Data pecynwaith: beth i'w gasglu ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr
Canllaw ar gasglu data ynghylch eich pecynwaith. Canllaw yw hwn i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig y mae cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith yn effeithio arnynt.
Os yw’r EPR dros becynwaith yn effeithio ar eich sefydliad chi, bydd angen ichi roi gwybod am eich data pecynwaith.
Darganfyddwch a oes angen ichi roi gwybod am ddata pecynwaith.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Pryd i gasglu a rhoi gwybod am eich data ar gyfer 2023
Os ydych wedi cofnodi’r holl ddata gofynnol o 1 Ionawr 2023 ymlaen, dylech roi gwybod am y data hwn.
Os nad yw’r holl ddata gofynnol wedi’i gofnodi gennych o 1 Ionawr ymlaen, rhaid ichi rhoi gwybod am eich holl ddata o 1 Mawrth 2023 ymlaen. Os byddwch yn rhoi gwybod am ddata sy’n cwmpasu cyfnod sy’n dechrau o 1 Mawrth, caiff hwn ei ddefnyddio i gyfrifo gwerth blwyddyn lawn o ddata.
Dylai sefydliadau mawr yng Nghymru gydymffurfio â’r amserlen hon os oes ganddyn nhw’r data gofynnol. Os nad oes ganddyn nhw’r data gofynnol, dylen nhw ddechrau casglu data o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym yng Nghymru yng nghanol 2023, a’i gyflwyno rhwng 1 Ionawr 2024 ac 1 Ebrill 2024.
Dylai sefydliadau bach yng Nghymru gydymffurfio â’r amserlen hon os oes ganddyn nhw’r data gofynnol. Os nad oes ganddyn nhw’r data gofynnol, dylen nhw ddechrau casglu data o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym yng Nghymru o ganol 2023, a’i gyflwyno rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.
Pa ddata sydd angen ichi ei gasglu
Rhaid ichi gasglu data am y pecynwaith rydych chi wedi’i gyflenwi drwy farchnad y Deyrnas Unedig neu wedi’i fewnforio i’r Deyrnas Unedig.
Rhaid i’r data rydych chi’n ei gasglu gynnwys y categorïau canlynol:
- y gweithgaredd pecynnu - dyma sut y gwnaethoch gyflenwi’r pecyn
- y math o becynwaith - er enghraifft, os yw’r pecynwaith yn becynwaith cartref neu beidio
- dosbarth y pecynwaith - p’un a yw’r pecynwaith yn sylfaenol, yn eilaidd, yn ddeunydd cludo neu’n drydyddol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith
Gall fod angen hefyd ichi gasglu data cenedl. Dyma wybodaeth am ba wlad yn y Deyrnas Unedig y mae’r pecynwaith yn cael ei gyflenwi ynddi a pha wlad yn y Deyrnas Unedig y mae’n cael ei waredu ynddi.
Rhoi gwybod am eich data
Mae angen i sefydliadau mawr roi gwybod am ddata bob chwe mis. Mae sefydliadau bach yn adrodd data unwaith y flwyddyn.
Darganfyddwch a ydych chi’n sefydliad bach neu fawr, a beth mae hyn yn ei olygu.
Rhaid ichi roi gwybod am eich data drwy gyflwyno ffeil gan ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Rhoi gwybod am ddata pecynwaith’.
Dysgwch sut i greu eich data EPR dros becynwaith.
Data gweithgareddau pecynnu
Mae angen ichi ddweud wrthon ni beth oedd eich rôl pan wnaethoch chi gyflenwi’r pecynwaith yn y Deyrnas Unedig. Rydych chi’n gwneud hyn trwy ddadansoddi’ch data i mewn i’r gwahanol weithgareddau pecynnu, sef:
- wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi
- wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- wedi’i fewnforio
- wedi’i gyflenwi fel pecynwaith gwag
- wedi ei logi neu wedi ei roi ar fenthyg
- wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni
Os ydych yn cyflenwi nwyddau wedi’u pecynnu i farchnad y Deyrnas Unedig, gall fod angen ichi roi gwybod am ‘ddata cenedl’. Gallwch ddarganfod mwy am hyn yn yr adran ‘Gwiriwch a oes angen ichi roi gwybod am ddata cenedl’.
Pecynwaith ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi’
Mae hyn yn cynnwys unrhyw nwyddau wedi’u pecynnu a ddarparwyd gennych o dan eich brand eich hun. Mae brand yn cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol:
- enw
- nod masnach
- unrhyw farc nodedig
Mae hyn yn gymwys i bob pecynwaith sy’n cynnwys nwyddau, lle mae un neu fwy o’r darnau o becynwaith yn arddangos eich brand.
Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n cyflenwi pryd parod y tu mewn i hambwrdd plastig heb ei frandio gyda ffilm, gyda llawes gardfwrdd wedi’i brandio. Os felly, dylid cynnwys yr hambwrdd plastig a’r ffilm fel rhan o’r data rydych chi’n rhoi gwybod amdano yn y categori ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi’.
Mae pecynwaith sylfaenol, eilaidd, pecynwaith cludo a phecynwiath trydyddol i gyd yn gallu cael eu dosbarthu fel pecynwaith ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi’.
Os ydych chi’n talu sefydliad arall i gyflawni rhan o’r gadwyn gyflenwi ar eich rhan, dylech roi gwybod am unrhyw becynwaith sy’n cael ei gyflenwi o dan eich brand eich hun. Mae hyn yn wir hyd yn oed os gwnaethoch dalu neu drwyddedu sefydliad arall:
- i gynhyrchu nwyddau rydych chi wedi mynd ymlaen i’w cyflenwi o dan eich enw brand chi
- i bacio nwyddau rydych chi wedi mynd ymlaen i’w cyflenwi o dan eich enw brand chi
- i gyflenwi’ch nwyddau wedi’u brandio chi i farchnad y Deyrnas Unedig
- i fewnforio’ch nwyddau wedi’u brandio i chi
Ar gyfer pecynwaith ac arno fwy nag un brand
Weithiau mae pecynwaith o amgylch uned werthu yn dangos mwy nag un brand. Os yw hyn yn wir, y sefydliad sy’n gorfod casglu’r data yw perchennog y brand sy’n cyflenwi’r pecynwaith.
