennych ôl-ddyledion mewn perthynas â mwy nag un balans benthyciad, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.
-
Os ydych dramor ac os ydych wedi bod yn gwneud ad-daliadau a drefnwyd
Os oes gennych fwy nag un balans benthyciad, bydd eich ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.
-
Os ydych wedi gorffen eich astudiaethau ac os gordalwyd benthyciad neu grant i chi
Byddwch yn ad-dalu’r benthyciad neu’r grant a ordalwyd yn gyntaf. Os oes gennych fwy nag un benthyciad neu grant a ordalwyd, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.
-
Os ydych yn dal i astudio ac os gordalwyd benthyciad neu grant i chi
Byddwch yn ad-dalu’r benthyciad neu’r grant a ordalwyd yn gyntaf. Os oes gennych fwy nag un benthyciad neu grant a ordalwyd, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.
-
Benthyciadau y mae angen eu had-dalu
Bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.
-
Benthyciadau nad oes angen eu had-dalu eto
Os ydych yn dal i astudio neu os nad oes angen i chi wneud ad-daliadau eto, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.
-
Benthyciadau neu grantiau sydd mewn credyd
Os byddwch wedi ad-dalu benthyciad neu grant yn llawn a’ch bod yn gwneud ad-daliadau pellach, bydd y rhain yn cael eu credydu i’r balans dan sylw nes y byddwch yn gofyn am ad-daliad.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 13 Awst 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Awst 2020 + show all updates
-
Removed 3 options in 'You can make repayment to...' list as not accurate.
-
Added translation