Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol
Sefydlwyd yr adolygiad i ystyried sut mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gweithio’n ymarferol ac os oes angen newid. Cyflwynodd y Panel annibynnol ei adroddiad i’r Dirprwy Brif Weinidog ym mis Hydref 2021.
Gwybodaeth am yr Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol
Sefydlodd y llywodraeth adolygiad annibynnol yn Rhagfyr 2020 i archwilio fframwaith y Deddf Hawliau Dynol, sut mae’n gweithredu’n ymarferol ac a oes angen unrhyw newid. Yn benodol, bydd yr adolygiad yn edrych ar ddwy thema allweddol, a amlinellir yn y Cylch Gorchwyl fel a ganlyn
- Y berthynas rhwng y llysoedd domestig a Llys Hawliau Dynol Ewrop
- Effaith y Ddeddf Hawliau Dynol ar y berthynas rhwng y farnwriaeth, y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa. Cyflwynodd y Panel ei adroddiad i’r Dirprwy Brif Weinidog ym mis Hydref 2021. Mae’r adroddiad bellach wedi’i gyhoeddi.
Mae’r llywodraeth wedi ymateb i’r adroddiad gan nodi ei chynnigion i ddiwygio’r Deddf Hawliau Dynol mewn papur ymgynghori a gyhoeddwyd ar consult.justice.
Adroddiad y Panel
Cais am Dystiolaeth
Bu i’r adolygiad lansio Galwad am dystiolaeth cyhoeddus ar 13 Ionawr 2021 ac a ddaeth i ben ar 3 Mawrth 2021. Mae ymatebiadau wedi’I huwchlwytho i’r ddolen gysylltiedig.
Nid yw cyhoeddi’r ymatebion ar y wefan hon yn awgrymu bod yr Adolygiad o’r Ddeddf Hawliau Dynol Annibynnol yn cefnogi’r safbwyntiau sydd ynddo. Mae’r Panel Annibynnol ar Adolygu’r Ddeddf Hawliau Dynol yn cadw’r hawl i beidio â chyhoeddi ymatebion ar y wefan hon. Gall benderfynu peidio â chyhoeddi ymatebion lle mae’n dod i’r casgliad bod eu cyhoeddi yn debygol o fod yn sarhaus, yn ddifenwol, yn debygol o gymell cyflawni trosedd neu o fod yn anghyfreithlon.
Ymatebion y cais am dystiolaeth
Sioeau Teithiol
Gellir gweld recordiadau o sioeau teithiol ADHD ar Youtube.
Hysbysiad Preifatrwydd
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n rheoli y data ar gyfer unrhyw ddata personol a gynhwysir mewn ymatebion i Gais am Dystiolaeth yr AADHD. Bydd y data hwn yn cael ei gasglu a’i brosesu ar gyfer rhoi gwybod i Banel yr IHRAR am y materion a nodir yn y Cylch Gorchwyl a materion cysylltiedig eraill, megis datblygiad yn ymateb y llywodraeth i adroddiad y Panel. Am fwy o wybodaeth, ewch i Hysbysiad Preifatrwydd.
Er budd bod yn agored a thryloyw, mae ymatebion y cais am dystiolaeth wedi cael eu cyhoeddi ar wefan yr AADHD, gyda’r ymatebydd wedi’i nodi.
Dylid nodi, hyd yn oed os nad yw’ch ymateb wedi’i gyhoeddi y gellir ei ddatgelu fodd bynnag yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU, a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Aelodaeth
- Syr Peter Gross – Cadeirydd y Panel
- Simon Davis
- Y Farwnes O’Loan
- Syr Stephen Laws CF
- Lisa Giovannetti CF
- Yr Athro Maria Cahill
- Yr Athro Tom Mullen
- Alan Bates
Cofnodion Cyfarfodydd
Cofnodion Cyfarfodydd (ZIP, 3.54 MB)
Cylch Gorchwyl
Cylch Gorchwyl (PDF, 118 KB, 2 tudalen)
Ysgrifenyddiaeth
Darparwyd yr Ysgrifenyddiaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Rhagfyr 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Rhagfyr 2021 + show all updates
-
Full report and executive summary published.
-
Meeting minutes updated.
-
Meeting minutes updated.
-
Meeting minutes updated.
-
Meeting minutes updated.
-
Meeting minutes updated.
-
Meeting minutes updated.
-
Link to Roadshow videos added.
-
Meeting minutes published.
-
Call for Evidence: Individual responses M to Z updated.
-
Oxford roadshow registration link added.
-
UCL Roadshow event register link added.
-
Glasgow roadshow registration link added.
-
Roadshow dates updated.
-
Roadshow information published.
-
Organisation & individual responses updated.
-
Organisation responses to Call for Evidence published.
-
Organisation responses updated.
-
Call for evidence individual and organisation responses updated and published.
-
Minor updates to call for evidence document, added privacy notice and responses
-
Call for Evidence responses published.
-
Call for Evidence published.
-
First published.