Os oes uned werthu yn cynnwys eitemau sydd wedi’u pecynnu â brand sefydliad arall, dylech gasglu data ar gyfer y pecynwaith rydych chi wedi’i ychwanegu at yr eitem sydd â’ch brand chi arno, ac unrhyw becynwaith arall heb ei frandio yn unig.
Er enghraifft, os ydych chi’n cyflenwi hamperi bwyd, dim ond data ar gyfer yr hamper a’r pecynwaith arall rydych chi’n ei ychwanegu (fel gwellt, tagiau, rhubanau neu fwâu) y mae angen ichi ei gasglu. Does dim angen ichi gasglu data am unrhyw eitemau sydd wedi’u cynnwys yn yr hamper (fel gwin, bisgedi neu gacennau) os ydynt yn dangos brand sefydliad arall.
Pecynwaith ‘wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio’
Os ydych chi’n gosod nwyddau mewn pecynwaith, a bod y pecynwaith hwnnw heb ei frandio pan gaiff ei gyflenwi, dylech roi gwybod amdano yn y categori hwn. Gallai hyn fod ar gyfer nwyddau rydych chi wedi’u pacio ar gyfer eich sefydliad eich hun neu ar gyfer sefydliad arall.
Pecynwaith ‘wedi’i fewnforio’
Mae hyn yn cynnwys rhai mathau o becynwaith o amgylch nwyddau rydych chi wedi’u mewnforio ac wedi mynd ymlaen i’w cyflenwi neu eu gwaredu yn y Deyrnas Unedig. Os ydych yn mewnforio nwyddau i’r Deyrnas Unedig, y pecynwaith y mae’n rhaid ichi roi gwybod amdano yw:
- pecynwaith eilaidd a thrydyddol nad yw’n dod o dan y gweithgaredd pecynnu ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi’
- unrhyw becynwaith sydd heb ei frandio pan gaiff ei gyflenwi
- unrhyw becynwaith rydych chi’n ei werthu i sefydliad nad yw’n cael ei ystyried yn sefydliad mawr o dan yr EPR dros becynwaith
- unrhyw becynwaith rydych chi’n ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig a’i waredu heb ei werthu neu ei allforio
Fyddwch chi ddim yn gyfrifol am becynwaith o amgylch nwyddau wedi’u llenwi rydych chi wedi’u mewnforio os yw’r rheiny:
- wedi’u brandio, a’ch bod chi wedi’u mewnforio ar ran perchennog brand sydd wedi’i sefydlu yn y Deyrnas Unedig
- heb eu brandio, a’ch bod chi’n mynd ymlaen i’w cyflenwi i sefydliad mawr sy’n gosod ei frand ef arnynt cyn eu cyflenwi ymlaen
Gweler yr adran ‘Data’r dosbarth pecynwaith’ ar y tudalen hwn i gael rhagor o wybodaeth am becynwaith sylfaenol, eilaidd, trydyddol a phecynwaith cludo.
Pecynwaith ‘wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni’
O dan yr EPR dros becynwaith, rydych chi’n cael eich ystyried yn berchennog marchnad ar-lein os ydych chi’n gweithredu gwefan neu ap sy’n caniatáu i fusnesau y tu allan i’r Deyrnas Unedig werthu eu nwyddau i mewn i’r Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n berchen ar farchnad ar-lein, dylech roi gwybod am unrhyw becynwaith wedi’i lenwi neu heb ei lenwi a gyflenwir gan fusnesau y tu allan i’r Deyrnas Unedig drwy’r farchnad yn y categori hwn. Dim ond pecynwaith sy’n cael ei gyflenwi yn y Deyrnas Unedig y dylech roi gwybod amdano.
Rhaid ichi anfon disgrifiad hefyd o’r fethodoleg rydych wedi’i defnyddio i gasglu’ch data at y rheoleiddiwr amgylcheddol perthnasol cyn cyflwyno’ch set gyntaf o ddata. Byddwn yn rhoi gwybod mwy ichi am y broses hon yn fuan.
Os yw’ch sefydliad yn berchen ar wefan sy’n cyflenwi nwyddau oddi wrth sefydliadau yn y Deyrnas Unedig yn unig, nid yw hyn yn cael ei ystyried yn farchnad ar-lein.
Pecynwaith ‘wedi’i logi neu wedi’i roi ar fenthyg’
Os ydych chi’n llogi neu’n rhoi benthyg pecynwaith ailddefnyddiadwy, dylech roi gwybod am y pecynwaith hwnnw yn y categori hwn. Dim ond y tro cyntaf y bydd angen ichi roi gwybod am y pecynwaith hwn.
Pecynwaith ‘wedi’i gyflenwi fel pecynwaith gwag’
Mae hyn yn cynnwys pecynwaith gwag rydych chi wedi’i weithgynhyrchu neu wedi’i fewnforio ac yna wedi’i gyflenwi i sefydliad nad yw’n cael ei ystyried yn sefydliad mawr.
Os ydych chi’n gwneud neu’n mewnforio pecynwaith gwag a’i werthu i sefydliad mawr, does dim angen ichi roi gwybod am y pecynwaith hwnnw o dan yr EPR dros becynwaith, ond mae angen ichi gadw cofnod ohono.
Data am y math o becynwaith
Mae angen ichi ddweud wrthon ni pa fath o becynwaith rydych chi’n ei gyflenwi.
Bydd angen i sefydliadau mawr roi gwybod a yw’r pecynwaith:
- yn becynwaith cartref
- yn becynwaith nad yw’n becynwaith cartref
- yn dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus
- yn gynhwysydd diodydd
- yn ailddefnyddiadwy
- yn mynd yn wastraff hunan-reoledig
Mae angen i sefydliadau bach roi gwybod am y canlynol:
- cyfanswm pwysau eu pecynwaith, ac eithrio cynwysyddion diodydd
- cynwysyddion diodydd
Os ydych chi’n sefydliad bach, does dim angen ichi ddadansoddi’ch data yn fathau eraill o becynwaith.
Pecynwaith cartref a phecynwaith nad yw’n becynwaith cartref
Rhaid ichi gyflwyno pwysau pecynwaith sy’n:
- pecynwaith cartref
- pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref
Beth sy’n cael ei ystyried yn becynwaith cartref?
