Sut rydym ni’n delio â phryderon diogelu
Yma, cewch wybod sut mae cael help os oes gennych chi bryderon bod rhywun yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso dan atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus neu orchymyn llys dirprwy.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Y sawl a wnaeth atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus yw’r ‘rhoddwr’ ac mae’n rhoi awdurdod i un neu fwy o bobl y mae’n ymddiried ynddynt a elwir yn ‘atwrneiod’.
Mae’r Llys Gwarchod yn penodi rhywun (‘dirprwy’) i wneud penderfyniadau ar ran person sydd heb alluedd meddyliol (‘cleient’) dan orchymyn llys dirprwy.
Gyda pha fath o bryderon gallwn ni helpu
Efallai eich bod yn poeni am y canlynol:
- sut mae atwrnai wedi gweithredu ers inni gofrestru’r atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus – er enghraifft, camddefnyddio arian y rhoddwr neu benderfyniadau nad ydynt er lles gorau’r rhoddwr
- a yw atwrnai wedi gwneud atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus yn gyfreithlon
- sut mae dirprwy wedi gweithredu ers cael ei benodi gan y Llys Gwarchod
Yn ôl y gyfraith, gallwn archwilio’r pryderon hyn a dechrau ymchwiliad.
Sut i roi gwybod am bryder
Os ydych am roi gwybod am bryder, gallwch ein helpu i amddiffyn y rhoddwr neu’r cleient yn gyflym drwy ddarparu:
- manylion y rhoddwr neu’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
- y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
- a yw’r pryder yn parhau
- unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
- beth rydych chi’n ei wybod am alluedd meddyliol y rhoddwr neu’r cleient, gan gynnwys copïau o unrhyw adroddiadau galluedd meddyliol neu enwau pwy allai fod â’r rhain
- eich manylion cyswllt
Os nad yw’r holl wybodaeth hon gennych, gallwch ddal i roi gwybod inni am bryder.
Byddwn wedyn yn asesu a oes gennym yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.
Beth sy’n digwydd yn ystod ymchwiliad
Rydym yn adolygu amgylchiadau drwy gydol ein hymchwiliadau ac os ydym ni’n meddwl bod angen i asiantaethau eraill fod yn rhan o ddiogelu’r rhoddwr neu’r cleient, byddwn yn rhoi gwybod iddyn nhw.
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn:
- gofyn i ymwelydd Llys Gwarchod asesu galluedd meddyliol y rhoddwr ac, os yw’n bosibl, holi’r rhoddwr am y pryderon sydd wedi dod i law
- gofyn i’r atwrneiod neu’r dirprwyon am esboniadau a thystiolaeth am y pryderon
- gofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am alluedd meddyliol, cyllid a gofal y person, ac a oes unrhyw un wedi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am bryderon diogelu
- gofyn am waith papur megis cyfriflenni banc, derbynebau a phapurau cyfreithiol a meddygol
Mewn rhai achosion, gallem:
Pasio i asiantaeth arall
Os oes pryderon nad oes gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus na’r Llys Gwarchod yr awdurdod i weithredu arnynt, byddwn yn trosglwyddo’r achos i asiantaeth arall a all weithredu. Er enghraifft, byddwn yn atgyfeirio oedolion sy’n agored i niwed i’r awdurdod lleol.
Pasio i’r heddlu
Byddwn yn dweud wrth yr heddlu os ydym ni’n meddwl bod trosedd wedi’i chyflawni.
Pa mor hir mae ymchwiliad yn ei gymryd
Mae hynny’n dibynnu ar ba mor gymhleth ydyw, faint o bobl sy’n gysylltiedig a pha mor gyflym y mae pobl yn rhoi gwybodaeth inni. Rydym yn ceisio cwblhau ymchwiliad o fewn 14 wythnos.
Beth sy’n digwydd ar ddiwedd ymchwiliad
Gallwn gymryd unrhyw un o’r camau canlynol:
Camau pellach
Os canfyddwn fod pryderon ynghylch y ffordd y mae’r atwrnai neu’r dirprwy yn cyflawni ei rôl, byddwn yn gofyn iddo gymryd camau penodol. Efallai y byddwn yn gwneud hyn hyd yn oed os ydym yn credu eu bod yn gweithredu er budd gorau’r rhoddwr neu’r cleient yn gyffredinol.
Byddwn yn monitro’r achos nes bydd y camau wedi cael eu cymryd a’n bod ni’n fodlon â’r canlyniadau.
Peidio â chymryd camau pellach
Os ydym wedi ymchwilio ac wedi canfod bod atwrnai neu ddirprwy yn gweithredu er budd gorau’r person y mae’n gwneud penderfyniadau drosto, ni fyddwn yn cymryd camau pellach.
Mae hyn yn wir hefyd os ydym wedi trosglwyddo manylion y pryder i asiantaeth arall.
Gwneud cais i’r Llys Gwarchod
Os oes gennym bryderon difrifol am les rhoddwr neu gleient, gallwn ofyn i’r Llys Gwarchod wneud penderfyniad.
Gall y Llys Gwarchod gymryd camau megis:
- rhewi cyfrifon banc rhoddwr neu gleient
- gorchymyn yr atwrnai neu’r dirprwy i ddarparu gwybodaeth inni
Fel dewis olaf, gallwn ofyn i’r Llys Gwarchod:
- diddymu atwrneiaeth arhosol
- diswyddo atwrnai neu ddirprwy
- penodi person addas i gymryd lle’r atwrnai neu’r dirprwy
Os caiff yr atwrnai neu’r dirprwy ei ddisodli
Os byddwn yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i ddiswyddo atwrnai neu ddirprwy, byddwn yn gofyn iddo ystyried rhywun arall (dirprwy) i gymryd yr awenau gyda materion y rhoddwr neu’r cleient
Wrth bwy rydym yn dweud am ganlyniad ymchwiliad
Byddwn yn dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad am ein penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, rydym yn gwarchod preifatrwydd rhoddwyr a chleientiaid felly nid ydym yn darparu gwybodaeth fanwl ac efallai na fyddwn yn darparu unrhyw wybodaeth.
Efallai na fyddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad os ydych wedi codi pryder gyda ni ac nid ydych wedi’ch enwi ar yr atwrneiaeth arhosol neu os nad ydych yn rhan o gorff proffesiynol.
Gwybodaeth bersonol
Nid ydym yn datgelu pwy yw unrhyw un sy’n rhoi gwybod inni am bryder, oni bai eu bod yn dweud fel arall wrthym.
Dim ond am y rhesymau hyn yr ydym yn rhannu gwybodaeth am bryderon neu ymchwiliadau y tu allan i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:
- gwneud cais i’r Llys Gwarchod
- dweud wrth yr heddlu am drosedd bosibl
- cael help gan awdurdod lleol neu asiantaeth arall
- o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2010, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)
Edrychwch ar ein siarter gwybodaeth bersonol bersonol i gael manylion llawn ein polisi preifatrwydd.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Awst 2024 + show all updates
-
Update to explain people may not be informed about the outcome of an investigation
-
Adding the Welsh language version of the content
-
First published.