Dylech ddosbarthu’r pecynwaith canlynol fel pecynwaith cartref:
- pecynwaith sylfaenol
- pecynwaith cludo
Os ydych chi’n cyflenwi pecynwaith sylfaenol neu becynwaith cludo i fusnes sy’n ei gyflenwi ymlaen i fusnes arall neu ddefnyddiwr terfynol, gydag unrhyw becynwaith wedi’i gynnwys, dylid rhoi gwybod am bob pecynwaith fel pecynwaith cartref. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cyflenwi pecynwaith i fusnes trwy drydydd parti fel dosbarthwr neu gyfanwerthwr.
Os oes gennych dystiolaeth glir bod rhywfaint o’ch pecynwaith sylfaenol a’ch pecynwaith cludo yn cael ei gyflenwi’n uniongyrchol i fusnes sy’n ddefnyddiwr terfynol yr holl becynwaith, does dim angen ichi roi gwybod amdano yn y categori hwn.
Beth sy’n cael ei ystyried yn becynwaith nad yw’n becynwaith cartref?
Dylech ddosbarthu’r pecynwaith a ganlyn fel pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref:
- pecynwaith eilaidd
- pecynwaith trydyddol
Dylech hefyd ddosbarthu pecynwaith sylfaenol neu becynwaith cludo fel pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref os ydych chi’n ei gyflenwi i fusnes sydd yn un o’r canlynol:
- defnyddiwr terfynol y nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y pecynwaith
- sefydliad sy’n cyflenwi’r nwyddau i ddefnyddiwr terfynol gyda’r holl becynwaith wedi’i dynnu
Mae angen ichi allu dangos tystiolaeth o hyn. Os na allwch chi, mae’n rhaid ichi ddosbarthu’r pecynwaith hwn fel pecynwaith cartref.
Sut i ddarparu tystiolaeth bod rhywbeth yn becynwaith nad yw’n becynwaith cartref
Bydd y rheoleiddiwr amgylcheddol yn adolygu a ydych chi wedi gwneud asesiad cadarn a yw’ch pecynwaith yn becynwaith cartref ynteu’n becynwaith nad yw’n becynwaith cartref. Defnyddiwch y dystiolaeth a restrir yma fel canllaw i ategu’ch asesiad.
Bydd angen ichi gadw’r dystiolaeth hon am o leiaf 7 mlynedd.
Tystiolaeth ar gyfer nwyddau arbenigol sydd at ddefnydd busnes yn unig
Mae hyn yn gymwys i nwyddau pwrpasol neu arbenigol lle gallai’r defnyddiwr terfynol fod yn fusnes yn unig. Y defnyddiwr terfynol yw eich cwsmer hefyd.
Yn yr achos hwn, gallai’ch tystiolaeth gynnwys:
- manylebau’r cynhyrchion pwrpasol
- anfonebau (gyda rhifau TAW yn dystiolaeth o gyfrifon busnes)
- contractau cwsmeriaid
Tystiolaeth o gontractau gwasanaeth neu gontractau cynnal a chadw
Mae hyn yn gymwys i gynhyrchion sy’n rhan o drefniant cyflenwi uniongyrchol. Er enghraifft, gall sefydliad gyflenwi cynnyrch fel rhan o gytundeb gwasanaeth.
Yn yr achos hwn, gallai’ch tystiolaeth gynnwys:
- contractau gwasanaeth
- adroddiadau ailgyflenwi stoc
Tystiolaeth arall
Yn ychwanegol at y dystiolaeth a restrir, gallech ddefnyddio cadarnhad y cwsmeriaid fel ffynhonnell dystiolaeth. Dylai cadarnhad y cwsmer ddangos mai eich cwsmer busnes uniongyrchol yw defnyddiwr terfynol y pecynwaith sylfaenol a’r pecynwaith cludo, neu nad yw’n ei gyflenwi i neb arall.
Dylech hefyd ddefnyddio cadarnhad gan y cwsmeriaid os na allwch ddarparu unrhyw un o’r mathau o dystiolaeth a restrir.
Gallai’r dystiolaeth hon gynnwys:
-
contractau cyflenwi
-
cadarnhad ysgrifenedig gan y cwsmer (yn ei gwneud yn glir mai’r cwsmer y gwnaethoch chi gyflenwi’r pecynwaith iddo yw’r defnyddiwr terfynol)
Pecynwaith sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus
Rhaid ichi gyflwyno data am ddeunydd a phwysau pecynwaith cartref sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus. I wneud hyn, dylech gasglu data am unrhyw becynwaith yn y rhestr o ‘eitemau sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus’.
Ar gyfer unrhyw becynwaith yn y categori hwn, dim ond yn y categori hwn y mae angen ichi roi gwybod amdano. Does dim angen ichi roi gwybod amdano fel pecynwaith cartref hefyd.
Dyma’r rhestr lawn o eitemau sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus:
- pecynwaith a ddarperir i ddefnyddwyr gyda bwyd neu ddiod i fynd, gan gynnwys deunydd lapio, blychau, cwpanau, dalwyr cwpanau, bagiau, papur a gwellt
- pecynwaith ar felysion, lle mae’r melysion yn pwyso llai na 230g, gan gynnwys pecynwaith gwm cnoi a deunydd lapio siocled
- pecynwaith ar sigaréts, sigarau, tybaco ac e-sigaréts
- pacedi creision neu becynwaith ar fyrbrydau sawrus eraill, lle mae’r creision neu’r byrbrydau yn pwyso llai na 60g
- pecynwaith ar ddarnau sengl o fwyd y gellir eu bwyta ar unwaith heb eu paratoi ymhellach, gan gynnwys rholiau selsig, swshi, brechdanau, bisgedi a chacennau unigol
- cartonau sy’n dal 850ml neu lai o ddiod, y gall eu cynnwys gael ei yfed ar unwaith heb ei lastwreiddio
- cydau sy’n cynnwys llai na 600ml o ddiod, y gall eu cynnwys gael ei yfed ar unwaith heb ei lastwreiddio
Mae’r rhestr o eitemau sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a gall newid ar ddiwedd y flwyddyn adrodd.
Cynwysyddion diodydd
Rhaid ichi gyflwyno pwysau’r pecynwaith sy’n cael ei ddosbarthu fel cynwysyddion diodydd untro yn ogystal â faint (mewn unedau) o gynwysyddion diodydd a gyflenwyd. Dim ond ar gyfer cynwysyddion diodydd sy’n cael eu rhoi ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y mae angen ichi wneud hyn.
Dim ond yn y categori hwn y mae angen ichi roi gwybod am gynwysyddion diodydd. Does dim angen ichi roi gwybod amdanynt o dan becynwaith cartref hefyd.
Darganfyddwch beth sydd angen ichi ei wneud os ydych chi’n cyflenwi diodydd mewn cynwysyddion untro yn yr Alban.
Beth sy’n cael ei ystyried yn gynhwysydd diodydd?
Mae hyn yn cynnwys poteli neu ganiau ar gyfer diodydd. Dylai’r rhain fod wedi’u gwneud o unrhyw un neu ragor o’r deunyddiau canlynol:
- plastig polyethylen tereffthalat (PET)
- gwydr
- dur
- alwminiwm
Dylai cynwysyddion diodydd ddal 50ml i 3l o hylif. Mae hyn yn cynnwys cynwysyddion sy’n 50ml i 3l ac yn cael eu cyflenwi mewn aml-becynnau.
Sut dylai sefydliadau mawr gategoreiddio data am gynwysyddion diodydd
Rhaid ichi rannu’ch data am gynwysyddion diodydd yn 2 gategori:
- cynwysyddion diodydd cartref
- cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref
I ddeall sut i wneud hyn, gweler yr adran ‘Pecynwaith cartref a phecynwaith nad yw’n becynwaith cartref’.
Bydd y rhan fwyaf o gynwysyddion diodydd yn perthyn i’r categori ‘cynwysyddion diodydd cartref’. Y rheswm am hyn yw y byddant wedi’u gwneud o becynwaith sylfaenol.
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n cyflenwi cynwysyddion diodydd nad ydynt yn rhai cartref, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth bod hyn yn wir.
Sut dylai sefydliadau bach gategoreiddio data am gynwysyddion diodydd
Dylech roi gwybod am eich holl gynwysyddion diodydd fel ‘cynwysyddion diodydd cartref’.
Pecynwaith ailddefnyddiadwy
Dim ond y tro cyntaf y mae’n cael ei gyflenwi y bydd angen ichi roi gwybod am becynwaith ailddefnyddiadwy. Bydd angen ichi ei rannu’n ddau gategori:
- pecynwaith ailddefnyddiadwy sy’n becynwaith sylfaenol
- pecynwaith ailddefnyddiadwy nad yw’n becynwaith sylfaenol
Ar gyfer pecynwaith ailddefnyddiadwy, dylech roi gwybod am ddata yn unol â gweddill eich data pecynwaith (sef naill ai o 1 Ionawr neu o 1 Mawrth ymlaen). Os nad oes gennych yr holl ddata gofynnol ar gyfer pecynwaith ailddefnyddiadwy o’r naill ddyddiad neu’r llall, dylech roi gwybod o 1 Gorffennaf 2023 ymlaen.
Yn ogystal â rhoi gwybod amdano yn y categori hwn ar wahân, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw becynwaith ailddefnyddiadwy yn cael ei gynnwys yn y pecynwaith cartref a’r pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref yr ydych chi’n rhoi gwybod amdano. Pan fyddwch yn gwneud hyn, dim ond o 1 Ionawr ac o 1 Mawrth ymlaen y cewch chi roi gwybod amdanynt.
Gwastraff hunan-reoledig
Mae dau beth y mae angen ichi roi gwybod amdanyn nhw yn y categori gwastraff hunan-reoledig:
- gwastraff defnyddwyr – megis gwastraff rydych chi’n ei gasglu drwy gynllun derbyn yn ôl ym mlaen y siop i wrthbwyso’ch pecynwaith cartref
- gwastraff y sefydliad - fel gwastraff ‘wedi’i gludo’n ôl’
Ar gyfer y gwastraff hunan-reoledig rydych chi’n rhoi gwybod amdano, mae angen ichi ddweud wrthon ni am unrhyw wastraff sy’n cael ei gasglu mewn un wlad yn y Deyrnas Unedig a’i anfon i wlad arall i’w ailgylchu. Ar gyfer gwastraff defnyddwyr, rhaid ichi roi gwybod am ddata ar gyfer gwastraff sydd wedi’i ailgylchu yn unig.
Mae angen ichi bennu ym mha wlad y casglwyd y pecynwaith ac i ba un y cafodd ei anfon. Rhaid i hyn gael ei ddadansoddi yn ôl pwysau a math o ddeunydd.
Er enghraifft, os ydych chi’n casglu gwastraff pecynwaith mewn siop groser yn yr Alban ond yn ei symud i ganolfan ddosbarthu yn Lloegr cyn iddo gael ei anfon i’w ailgylchu, bydd angen ichi gasglu’r data hwn.
Gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig
Os ydych chi’n sefydliad mawr, gall gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig rydych chi’n rhoi gwybod amdano gael ei ddefnyddio i wrthbwyso pecynwaith rydych chi wedi rhoi gwybod amdano fel pecynwaith cartref. Bydd hyn yn lleihau’ch ffi rheoli gwastraff.
Bydd angen ichi adrodd cyfanswm y pwysau, wedi’i ddadansoddi yn ôl y math o ddeunydd. Rhaid ichi fod â thystiolaeth ei bod wedi cael ei ailgylchu.
Mae dau fath gwahanol o wastraff defnyddwyr hunan-reoledig:
- gwastraff pecynwaith wedi’i adennill nad yw’n cael ei gasglu’n gyffredin gan awdurdodau lleol
- gwastraff pecynwaith ailddefnyddiadwy
Ychwanegwch y rhain at ei gilydd pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am eich gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig.
Gwastraff pecynwaith wedi’i adennill nad yw’n cael ei gasglu’n gyffredin gan awdurdodau lleol
Bydd angen ichi roi gwybod am ddata am unrhyw wastraff pecynwaith sydd wedi’i adennill oddi wrth ddefnyddwyr rydych chi’n ei gasglu drwy gynllun ailgylchu hunan-reoledig.
Mae enghreifftiau o’r cynlluniau hyn yn cynnwys:
- pwyntiau casglu bagiau plastig mewn archfarchnadoedd
- cynlluniau sy’n caniatáu i bobl ddychwelyd pacedi creision gwag i’w hailgylchu
Mae hyn yn gymwys i wastraff pecynwaith nad yw’n cael ei gasglu’n gyffredin gan awdurdodau lleol yn unig.
Os byddwch yn adennill gwastraff oddi wrth ddefnyddwyr sy’n cael ei gasglu’n gyffredin gan awdurdodau lleol, dylech roi gwybod am hyn fel ‘gwastraff sefydliad hunan-reoledig’.
Eitemau sy’n cael eu casglu’n gyffredin gan awdurdodau lleol i’w hailgylchu
Yr eitemau sy’n cael eu casglu’n gyffredin ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig i’w hailgylchu yw:
- erosolau
- poteli a jariau
- amlenni brown
- llewys cardfwrdd
- bocsys grawnfwyd
- cardfwrdd rhychog
- poteli glanedyddion a deunydd glanhau cartref
- poteli diodydd
- caniau diod
- bocsys wyau
- hambyrddau ffoil
- potiau a thiwbiau bwyd
- tuniau bwyd
- basgedi ffrwythau a llysiau
- tybiau margarîn
- poteli llaeth
- tiwbiau rholion toiled
- poteli pethau ymolchi a photeli siampŵ
- hambyrddau plastig
- amlenni ffenestri
- potiau iogwrt
Yn Lloegr, mae awdurdodau lleol hefyd yn casglu’r canlynol yn gyffredin i’w hailgylchu:
- ffoil
- papur wedi’i larpio
Yng Ngogledd Iwerddon, mae awdurdodau lleol hefyd yn casglu’r canlynol yn gyffredin i’w hailgylchu:
- cartonau tetra a chartonau bwyd hylifol a diod
Yn yr Alban, mae awdurdodau lleol hefyd yn casglu’r canlynol yn gyffredin i’w hailgylchu:
- ffoil
- caeadau jariau gwydr
- papur wedi’i larpio
- cartonau tetra a chartonau bwyd hylifol a diod
Yng Nghymru, mae awdurdodau lleol hefyd yn casglu’n gyffredin ar gyfer ailgylchu:
- ffoil
- caeadau jariau gwydr
- papur wedi’i larpio
Gwastraff pecynwaith ailddefnyddiadwy
Dyma wastraff o becynwaith sydd:
- wedi’i ailddefnyddio ac wedi’i ail-lenwi o leiaf unwaith
- ddim yn cael ei ddefnyddio fel pecynwaith mwyach - mae wedi dod yn wastraff
- wedi’i adennill oddi wrth gwsmeriaid
Er enghraifft, gallai hyn gynnwys poteli llaeth gwydr nad oes modd eu defnyddio mwyach a chithau wedi’u hanfon i’w hailgylchu.
Sut mae gwrthbwyso’n gweithio
Mae dau fath gwahanol o wastraff defnyddwyr hunan-reoledig:
- gwastraff pecynwaith wedi’i adennill nad yw’n cael ei gasglu’n gyffredin gan awdurdodau lleol
- gwastraff pecynwaith ailddefnyddiadwy
Gall y gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig hwn rydych chi’n rhoi gwybod amdano gael ei ddefnyddio i wrthbwyso pecynwaith rydych chi wedi rhoi gwybod amdano fel pecynwaith cartref. Bydd hyn yn lleihau’ch ffi rheoli gwastraff.
Dim ond os yw’r deunydd rydych chi wedi’i gasglu fel rhan o’ch gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig o’r un deunydd pecynnu â’r pecynwaith cartref rydych chi wedi rhoi gwybod amdano y cewch chi ei wrthbwyso.
Er enghraifft, os ydych chi wedi casglu bagiau plastig i’w hailgylchu, fel rhan o gynllun cymryd yn ôl ym mlaen y siop, gallwch wrthbwyso hyn yn erbyn unrhyw becynwaith plastig rydych chi wedi rhoi gwybod amdano yn y categori pecynwaith cartref. Er hynny, os nad ydych wedi rhoi gwybod am unrhyw becynwaith plastig, ni fydd unrhyw wrthbwyso ar gael ichi.
Gwastraff sefydliad hunan-reoledig
Bydd angen hefyd ichi gasglu data am yr holl wastraff pecynwaith rydych chi wedi’i gasglu ar y safle.
Gallai hyn gynnwys ‘cludo’n ôl’ neu lle rydych chi wedi trefnu i gontractwr preifat fynd â gwastraff pecynwaith i ffwrdd.
Gall hyn gynnwys:
- gwastraff pecynwaith â’ch brand eich hun arno
- gwastraff pecynwaith brandiau eraill
- gwastraff pecynwaith rydych chi wedi’i gael gan sefydliad arall i’w ‘gludo’n ôl’
- gwastraff pecynwaith heb ei frandio
- gwastraff pecynwaith rydych chi wedi ei adennill oddi wrth ddefnyddwyr ac sy’n cael ei gasglu’n gyffredin gan awdurdodau lleol
Er enghraifft, gallwch dynnu pecynwaith trydyddol neu eilaidd oddi ar gynhyrchion cyn eu harddangos i gwsmeriaid. Ar ôl tynnu’r pecynwaith hwn, rydych chi’n trefnu iddo gael ei gasglu o’ch safle gan gontractwr preifat a’i anfon i’w ailgylchu. Yn yr achos hwn, dylech gasglu’r data hwn a’i gofnodi yn y categori hwn.
Data am ddosbarth y pecynwaith
Pecynwaith sylfaenol
Pecynwaith sylfaenol yw’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio i gynnwys un ‘uned werthu’ i’w gwerthu i gwsmeriaid. Ar gyfer uned werthu sy’n cynnwys llawer o eitemau, megis aml-becyn, mae’r pecynwaith sylfaenol yn cynnwys yr holl becynwaith ar yr eitemau.
Er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu pys mewn tuniau dur gyda labeli papur, y pecynwaith sylfaenol yw ‘tun dur’ a ‘label papur’.
Ar gyfer aml-becyn o greision mewn bagiau plastig, y pecynwaith sylfaenol yw’r ‘bagiau plastig’ o amgylch y creision a’r ‘bag plastig’ mwy o amgylch y pecynnau creision.
Pecynwaith eilaidd
Mae pecynwaith eilaidd wedi’i fwriadu ar gyfer grwpio sawl ‘uned werthu’ at ddibenion gwerthu neu gludo. Gall sefydliadau ddefnyddio pecynwaith eilaidd hefyd i arddangos nwyddau mewn siopau.
Er enghraifft, os ydych chi’n gosod tuniau o bys ar hambwrdd cardfwrdd ac yn gosod yr hambwrdd ar silff archfarchnad, y pecynwaith eilaidd yw ‘hambwrdd cardfwrdd’.
Pecynwaith cludo
Mae pecynwaith cludo wedi’i fwriadu ar gyfer cludo unedau gwerthu sengl neu luosog yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys bocsys cardfwrdd, papur swigod a bagiau post.
Er enghraifft, os ydych chi’n gosod ffôn symudol mewn blwch cardfwrdd ac yna’n rhoi’r blwch mewn bag post cyn ei gludo, y pecynwaith cludo yw ‘bag post’. Y pecynwaith sylfaenol yw ‘blwch cardfwrdd’.
Pecynwaith trydyddol
Defnyddir pecynwaith trydyddol i grwpio unedau pecynwaith eilaidd gyda’i gilydd i’w hamddiffyn wrth gael eu cludo neu eu trin trwy’r gadwyn gyflenwi.
Nid yw pecynwaith trydyddol yn cynnwys cynwysyddion ffyrdd, rheilffyrdd, llongau ac awyrennau.
Er enghraifft, os oes unedau pecynwaith eilaidd yn cael eu gosod mewn blychau cardfwrdd mwy sydd wedi’u selio â thâp parseli plastig a’u gosod ar baledi pren i’w cludo, y pecyn trydyddol yw ‘blwch cardfwrdd’, ‘tâp plastig’ a ‘phaled pren’.
Data am ddeunydd a phwysau pecynwaith
Ar ôl ichi gategoreiddio’ch data i’r gweithgareddau pecynnu perthnasol, rhaid ichi roi gwybod am bwysau’r deunyddiau unigol.
Dylid rhoi pwysau deunydd y pecynwaith mewn cilogramau (kg).
Mathau o ddeunydd
Dylech gategoreiddio’ch data yn ôl y deunyddiau canlynol:
- alwminiwm
- cyfansawdd wedi’i seilio ar ffeibrau
- gwydr
- papur neu gardfwrdd
- plastig
- dur
- pren
- ‘arall’
Mae ‘arall’ yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau rydych chi’n eu defnyddio nad ydyn nhw wedi’u rhestru yma. Er enghraifft, gallai deunyddiau eraill gynnwys:
- bambŵ
- serameg
- copr
- corc
- cywarch
- rwber
- silicon
Rhaid ichi roi gwybod am bob math o ddeunydd ar wahân.
Os ydych chi’n rhoi gwybod am ddeunyddiau o dan ‘arall’, rhaid ichi roi pwysau pob math o ddeunydd.
Pecynwaith cyfansawdd ac aml-ddeunydd
Mae pecynwaith cyfansawdd wedi’i wneud o’r canlynol:
- 2 neu fwy o haenau o wahanol ddeunyddiau
- deunyddiau nad oes modd eu gwahanu â llaw
Ar gyfer y math hwn o becynwaith, dylech roi gwybod am bwysau llawn y pecynwaith a dylech roi gwybod amdano fel y prif ddeunydd (y deunydd sy’n pwyso fwyaf).
Er enghraifft, mae pecyn creision yn cynnwys plastig a ffoil. Plastig yw’r prif ddeunydd, felly dylech roi gwybod am hyn fel plastig.
Dylech ddosbarthu deunydd fel ‘cyfansawdd wedi’i seilio ar ffeibrau’ os yw’r ddau amod a ganlyn wir:
- mai bwrdd papur neu ffeibrau papur yw’r prif ddeunydd
- bod y deunydd wedi’i lamineiddio â phlastig
Efallai y bydd iddo haenau o ddeunyddiau eraill hefyd.
Mae pecynwaith aml-ddeunydd wedi’i wneud o gydrannau o wahanol ddeunyddiau. Mae pecynwaith yn aml-ddeunydd pan fydd yn bosibl ei wahanu â llaw. Er enghraifft, pot iogwrt gyda llawes cardfwrdd y gellir ei dynnu â llaw.
Ar gyfer y math hwn o becynwaith, dylech gofnodi pwysau’r gwahanol ddeunyddiau ar wahân.
Gwiriwch a oes angen ichi riportio data cenedl
Mae data cenedl yn wybodaeth am ba wlad yn y Deyrnas Unedig mae’r pecynwaith yn cael ei gyflenwi ynddi ac ym mha wlad yn y Deyrnas Unedig y caiff y pecynwaith ei waredu.
Os oes rhaid i’ch sefydliad weithredu o dan yr EPR dros becynwaith, rhaid ichi gyflwyno data cenedl os ydych chi hefyd yn gwneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol:
- cyflenwi pecynwaith wedi’i lenwi neu becynwaith gwag yn uniongyrchol i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig, a nhw yw defnyddiwr terfynol y pecynwaith
- cyflenwi pecynwaith gwag i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sydd naill ai heb rwymedigaeth gyfreithiol, neu sy’n cael eu dosbarthu fel sefydliad bach
- llogi neu roi benthyg pecynwaith ailddefnyddiadwy
- yn berchen ar farchnad ar-lein lle mae sefydliadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gwerthu eu pecynwaith a’u nwyddau wedi’u pecynnu i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig
- mewnforio nwyddau wedi’u pecynnu i’r Deyrnas Unedig at eich defnydd eich hun a gwaredu’r pecynwaith
Bydd angen ichi gyflwyno’ch data cenedl ar gyfer blwyddyn galendr 2023 erbyn 1 Rhagfyr 2024.
Dylai data cenedl ddangos ble yn y Deyrnas Unedig rydych chi wedi cyflenwi pecynwaith i berson neu fusnes sydd wedi mynd ymlaen i’w waredu.
Mae cyflenwi pecynwaith yn cynnwys:
- gwerthu
- llogi
- rhoi benthyg
- rhoi fel rhodd
Mae hyn hefyd yn cynnwys pecynwaith rydych chi wedi’i fewnforio, wedi’i wagio ac yna wedi’i waredu.
Sut y dylai rhiant-gwmnïau roi gwybod am ddata
Os ydych wchi edi cofrestru ar gyfer yr EPR dros becynwaith fel rhiant-gwmni, rhaid ichi gyflwyno data ar gyfer pob un o’r is-gwmnïau o fewn eich cofrestriad grŵp ar wahân.
Does dim angen ichi gynnwys data ar gyfer unrhyw un o’ch is-gwmnïau sydd wedi cofrestru’n annibynnol.
Darganfyddwch sut mae’r EPR dros becynwaith yn effeithio ar riant-gwmnïau, grwpiau ac is-gwmnïau.
Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio
Defnyddir eich data i gyfrifo’ch ffi rheoli gwastraff a’ch rhwymedigaethau ailgylchu.
Bydd gweinyddwr y cynllun yn defnyddio rhywfaint o’ch data i gyfrifo’ch ffi rheoli gwastraff. I gyfrifo’r ffi hon, byddant yn edrych ar y canlynol:
- eich data am becynwaith cartref
- eich data am becynwaith sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus
Bydd y rheoleiddiwr amgylcheddol yn defnyddio’ch holl ddata ar gyfer 2023 i gyfrifo faint o nodiadau ailgylchu gwastraff pecynwaith (PRNs) a nodiadau ailgylchu allforio gwastraff pecynwaith (PERNs) y mae’n rhaid ichi eu prynu i dalu am eich rhwymedigaethau ailgylchu ar gyfer blwyddyn galendr 2024.
Enghreifftiau o sut i roi gwybod am ddata
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y dylech roi gwybod am eich data pecynwaith. Nid ydynt yn dangos sut i roi gwybod am ddata cenedl.
Enghraifft 1: Bwydydd archfarchnad wedi’u mewnforio
Mae cyfanwerthwr o’r Deyrnas Unedig yn mewnforio brocoli o Ffrainc. Mae’n gwerthu’r brocoli i archfarchnad yn y Deyrnas Unedig. Yna mae’r archfarchnad yn gwerthu’r brocoli i ddefnyddwyr o dan ei enw brand. Yr archfarchnad oedd yn gyfrifol am fewnforio’r brocoli ac mae’n gwneud hyn yn glir ar y label.
Pan fydd y brocoli yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, mae eisoes wedi’i lapio mewn ffilm blastig gyda label papur, sydd â brand yr archfarchnad arno. Mae’n cael ei storio mewn crât pren.
Mae’r cyfanwerthwr yn tynnu’r brocoli allan ac yn anfon y crât yn ôl i Ffrainc, lle mae’n cael ei ddefnyddio eto. Mae’r cyfanwerthwr yn pacio’r brocoli mewn hambyrddau plastig na ellir eu hailddefnyddio ac sydd heb eu brandio (megis hambyrddau IFCO). Maent yn rhoi’r hambyrddau plastig ar baledi pren wedi’u llogi a’u clymu â ffilm grebachu sydd heb ei frandio. Maen nhw’n anfon y paledi i archfarchnad.
Mae’r archfarchnad yn tynnu’r ffilm grebachu a’r paledi. Maen nhw’n rhoi’r hambyrddau plastig ar y silffoedd er mwyn i’r cwsmeriaid gael mynediad atynt. Mae’r archfarchnad yn anfon yr hambyrddau plastig ailddefnyddiadwy yn ôl at y cyfanwerthwr pan fyddant yn wag. Mae’r archfarchnad yn ailgylchu’r ffilm grebachu ac yn anfon y paledi yn ôl i’r cwmni llogi.
Ar ôl i ddefnyddiwr brynu brocoli, maen nhw’n tynnu’r ffilm blastig a’r label a’i roi yn ei bin.
Pwy sydd angen casglu data?
- y cyfanwerthwr
- yr archfarchnad
- y cwmni llogi
Y deunydd pecynwaith y dylent ei gofnodi
- ffilm grebachu
- hambyrddau plastig ailddefnyddiadwy
- ffilm blastig sy’n amddiffyn y brocoli
- labeli
Does dim angen rhoi gwybod am y cratiau pren y cafodd y brocoli eu cludo ynddynt, a hynny am eu bod nhw wedi’u hanfon i wlad arall i’w hailddefnyddio.
Data y dylai’r cyfanwerthwr ei gasglu
Mae angen i’r cyfanwerthwr roi gwybod am y ffilm grebachu a’r blychau plastig ailddefnyddiadwy.
Dylent gofnodi’r wybodaeth ganlynol ar gyfer y ffilm grebachu:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- math o becynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith trydyddol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: plastig
Dim ond y tro cyntaf y cânt eu defnyddio y bydd angen iddynt roi gwybod am y blychau plastig ailddefnyddiadwy. Dylent gofnodi’r 2 gofnod data canlynol ar gyfer y blychau plastig.
Cofnod data cyntaf:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- math o becynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith eilaidd
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: plastig
Ail gofnod data:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- math o becynwaith: ailddefnyddiadwy
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith sylfaenol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: plastig
Data y dylai’r archfarchnad ei gasglu
Mae angen i’r archfarchnad roi gwybod am y ffilm blastig sy’n amddiffyn y brocoli a’r labeli sydd â brand yr archfarchnad arnynt.
Dylent gofnodi’r data canlynol ar gyfer y ffilm blastig:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi
- math o becynwaith: pecynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith sylfaenol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: plastig
Dylent gofnodi’r data canlynol ar gyfer y labeli:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi
- math o becynwaith: pecynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith sylfaenol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: papur
Data y dylai’r cwmni llogi ei gasglu
Mae angen i’r cwmni llogi roi gwybod am y paledi pren. Dim ond y tro cyntaf y bydd angen iddyn nhw wneud hyn. Dylent gofnodi’r 2 gofnod data canlynol ar gyfer y paledi pren.
Cofnod data cyntaf:
- gweithgaredd pecynnu: llogi neu fenthyg
- math o becynwaith: pecynwaith nad yw’r becynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith trydyddol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: pren
Ail gofnod data:
- gweithgaredd pecynwaith: llogi neu fenthyg
- math o becynwaith: ailddefnyddiadwy
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith sylfaenol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: pren
Enghraifft 2: Pympiau gwres a wnaed dros y môr
Mae sefydliad peirianneg yn gwneud pympiau gwres ar gyfer cartrefi pobl. Maen nhw’n gwerthu’r rhain i allfeydd masnach a gosodwyr pympiau gwres. Mae’r pympiau yn cael eu gwneud yn Iwerddon gan y sefydliad peirianneg ac yn cael eu cludo i’r Deyrnas Unedig.
Ar ôl iddynt gael eu gwneud yn Iwerddon, mae’r pympiau yn cael eu rhoi mewn bocsys cardfwrdd sy’n dangos brand y sefydliad peirianneg. Mae’r bocsys yn cael eu rhoi mewn cynhwysydd a’u cludo i ganolfan ddosbarthu’r sefydliad peirianneg yn y Deyrnas Unedig.
Ar gyfer y pympiau sy’n cael eu hanfon at osodwyr, mae’r sefydliad peirianneg yn gosod pob pwmp ar baled pren. Maent hefyd yn gosod cydrannau eraill ar y paled, fel pibellau, ireidiau a chydrannau eraill. Mae’r rhannau hyn mewn deunydd lapio plastig heb ei frandio. Maent yn clymu’r paled â ffilm grebachu a’i anfon at y gosodwr.
Mae’r gosodwr yn tynnu’r holl becynwaith ac yn ei ailgylchu. Nid yw’r gosodwr yn anfon unrhyw becynwaith yn ôl i’r sefydliad peirianneg.
Ar gyfer y pympiau sy’n cael eu hanfon i siopau masnach, mae’r pympiau yn cael eu rhoi ar baledi sy’n perthyn i’r sefydliad peirianneg, gyda 6 ar bob un. Mae’r paledi yn cael eu clymu â ffilm grebachu a’u hanfon i siopau masnach.
Mae’r siop fasnach yn tynnu’r ffilm grebachu ac yn ei ailgylchu. Maen nhw’n anfon y paledi yn ôl i’r sefydliad peirianneg. Maen nhw’n rhoi’r pympiau gwres ar eu silffoedd.
Maent yn gwerthu’r pympiau gwres yn eu blychau cardfwrdd. Mae rhai yn mynd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, a rhai i gosodwyr pympiau gwres.
Mae’r gosodwyr a’r defnyddwyr yn tynnu’r blychau cardfwrdd a’u hailgylchu.
Pwy sydd angen casglu data?
Y sefydliad peirianneg yw’r unig un sydd angen rhoi gwybod am ddata, yn yr achos hwn.
Pwy sydd ddim angen casglu data?
Does dim angen i’r siopau masnach a’r gosodwyr pympiau gwres roi gwybod am ddata.
Data y dylai’r sefydliad peirianneg ei gasglu
Mae angen i’r sefydliad peirianneg gasglu data am y deunyddiau pecynnu canlynol:
- blychau cardfwrdd
- paledi
- ffilm grebachu
- deunydd lapio plastig
Dylent gasglu’r data canlynol ar gyfer y blychau cardfwrdd:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi
- math o becynwaith: pecynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith sylfaenol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: papur neu gardfwrdd
Dim ond y tro cyntaf y byddant yn cael eu defnyddio y mae angen iddynt roi gwybod am y paledi a ddychwelwyd. Dylent gasglu’r 2 gofnod data canlynol am y paledi a anfonir at y siopau masnach.
Cofnod data cyntaf:
- gweithgaredd pecynnu: llawn neu wedi’i lenwi fel un heb ei frandio
- math o becynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith trydyddol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: pren
Ail gofnod data:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- math o becynwaith: ailddefnyddiadwy
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith sylfaenol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: pren
Ar gyfer y paledi a anfonir at y gosodwyr (sy’n cael eu hailgylchu), dylent gasglu’r data canlynol:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- math o becynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith trydyddol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: pren
Dylent gasglu’r data canlynol ar gyfer y ffilm grebachu:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- math o becynwaith: pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith trydyddol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: plastig
Dylent gasglu’r data canlynol ar gyfer y deunydd lapio plastig:
- gweithgaredd pecynnu: wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio
- math o becynwaith: pecynwaith cartref
- dosbarth y pecynwaith: pecynwaith sylfaenol
- deunydd a phwysau’r pecynwaith: plastig
Cael cymorth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm pecynwaith.
E-bost: [email protected]
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Hydref 2024 + show all updates
-
A new edition of the regulators' ‘agreed positions and technical interpretations’ guidance has been published - this updates the version number where it is mentioned.
-
This version updates dates and deadlines for reporting 2024 and 2025 data. It also clarifies a point about 'supplied as empty' packaging and corrects some minor omissions.
-
Several small changes in this update: the start date for reporting on the 1 January to 30 June period has been updated from 1 July to 9 August 2024; Defra is looking for waste and packaging professionals to join a user research panel to help improve our services - a link to more information about how to take part has been added.
-
Minor updates around deadlines and definitions for clarity, based on user research feedback. Updating definition of shipment packaging. Linking to the agreed positions guidance from the section on how parent companies should report data, for examples.
-
Updated contact email address.
-
Adding link to the newly published list of large producers on the report packaging data service.
-
This change explains that the list of large producers on RPD will be published once the data is ready. It also clarifies the definition of shipment packaging.
-
This updates references to the regulators' 'agreed positions' guidance. A new version has been published that covers data submissions from 2024 onwards.
-
New reporting regulations come into force on 1 April that affect the packaging data some organisations must report. There are changes to several areas: - drinks containers - filling packaging - imported goods - what counts as household packaging - supplying empty packaging to large organisations - what packaging sellers are responsible for - transitional provisions for recycling obligations This update gives details on these changes.It also adds links to the environmental regulators' 'agreed positions' document.
-
Specifying that the second data report should be made between 1 Jan and 1 April 2024, giving deadline for reporting for the first half of 2023, and explaining that no enforcement action will be taken for late submissions up to 31 May 2024.
-
Including specific date from which to report data in Wales.
-
We've added a link so that you can give feedback about this guidance.
-
An update to match regulations: where packaging is decribed as 'imported, emptied and then discarded', that's been changed to 'imported and discarded' throughout.
-
This adds a link to the report packaging data service, which has now gone live.
-
Added Welsh translation
-
We’ve changed the title of the guidance. We’ve made minor changes to the style, order and some terminology to make the guidance clearer and to reflect the fact that the regulations are now in force. We’ve clarified that this guidance applies to England, Scotland, Northern Ireland and Wales. We’ve added a new section titled ‘When to collect and report your data for 2023’. We’ve updated the names of the 4 different data categories. We’ve also updated the following sections to make them clearer: ‘Supplied under your brand’ packaging; ‘Imported’ packaging; Household and non-household packaging; Drinks containers; Reusable packaging; Self-managed waste; Primary packaging; How parent companies should report data; Check if you need to report nation data; How your data will be used; Examples of how to report data. We’ve added information about multi-material packaging.
-
First published.